Bydd y grŵp poblogaidd o Fangor, Plant Duw, yn gwneud eu gig cyntaf ers pedair blynedd ar nos Sadwrn ola’r ‘Sdeddfod ‘leni.
Bydd y grŵp gwallgof a gwych yn perfformio fel gwestai arbennig yn gig Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg ar Fferm Penrhos ym Modedern. Roedd dirgewlch ynghylch y marc cwestiwn ar lein-yp y noson, ac yn sicr ni siomwyd pan ychwanegwyd enw Plant Duw tuag ato.
Mae’r lein-yp ardderchog eisoes yn cynnwys Geraint Jarman, Gai Toms, ac yn amlwg, tydi hi’m yn nos Sadwrn ola’ gigs Cymdeithas heb Bob Delyn a’r Ebillion yno.
Daw’r grŵp pump aelod yn wreiddiol o Fangor a’r aelodau ydy Elidir Jones (gitâr fas), Conor Martin (gitâr a phrif lais), Rhys Martin (gitâr a llais), Myfyr Prys (Dryms) a Sean Martin (cornet) ydy’r aelodau.
“… slic, polished a phroffesiynol”
Mae’r grŵp gwallgo yn adnabyddus am eu setiau bywiog, sy’n gallu troi’n draed moch, a’r un ydy’r addewid ganddyn nhw ‘leni eto ar gyfer eu gig cyntaf ers Eisteddfod Dinbych yn 2013.
“Fysa fo ddim yn gig Plant Duw tasa ni’n slic, polished a phroffesiynol” meddai un o’r aelodau wrth drafod y comeback. Er hynny, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n bwriadu ymarfer ychydig ar ddiwrnod y gig.
Grêt oedd clywed bod y grŵp hefyd wedi datgelu eu bod nhw wedi bod yn recordio albwm newydd yn dawel bach, ac eu bod yn gobeithio gorffen y record yn fuan, er nad ydyn nhw’n fodlon ymrwymo i ddyddiad rhyddhau eto.
I’r rhai fydd yn mynychu, bydd cyfle i gael sneak peak o’r Albwm wrth gael clywed ambell gân am y tro cyntaf yn y gig ar y nos Sadwrn 12 Awst.
Mae’r gwaith recordio wedi’i wneud gyda’r cynhyrchydd Sam Durrant, ac enw’r casgliad ar hyn o bryd ydy ‘Tangnefedd’, er bod posib i hynny newid cyn y dyddiad rhyddhau!
Dyma fydd trydydd albwm Plant Duw yn dilyn Y Capel Hyfryd a ryddhawyd yn 2008, ac yna Distewch, Llawenhewch a ryddhawyd yn 2011. Y Capel Hyfryd oedd rhif 1 rhestr 10 Uchaf Albyms 2008 Y Selar.
Da clywed bod gwerthiant nos Sadwrn a Sul cyntaf Cymdeithas yr Iaith wedi gwerthu allan yn barod – gwerth prynu eich tocynnau ar gyfer y nosweithiau eraill cyn gynted â phosib.
Dyma fideo gwych y gân ‘Byth Stopio Chwalu’: