A ninnau bellach wedi cyhoeddi rhifyn 50 o’r’ cylchgrawn, mae’r Selar yn gyfarwydd â chyhoeddi mewn print, ond rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Y Selar am gyhoeddi llyfr am y tro cyntaf erbyn y Nadolig eleni.
Bydd Llyfr Y Selar yn cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa a bydd yn cynnwys nifer o uchafbwyntiau Y Selar dros y flwyddyn ddiwethaf, ynghyd ag eitemau am nifer o uchafbwyntiau’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes dros yr un cyfnod.
Ac rydan ni isho i chi, ddarllenwyr ffyddlon Y Selar fod yn ran ganolog o’r llyfr newydd, gan ddweud wrthom beth ddylai gael ei gynnwys.
Yn benodol, rydym eisiau gwybod pa gigs oedd rhai gorau’r flwyddyn yn eich barn chi, a hefyd eisiau lluniau o’r gigs hynny i ni gynnwys rhwng cloriau Llyfr Y Selar. Gyrrwch eich sylwadau a lluniau i ni at yselar@live.co.uk
Rydym hefyd eisiau clywed eich syniadau ynglŷn â beth arall ddylid ei gynnwys yn y llyfr – rydym yn awyddus i’r gyfrol adlewyrchu blwyddyn gerddorol ein darllenwyr. Pa fandiau newydd sy’n haeddu sylw? Ydach chi eisiau talu teyrnged i grŵp sydd wedi chwalu? Rydym eisiau eich barn a chyfraniadau.
Felly peidiwch ag oedi, gyrrwch eich syniadau cyn gynted â phosib.