Marathon Roc – cyfle unigryw i gerddorion ifanc

Mae cwrs arbennig yn cael ei gynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon rhwng 31 Hydref a 3 Tachwedd ar gyfer pobl ifanc rhwng yr oedran 13-25 sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth.

Marathon Roc ydy enw’r cwrs a gynhelir yn ystod hanner tymor yr Hydref, ac mae ar agor i fandiau ac unigolion. Cwrs dros bedwar diwrnod fydd yn arwain at gig gyda’r hwyr yn y Galeri i orffen.

£60 yw’r gost am y cwrs cyfan, ac mae cyfle i weithio gyda rhai o gerddorion amlycaf Cymru fel tiwtoriaid. Mae’r tiwtoriaid yn cynnwys Osian Huw Williams (Candelas, Palenco, Siddi, Alys Williams a’r Band), Branwen Hâf Williams (Siddi, Cowbois Rhos Botwnnog, Alys Williams a’r Band), a Gai Toms (Brython Shag, Anweledig gynt).

Mae’r cwrs yn gyfle gwych i fandiau ac unigolion sydd eisiau creu band i ddatblygu, cyfansoddi a pherfformio gyda chymorth cerddorion proffesiynol.

Dyddiad cau’r ceisiadau ydy 10 Hydref, ac mae mwy o wybodaeth ar wefan Sbarc.

Er mwyn cyflwyno cais, gallwch wneud hynny dros e-bost – sbarc@galericaernarfon.com.