Yn reit annisgwyl i bawb, ymddangoswyd cân ar YouTube gan yr artist electroneg, Plyci, o nunlle ar 2 Mehefin.
‘Unnatural History’ ydy un o’r traciau fydd ar ei albwm newydd, Passive, fydd allan cyn yr haf.
Fe ffilmiwyd, cynhyrchwyd a golygwyd y fideo gan Plyci ei hun, sef prosiect y cerddor Gerallt Ruggiero, ac yntau sydd hefyd wedi creu a recordio’r trac ei hun. Fideo o daith bersonol Plyci ydy hwn yn ôl Gerallt.
“Wel ma’r fideo yn un nes i ffilmio tra’n trafaelio yn Siapan yn gynharach yn y flwyddyn” meddai’r cerddor.
“Casgliad o glips byr o Tokyo a Kyoto rhan fwyaf, wedi’u rhoi gyda’i gilydd fy hun. Mi fydd ‘na fwy o fideos yn dŵad rhyw ben hefyd.”
Nôl i’r dyddiau cynnar
Passive fydd y pumed albwm i’w ryddhau gan Plyci, efo ‘Unnatural History’ yn cicio pethe’ ffwrdd ar y record fel y trac cyntaf. Er bod bwriad i ryddhau’n fuan, tydi Plyci ddim wedi penderfynu ar ba ffurf y bydd yn rhyddhau’r casgliad newydd eto…
“…yn ddigidol yn bendant, ond dwi’n gweithio ar syniadau i gael copi ar cassette neu LP ‘falle” eglura.
Os ‘da chi am gadw llygaid barcud allan amdano fel ni, http://plyci.bandcamp.com yw’r lle gora i edrych am y tro o leiaf.
Wrth drafod ei ddelwedd creadigol ar gyfer yr albwm yma, mae Gerallt yn awgrymu ei fod yn camu nôl i’w wreiddiau i raddau.
“Ysbrydoliaeth y record oedd i drio symud yn ôl i ddyddiau cynnar Plyci, lle o’dd y gerddoriaeth i gyd wedi’i gyfansoddi heb gyfrifiaduron neu samples” eglura.
Er mwyn pwysleisio hyn, a pheidio golygu gormod ar y gerddoriaeth, mae Plyci wedi mynd ati i recordio llawer o’r traciau ar y cynnig cyntaf – ‘one take’ job, gyda hardware synths.
“Y prif ddylanwad oedd fi, yn trio symud allan o’r habit o gyfansoddi efo laptop, gorfodi fy hun i weithio gyda limit o beth oedd yn bosib. Ma’n ffordd o weithio sy’n aml yn troi allan i fod llawer mwy naturiol, a bach yn pynci a raw.”
Cymysgedd y cawl
Felly, pa fath o betha’ allwn ni ei ddisgwyl ar yr Albwm yma?
“Mae na gymysgedd o draciau ambient, tecno, experimental ofnadwy a bach o acid house. Dwi ers erioed, wedi fy nylanwadu gan artistiaid fel Aphex Twin, Brian Eno, Squarepusher, Richard Devine, Morton Subotnick, Suzanne Ciani a Mark Mothersbaugh felly mae na elfennau o rhain wedi’u gwasgaru dros y record”
Ond pa mor hawdd yw chwarae electro’n fyw?
“Dwi ar y funud hon yn gweithio allan sut i berfformio’n fyw heb laptop, a thrio dod a’r broses yma o gyfansoddi i’r llwyfan. Dwi’n credu fydd yna lawer o berfformio byrfyfyr yn ran o’r cawl.”
Mi fydd ei gig nesaf yn digwydd ar 8 Gorffennaf yn Nottingham, fel rhan o ddigwyddiad Ambient Électonique, ond rydan ni’n gobeithio gweld mwy yn cael eu hychwanegu mwy at y restr dros y misoedd nesaf.
Yn y cyfamser – crwydrwch a mwynhewch!
Geiriau: Elin Siriol