Wrth glywed nodyn cyntaf y piano ar ‘Backs Turned’, sengl gyntaf Names, mae dyn yn teimlo bod rhywbeth arbennig ar fin digwydd. Yna, wedi rhyw 20 eiliad, daw llais Ioan Hazell i roi ias lawr eich cefn – ias sy’n parhau, a chynyddu, trwy gydol y bedair munud a hanner o’r gân hudolus yma.
Nid dyma’r oedd rhywun yn disgwyl gan brosiect newydd ffryntman egnïol y grŵp roc gwych Cpt Smith, a drymiwr y pedwarawd pync o Benfro, Ffug.
Mae Ioan Hazell gyda Cpt Smith, a Joey Robbins gyda Ffug yn aelodau o ddau o fandiau mwyaf bywiog Cymru ar hyn o bryd a’u perfformiadau byw fel arfer yn gadael y dorf yn chwys diferol ar ôl ymroi i’r moshpit.
Ond mae Names yn brosiect gwahanol iawn – yn gerddoriaeth pop amgen gyda pherthynas y piano a’r drymiau (a llais Ioan) yn creu rhyw sŵn syml ond hynod o ddwys. Gellid efallai disgrifio Names fel plentyn siawns Radiohead ac Euros Childs…ac fel y gallwch ddychmygu mae’r babi newydd yma’n beth prydferth dros ben.
“Prosiect newydd yw hwn sy’n gwbl wahanol i’n bandiau gwreiddiol ni” meddai Joey wrth Y Selar.
“Ond rydyn ni’n bwriadu rhoi’r un ymdrech mewn iddo [ag i Cpt Smith a Ffug].”
“Fel artistiaid, rydw i ac Ioan yn gobeithio creu rhywbeth newydd mae’r ddau ohonom ni’n teimlo’n gryf iawn amdano, ac ry’n ni am roi llawer o amser i mewn i’r prosiect.”
Dirgelwch unigryw
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol, i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim, ar label Libertino ar 20 Mai. Libertino ydy enw newydd Recordiau Decidedly, sydd wedi bod yn gweithio gyda nifer o artistiaid ifanc ac addawol ardal Caerfyrddin a’r De Orllewin dros y chwe mis i flwyddyn ddiwethaf.
Yn y datganiad swyddogol ynglŷn â’r sengl, dywed y label – “Ni ellir ond cyfeirio at ‘Names’ fel dirgelwch cerddorol unigryw nad oes angen ei ddatrys.”
Dweud da yn sicr. Er bod modd clywed y dylanwadau, o Radiohead i Nic Cave, mae’r sŵn yn unigryw ac yn drawiadol dros ben.
Yn ôl Joey, maen nhw’n gobeithio cynhyrchu fideo ar gyfer y sengl newydd yn fuan, a hefyd yn gobeithio bydd ail sengl Names yn dilyn yn fuan iawn wedi hynny.
Er yr ymroddiad amlwg i’r prosiect, yn ddifyr iawn, does ganddyn nhw ddim cynlluniau i gigio ar hyn o bryd a hynny’n ôl Joey gan eu bod nhw am ganolbwyntio ar greu y caneuon a fideos i gyd-fynd â’r caneuon.
Os fydd y caneuon nesaf hanner cystal â’r sengl gyntaf, rydan ni’n weddol siŵr bydd digon o gynigion i’r ddeuawd berfformio’n fyw.