Y diweddaraf yn ein cyfres o argymhellion wythnosol, dyma Bump i’r Penwythnos…
Gig: Georgia Ruth Williams Aron Elias – Neuadd Ogwen – Gwener 3 Chwefror
Gyda’r rhan fwyaf yn cael hoe fach ar ddechrau’r flwyddyn newydd ar ôl prysurdeb y Nadolig, mae Candelas wedi dechrau’r flwyddyn ar dân! Mae Pump i’r Penwythnos wedi sôn am o leiaf tri gig ganddyn nhw eisoes eleni, ac maen nhw wrthi nos Sadwrn eto yng Nghlwb Rygbi Dolgellau, gyda’u cyfeillion o Fachynlleth, Henebion yn cefnogi yn ogystal a Cyflafan.
Ond ein dewis ni yr wythnos hon ydy gig Georgia Ruth Williams yn Neuadd Ogwen, Bethesda heno (nos Gwener), gyda chefnogaeth gan Aron Elias. Yn ôl pob tebyg mae copïau Feinyl o albwm diweddaraf Georgia, Fossil Scale, wedi cyrraedd ac ar werth yn y gig – gwerth mynd yno i fachu un!
Cân: ‘Paid a Throi i Ffwrdd’ – Sioned Maskell
Dyma diwn fach neis rydan ni wedi dod ar ei thraws yn ystod yr wythnos gan artist newydd, Sioned Maskell.
O ymchwilio ymhellach, aelod o fand newydd ydy Sioned, sef Monday Night Side Project – grŵp sydd newydd ffurfio yng Nghaerdydd. Sioned sy’n chwarae’r ffidl ac yn canu ac mae tri aelod arall, Kevin (gitâr a chanu), Josh (bas) a Marcus (dryms). Maen nhw wrthi’n cyfansoddi caneuon Cymraeg a Saesneg ar hyn o bryd gyda’r bwriad o berfformio’n fuan.
“Penderfynom ni roi’r gân ‘Paid a Throi i Ffwrdd’ [ar Soundcloud] i weld sut hwyl gawn ni arni – test the waters fel petai” meddai Sioned wrth Y Selar.
Mae arddull y gân yn unigryw, yn gyfuniad o sŵn clasurol ac electroneg, a does dim syndod clywed bod Sioned yn dod o gefndir clasurol.
“Dwi wastad wedi dod o gefndir genre clasurol ac wedi ysu i drio genres newydd gyda’r fiolín trydanol. Fi’n mwynhau gymaint yn fwy nawr yn chwarae’r ffidil a chanu wrth arbrofi gyda genres gwahanol fel roc amgen.”
“Mae’n bwysig dysgu nad yw’r ffidil yn rywbeth sy’n gaeedig i genre clasurol yn unig neu’n rywbeth sy’n gysylltiedig ar ysgol.”
Does dim gigs wedi’u trefnu gan y band eto, ond maen nhw’n dweud mai dyna’r nod ymhen cwpl o fisoedd – rhywbeth i edrych mlaen ato’n bendant.
Artist: Y Blew
Os nad ydach chi wedi clywed am Y Blew, wel mae’n bwysig eich bod yn dysgu mwy amdanyn nhw!
Y Blew oedd y grŵp roc trydanol Cymraeg cyntaf, ac fe’i ffurfiwyd pan oedd yr aelodau’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth union hanner can mlynedd yn ôl ym 1967.
Ffurfio ar gyfer un gig yn ystod wythnos RAG yn y Brifysgol wnaethon nhw, ond fe’i perswadiwyd i wneud ail gig yn Neuadd Tal-y-Bont ger Aber ym mis Ebrill 1967, cyn mynd ati i drefnu taith yr haf hwnnw. Dilynodd dwy daith arall wedi hynny, ond bywyd byr oedd i’r grŵp a bu iddyn nhw chwalu erbyn diwedd y flwyddyn.
Er hynny, roedd y teithiau’n llwyddiannus iawn wrth iddyn nhw lenwi neuaddau pentref ledled Cymru, gyda channoedd o bobl y tu allan i’r gigs yn methu mynd i mewn yn aml. Cyn hynny, yr unig le i glywed cerddoriaeth Gymraeg oedd mewn nosweithiau llawen, felly roedd y grŵp yn arloesol i ddweud y lleiaf.
Rhyddhaodd Y Blew un record oedd yn cynnwys dwy gân – ‘Maes B’ a ‘Beth sy’n dod Rhyngom ni’, sef fersiwn Gymraeg o gân enwog Curtis Mayfield ‘You Must Believe Me’.
‘Maes B’ oedd yr unig gân wreiddiol a gyfansoddwyd gan y grŵp – y ffasiwn i grwpiau ar y pryd oedd i ganu cyfyrs o ganeuon pobl eraill. Os nad ydach chi wedi rhoi dau a dau at ei gilydd eto, mae enw’r hyn sy’n cael ei adnabod fel Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn yn deillio o’r gân – dyma benderfynodd Cymdeithas yr Iaith alw’r babell gigs newydd pan sefydlwyd Maes B ganddyn nhw yn Steddod Y Bala 1997.
Fe wnaethom ni gyhoeddi yr wythnos hon bod Dafydd Evans o’r Blew yn cynnal sgwrs arbennig gyda Rhys Gwynfor am hanes y grŵp ar ddydd Sadwrn Gwobrau’r Selar. Bydd y sgwrs yn un o gyfres o weithgareddau sy’n digwydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y dydd fel rhan o Wobrau’r Selar eleni.
Record: Golau Isel – Plyci
Os ydach chi’n darllen hwn a y dydd Gwener yna mae’n werth nodi bod unrhyw elw o gerddoriaeth sy’n cael ei brynu ar Bandcamp heddiw (3 Chwefror) yn cael ei roi i achos The American Civil Liberties Union er mwyn helpu ffoaduriaid.
Cyfle da felly i dynnu sylw at albwm Cymraeg diweddar sydd ddim ond ar gael i’w brynu ar Bandcamp, sef albwm diweddaraf yr artist electronig gwych, Plyci.
Rhyddhawyd yr albwm nôl ym mis Hydref ac rydan ni’n teimlo iddo lithro dan y radar rhyw ychydig bryd hynny, ac mae’n gasgliad sy’n haeddu tipyn mwy o sylw.
Dyma un o’n hoff draciau ni o’r albwm, ‘Cell’:
Ac un peth arall…: Poster Y Blew
Yn ystod yr wythnos cyhoeddodd gwasg Y Lolfa eu bod nhw’n cyhoeddi atgynhyrchiad o’r poster eiconig i hyrwyddo record Maes B gan Y Blew ym 1967.
Mae hwn yn boster ffynci, retro, gwych, fyddai’n edrych yn hyfryd ar wal unrhyw un yn ein barn ni.
Mae’r poster ar gael i’w brynu am y tro cyntaf mewn Ffair Recordiau yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (11 Chwefror), a bydd ar gael yn ystod penwythnos Gwobrau’r Selar hefyd.