Pump i’r Penwythnos 01/09/17

Gig: Gig Yws Gwynedd, Yr Eira a Pyroclastig – Neuadd Buddug, Y Bala

Mae gigs Yws Gwynedd yn gwerthu allan yn beth cyffredin erbyn hyn, ond nid dyma’r unig reswm i ddathlu’r gwerthiant tocynnau yn Y Bala’r penwythnos yma gan mai hon yw’r gig cyntaf i werthu allan erioed gan Aelwyd Penllyn. Er, mae’n bosib prynu tocynnau ar y drws i eistedd yn nhop y Neuadd.

Bydd Yr Eira a Pyroclastig hefyd yn chwarae – chwip o lineup! Drysau’n agor am 20:00 – ewch yno’n gynnar er mwyn mynnu’ch tocyn i weld y gig o’r awyr!

Mae digonedd o ddewis o ddigwyddiadau byw y penwythnos yma eto, yn enwedig ym Mhenllŷn rhwng Gŵyl Pendraw’r Byd yn Nhŷ Newydd, Aberdaron nos Wener tan nos Sul, i Ha’ Bach y Fic yn Llithfaen heno.

Bydd parti mawr yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos efo The Big Cwtch yn digwydd gyda artistiaid sy’n cynnwys Adwaith, Aled Rheon a Jack Ellis ymysg nifer o enwau eraill.

Cyn i’r gêm fawr gychwyn nos Sadwrn yng Nghaerdydd, bydd Spirit of 58 (Tim Williams) yn cynnal gig yng Nghlwb Ifor Bach hefo Candelas yn perfformio er mwyn cychwyn pethe’ ffwrdd.

Fyny ym Mangor nos Sadwrn bydd gig go wyllt yn ôl y sôn efo Twmffat, Radio Rhydd a Pasta Hull yn chwarae ym mar Y Menai. A sôn am Pasta Hull – bydd Bryn Fôn yn chwarae Sioe Llandysul nos Sadwrn hefyd am yr hanner canfed blwyddyn yn olynol (jôc ia!)

Digonedd o ddewis!

Record: Sgrechadelica – Pys Melyn

Mae mwy o gynnyrch wedi’i ryddhau ar SoundCloud gan Pys Melyn yr wythnos diwetha’ ‘ma, er bod dirgelwch mawr yn dal i fodoli ynglŷn â’r band. Rydan ni’n gwybod mai unigolyn sy’n creu’r gerddoriaeth ar app digidol, yn ôl ein sgwrs ddiwetha’ â Pys Melyn, ond dal ddim yn siŵr pwy yn union sy’n gyfrifol am y tiwns.

Fe ymddangosodd yr EP newydd ar ei dudalen SoundCloud, sef ‘Sgrechadelica’. Disgrifion nhw ei cynnyrch blaenorol fel “70’s RnB influenced indie rock, tebyg i Mac Demarco, Homeshake a Jerry Paper”. Maent yn mynnu o hyd nad oes bwriad gigio’n fuan gan bod angen llawer o offerynnau i chwarae eu caneuon.

Er nad yw’r geiriau’n amlwg ar y caneuon, mae rhai lleisiau i’w clywed ar rai caneuon megis ‘Tshiongpu’ a ‘Drosodd’. Efallai bod posib clywed dylanwad Super Furry Animals ar gân olaf yr EP, sy’n atgoffa o agoriad ‘Cryndod Yn Dy Lais’ – stwff da!

Dyma hi i chi gael blas…

Artist: Colorama

Mae’r albwm newydd hir ddisgwyliedig Colorama allan heddiw. Er ein bod ni ‘di bod yn aros yn amyneddgar amdano, mae pethau fel hyn yn cymryd amser fel yr awgrymir yn eu sengl Cymraeg ddiweddara’, ‘Gall Pethau Gymryd Sbel’.

Mewn sgwrs fer â’r Selar cyhoeddodd ffryntman, a’r enigma sy’n gyfrifol am Colorama, Carwyn Elis, ei gynlluniau ar ôl rhyddhau’r albwm. Dywedodd Carwyn eu bod am wneud “cwpwl o sesiynau radio yma ym Mhrydain, a wedyn bant a ni i Sbaen am bythefnos i ‘whare yn Galicia a Madrid” ac wedyn maent yn mynd yn syth ar daith efo’r Pretenders nes diwedd mis Tachwedd.

Mae’n gyfnod cyffrous i’r band sydd heb chwarae â’i gilydd ers Gŵyl y Dyn Gwyrdd nôl yn 2015, ond fel arall fe chwaraeodd Carwyn gig solo yng ngŵyl Sounds From The Other City ym Manceinion fis Mai.

Nid Colorama ydy’r unig yw brosiect cerddorol y bu Carwyn yn gweithio arno ‘leni. Mae wrth gwrs hefyd wedi bod yn brysur gyda Bendith, ac yn gweithio gydag Edwyn Collins, Sarah Cracknell, Saint Etienne a’r James Hunter Six.

Dywed Carwyn ei fod yn “falch iawn” fod Colorama nôl, er ei fod yn dal i fod yn brysur iawn. Maent yn gobeithio gwneud rhagor o gigs y flwyddyn nesa’ a “mwy o recordio pan gai’r cyfle”.

Bydd Colorama’n chwarae eu hunig gig ym Mhrydain eleni yng Nghanolfan y Cymry yn Llundain ar 10 Medi, ac mae modd gwrando ar yr albwm newydd o heddiw ymlaen ar bandcamp Colorama – mwynhewch!

Cân: ‘Dawel yw y Dydd’ – Celwyddau

Mae’r ddeuawd Celwyddau o ardal Pontypridd/Caerdydd yn ail-ryddhau ‘Dawel yw y Dydd’ yn annibynnol heddiw. Daeth y newyddion wythnos diwethaf bod y band wedi penderfynu newid eu henw o Panda Fight i Celwyddau.

Dywed Alun Reynolds o’r band bod “pobl yn meddwl mai mond fi oedd Panda Fight” a dyma oedd un o’r prif resymau am y newid, gan bod aelod arall yn ran o’r band, sef Sara Davies.

Mae fideo hefyd i’r sengl newydd, lle cafwyd hawl i ddefnyddio clip o ffilm enwog Drive sy’n serennu Ryan Gosling, a gallwn ddisgwyl hon allan yn fuan.

Ac un peth arall…: H.Hawkline yn teithio Prydain

Fe fydd H.Hawkline yn teithio o amgylch Prydain wythnos nesaf rhwng 5 Medi a’r 12 Medi gan ymweld â Sheffield, Bryste, Leeds, Birmingham, Caerdydd, Manceinion a Llundain. Digonedd o gyfleodd i’w ddal felly!

Prosiect Huw Evans yw H. Hawkline – cyn-gyflwynydd Bandit ar S4C, a chyflwynydd achlysurol ar Radio Cymru. Bu’n aelod o grwpiau fel Mwsog yn y gorffennol – ond H. Hawkline yw ei lwyddiant mwyaf heb os.

Mae H. Hawkline yn adnabyddus dros Brydain ar y funud, ac wedi cael adolygiadau cadarnhaol mewn cyhoeddiadau mawr megis NME, The Guardian, Q Magazine, Record Collector, Uncut a llawer mwy. Bu hefyd ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwy flynedd yn ôl.

Rhyddhawyd ei albwm ‘I Romanticize’ ar 5 Mehefin eleni, a cafodd ei dewis fel Albwm yr Wythnos gan Rough Trade. Dyma ‘Moddion’ a ryddhawyd ar ei albwm blaenorol In The Pink of Condition: