Lansio podlediad cerddoriaeth Y Sôn

Mae blog cerddoriaeth Sôn am y Sîn wedi lansio podlediad newydd sy’n trafod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yr wythnos hon.

‘Y Sôn’ ydy enw’r podlediad newydd ac mae modd i chi wrando arno, neu danysgrifio i’r ffrwd trwy iTunes neu Soundcloud.

Chris Roberts a Gethin Griffiths sy’n gyfrifol am flog Sôn am y Sîn a lansiwyd rhyw ddwy flynedd yn ôl, a nhw sy’n gyfrifol am y podlediad newydd hefyd.

Yn y podlediad cyntaf a ryddhawyd ddydd Llun (21 Awst) maen nhw’n trafod y clwstwr EPs sydd wedi’i rhyddhau gan fandiau newydd yn ddiweddar, gan gynnwys Cadno, Hyll, Ffracas ac Yr Oria.

Mae’r ddeuawd hefyd yn mynegi eu barn am y storm ddiweddar ynglŷn â Bryn Fôn yn dilyn ‘Steddfod Môn, yn ogystal â thrafod cerddoriaeth yn yr Eisteddfod yn fwy cyffredinol.

Mae Chris Roberts yn gyflwynydd radio profiadol, sy’n gweithio i Môn FM ar hyn o bryd, ac mae’r profiad hwnnw’n amlwg mewn podlediad o safon. Os ydy’r cyntaf yn arwydd o’r hyn sydd i ddod yna gallwn edrych ymlaen yn eiddgar am bodlediadau’r dyfodol.

Gallwch wrando ar y podlediad cyntaf fan hyn ac ar Soundcloud, neu danysgrifio ar iTunes/apps podlediadau cysylltiedig ag iTunes. Neu i arbed gwaith i chi, dyma fo isod hefyd!