Pump i’r Penwythnos 05 Mai 2017

Hwre! Mae’r penwythnos ger ein bron unwaith eto…felly dyma Bump i’r Penwythnos:

Gig: Gŵyl Gaerwen – Clwb Pêl-droed Gaerwen – Gwener-Sadwrn 5-6 Mai

Ar ôl penwythnos llawn dop o gigs ledled y wlad wythnos diwethaf, mae hi braidd yn deneuach yr wythnos yma.

Wedi dweud hynny, mae tymor y gwyliau cerddorol yn dechrau, a’r gyntaf ar y rhestr ydy Gŵyl Gaerwen sy’n digwydd yng Nghlwb Pêl-droed Gaerwen yn Ynys Môn nos Wener a Sadwrn yma.

Digon amrywiol ydy’r lein-yp. Teg disgrifio nos Wener fel noson llai cyfoes, gyda John ac Alun, Trio Cymru, Bedwyr Morgan, Traedmochmôn, Meibion Goronwy, Gwen Edwards, Rhys Meilyr nos Wener.

Mae’r nos Sadwrn yn fwy atyniadol o bosib gyda Meinir Gwilym, Moniars, Calfari, Madarch, Penna bach a’r bytholwyrdd Bryn Fôn.

Mae tocynnau’n £10 y noson, neu £15 am y penwythnos.

Cân: ‘Cyffur’ – Yr Oria

Mae Yr Oria yn grŵp ddaeth i’r amlwg tuag at ddiwedd 2016, ond hyd yma wedi cael 2017 cymharol dawel.

Y peth diwethaf I’r grŵp o ardal Blaenau Ffestiniog ryddhau oedd y sengl fachog ‘Cyfoeth Budr’ ym mis Rhagfyr, ac mae addewid o EP wedi’i wneud ers peth amser. Mae’r addewid hwnnw’n edrych yn fwy tebygol erbyn hyn wrth drac newydd sbon gan y grŵp ymddangos ddoe – ‘Cyffur’.

Yn ôl Garry o’r grŵp maen nhw wedi bod yn cael trafferth ffeindio amser cyfleus i bawb fynd i’r stiwdio, ond yn agosáu at orffen yr EP rŵan gyda dim ond un trac ar ôl i’w recordio.

Felly, mae ‘Cyffur’ yn damaid bach o aros pryd gyda sŵn nodweddiadol i’r grŵp erbyn hyn gyda chymysgedd o gitârs a synths i greu tiwn ddigon bachog i gyfiawnhau ei henw!

Artist: Joy Formidable

Fe wnaethom ni ddigwydd gweld gohebydd cerddoriaeth y Western Mail, David Owens, yn llwytho trac Cymraeg gan The Joy Formidable dros yr wythnos diwethaf, a meddwl bod hyn yn gyfle perffaith i roi bach o sylw i’r grŵp gwych sydd â’u gwreiddiau yn Yr Wyddgrug.

Dyma chi grŵp sydd wedi gwneud enw i’w hunain dros y byd i gyd erbyn hyn, ond sydd weithiau ddim yn cael sylw teilwng yma yng Nghymru. Mae siŵr mai ‘roc amgen’ fyddai’r disgrifiad gorau o’u sŵn, ac mae tri aelod i’r grŵp sef Rhiannon ‘Ritzy’ Bryan, Rhydian Dafydd a Matthew James Thomas.

Maen nhw’n cyfansoddi’n bennaf yn Saesneg, ond wastad wedi bod yn ddigon triw i’r Gymraeg hefyd gan ryddhau ambell drac yn iaith y nefoedd bob hyn a hyn. Bydd nifer yn gyfarwydd ag ‘Yn Rhydiau’r Afon’ ac ‘Y Garreg Ateb’ sy’n cael airplay achlysurol ar Radio Cymru.

Mae ‘Y Gwir a’r Gwendid’ yn dod o sengl hollt redden nhw’n rhannu gyda We Are Animal ac y ryddhawyd ddiwedd 2016…ac mae’n ardderchog.

Mae nifer cyfyngedig o gopïau caled ar werth ar safle Bandcamp The Joy Formidable.

Record: Khamira

Ddim y math o gerddoriaeth sy’n cael sylw’n aml gan Y Selar, ond mae’r prosiect Cymreig-Indiaid yma’n un diddorol iawn yn ein tyb ni, ac yn haeddu mensh.

Cafodd yr albwm sy’n rhannu enw’r grŵp diddorol yma ei ryddhau ddechrau’r wythnos, ac mae’r cyfuniad o sŵn gwerin traddodiadol Gymreig, cerddoriaeth glasurol Indiaidd a dylanwadau mwy modern yr artistiaid yn wirioneddol ddiddorol.

Ac un peth arall…: Leinyp llwyfan perfformio Steddfod yr Urdd

Mae’r Selar wedi bod yn cydweithio â Steddfod yr Urdd ers sawl blwyddyn bellach i sicrhau bod mwy a mwy o gerddoriaeth gyfoes i’w weld ar faes yr Eisteddfod. Erbyn hyn rydan ni’n trefnu lein-yp swmpus ar y llwyfan perfformio ynghyd â setiau acwstig ar 3 llwyfan bach arall ar y maes.

Heddiw, rydan ni wedi gallu cyhoeddi lein-yp llawn y llwyfan perfformio, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid. Gwyliwch y fideo isod i weld pwy…