Bydd y canwr-gyfansoddwr o Abergele, Al Lewis, yn perfformio yng ngŵyl Glastonbury eleni gyda’i brosiect diweddaraf, Lewis & Leigh.
Lewis & Leigh ydy’r ddeuawd mae Al wedi ffurfio gyda’r gantores Alva Leigh o Mississippi. Dechreuodd y ddau ysgrifennu gyda’i gilydd yn 2014 cyn mynd ati i recordio eu halbwm cyntaf, ‘Ghost’, ar ddechrau 2016.
Mae’r albwm wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol dros ben gan gynnwys pedair seren yng nghyhoeddiadau amlwg The Observer, Q, a guardian.co.uk.
Cynhelir Glastonbury eleni yn ôl yr arfer ar Fferm Worthy yng Ngwlad yr Haf rhwng 21 a 25 Mehefin. Bydd Lewis & Leigh yn perfformio ar y llwyfan acwstig am 12:50 ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin.