A hithau’n benwythnos tân gwyllt, dyma i chi ambell argymhelliad ffrwydrol o dda ar gyfer bwrw’r Sul.
Gig: TWRW – Omaloma, Cpt. Smith, Sybs, DJ Pydew – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Mae Twrw yn dychwelyd y penwythnos yma, efo lein-yp penigamp unwaith eto. Bydd Omaloma, Cpt. Smith, Sybs a DJ Pydew yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach nos Wener efo’r drysau’n agor am 19:00. Dyma fydd gig cyntaf Sybs – peidiwch a’u methu!
Mae cyfle i gael gweld a chlywed artistiaid y dyfodol yn y Galeri, Caernarfon nos Wener wrth i gig Marathon Roc gael ei gynnal yno – dechrau am 18:00.
Mae’n benwythnos prysur arall i Gwilym Bowen Rhys wrth iddo chwarae yn Nhŷ’n y Llan, Capel Garmon nos Wener a The Bull Inn, Llannerchymedd nos Sadwrn.
Yn ngwesty’r Marine, Aberystwyth fydd boi prysura’r sin ar hyn o bryd, Welsh Whisperer, nos Sadwrn gyda’r gig yn dechrau am 20:00.
Bydd Band Pres Llareggub yn mynd i ddinas fawr Llundain i chwarae nos Sadwrn efo Mr Phormula fel eu gwestai arbennig – y gig yng Nghanolfan Cymru Llundain.
Cân: Llosgi Me – ARGRPH
Sôn am dân gwyllt – cymrwch gip ar sŵn a cherddoriaeth newydd, ‘chydig bach mwy electroneg ARGRPH sydd allan ar 1 Rhagfyr ar label Libertino. Dyma fand sy ‘di bod yn prysur wneud enw i’w hunain dros y flwyddyn ddiwetha’.
Mae’r sengl ddwbl ar gael i’w chlywed ar Soundcloud, ac Emyr Taylor sydd wedi chwarae pob offeryn ar y recordiad, a recordio phopeth yn ei dŷ yng Nghaerdydd. Mae Gwyn Rosser (Los Blancos, ARGRPH) i’w glywed yn canu ar ‘Llawn’ sydd hefyd ar y sengl ddwbl gyda hon. Mae’n gyfnod cyffrous, arbrofol i ARGRPH…
Artist: Omaloma
Cyhoeddodd Omaloma wythnos yma bod sengl newydd ar y ffordd ganddyn nhw, a fedrwn ni ddim aros i’w chlywed. Os ydy o chwarter cystal ag ‘Aros o Gwmpas’ mai’n garantîd o fod yn tiiiiwn.
Fe’i recordiwyd hi unwaith eto yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed ac bydd y band pop gofodol o Ddyffryn Conwy yn cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan.
Dyma ‘Cŵl ac yn Rad’ o’u sesiwn Ochr 1 diweddar:
Record/Sesiwn: Sesiwn Unnos Clwb Cariadon
Bach o addasiad i’n dewis o record wythnos yma, wrth i ni blygu’r rheolau a dewis sesiwn o archif Radio Cymru. Hawdd yw anghofio am sesiynau unnos hanesyddol BBC Radio Cymru. Caneuon a loriodd y gwrandawyr oedd rheiny o sesiwn unnos Clwb Cariadon, a ddigwyddodd nôl yn 2016.
Roedd aelodaeth Clwb Cariadon yn cynnwys Casi Wyn, Owain Llwyd, Ifan Davies, Gethin Griffiths a Gruff Jones.
Fe gyhoeddwyd cân wych arall ganddynt ar albwm aml-gyfrannog I KA CHING nôl yn 2016 hefyd sef ‘Arwyddion’.
Dyma ‘Catrin’ o’r noson gynhyrchiol, hudolus honno:
Un peth arall..: Gŵyl Gwydir yn cyhoeddi gig..
Dyffryn Conwy yw’r lle i fod dyddie yma – o ystyried yr holl gynnyrch cerddorol sy’n cael ei greu yno ar hyn o bryd.
Fe gynhyrfwyd pawb yn lân pan drydarodd Gŵyl Gwydir bod newyddion cyffrous ar y ffordd ganddynt. A wnaeth y newyddion ddim siomi, wrth iddynt gyhoeddi gig gyda chwip o lein-yp yn llawn artistiaid o’r ardal. Bydd Omaloma, Phalcons, Lastigband, Serol Serol a Bitw’n chwarae mewn gig Nadoligaidd wedi’i drefnu gan drefnwyr Gŵyl Gwydir yn Nghlwb Llanrwst 28 Rhagfyr.
Dyma bach o Lastigband i chi: