Gig: Twrw – Gwilym Bowen Rhys, Patrobas a Glain Rhys – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Dipyn o bethau’n mlaen ar gyfer penwythnos mawr y pêl-droed yr wythnos hon. Mae’r dewis yn ymestyn o noson dawel gyda phowlen o lobsgows a llais hyfryd Alys Williams ar un pegwn, i sets DJ tan oriau man y bore gyda Roughion ar y llall.
Mae nos Wener yn noson fawr i bawb fel y mae hi efo gêm Cymru a Georgia ddiwedd y prynhawn, felly be am biciad i gig cyfagos wedyn?
Bydd thema werinol yn Nghlwb Ifor Bach nos Wener wrth i Gwilym Bowen Rhys, Patrobas a Glain Rhys chwarae yno fel rhan o gyfres gigs Twrw – drysau’n agor am 7.
Os am ‘chydig o roc trwm mae gig Chroma yn y Muni, Pontypridd nos Wener yn opsiwn da i chi.
Nos Sadwrn bydd Kizzy Crawford yn gwneud set lawr yn y Fenni, yn Neuadd y Farchnad gyda Danielle Lewis yn cefnogi.
Draw yng Nghaernarfon nos Sadwrn, bydd Alys Williams ac Osian Williams yn cicio’u sodlau’n ôl yng Nghlwb Hwylio Caernarfon, gyda bwyd yn rhan o bris y tocyn!
Yn y Flora, Cathays ddydd Sadwrn bydd ail gig ‘Rough & Tumble’, sy’n cael ei lwyfannu gan y band Roughion. Mae’r leinyp yn cynnwys Mellt a Roughion yn ogystal â rhestr o DJ’s gwych. Bydd bandiau trwy’r prynhawn a DJ’s trwy’r nos. Neeeeis.
Fe fydd Welsh Whisperer hefyd yn Sgubor Pencarreg, Llanrhystud nos Sadwrn fel rhan o’i daith epig ddiweddar.
A chofiwch hefyd am gêm bêl-droed fawreddog rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon nos Lun, gyda pharti Spirit of ‘58 cyn y gêm yng Nghlwb Ifor Bach. Gobeithio fydd y parti’n parhau ar ôl y gêm hefyd!
Cân: Brenhines y Llyn Du – Mei Emrys
Fe ryddhawyd albwm cyntaf unigol Mei Emrys, Llwch, wythnos diwetha’ ar label Cosh, sef label Ywain Gwynedd, efo Rich Roberts yn cynhyrchu.
Os nad ydach wedi clywed tiwns Mei Emrys eto, mae posib cael blas o’r albwm newydd isod. Fe roddodd fersiwn acwstig o ‘Brenhines y Llyn Du’ ar SoundCloud wythnos yma.
Dywed Mei ei bod hi’n “braf iawn” bod yn ôl, ac ei fod wir wedi mwynhau recordio gyda Rich Roberts yn stiwdio Ferlas. Bu Mei a Rich yn sôn ers tipyn eu bod yn mynd i recordio efo’i gilydd, ac o’r diwedd rydym yn gweld ffrwyth eu llafur. Gwrandewch a mwynhewch!
Record: OSHH – OSHH
Mae albwm cyntaf unigol OSHH wedi’i ryddhau’n swyddogol heddiw ar label Recordiau Blinc.
Dyma record hir gyntaf unigol y cerddor o Fôn, Osian Howells, un sydd yn gyfarwydd i lawer fel basydd Yr Ods, a hefyd fel aelod o Yucatan. Yn 2014, trwy recordiau Blinc, cawsom flas cyntaf o stwff unigol Osian am y tro cynta’, pan ryddhawyd ‘All Mistakes’, ‘Lleisiau’n Galw’ a ‘Dal i Frwydro’ (a hefyd ‘Rhywbeth Gwell’ gafodd ei chynnwys ar albwm aml-gyfrannog ‘O’r Nyth’).
Fe recordiwyd yr albwm newydd mewn stiwdio yn Llanllyfni, sef Crychddwr gyda’r cynhyrchydd Kevin Jones. Mae ei fand byw hefyd yn cynnwys neb llai na Gwion Llywelyn a’r y dryms (Villagers, Race Horses, Yr Ods), Griff Lynch (Yr Ods), Ioan Llywelyn, ac ei frawd Guto Howells (Yr Eira).
Rhoddodd ragflas o’r albwm ar SoundCloud ‘chydig fisoedd yn ôl sef ‘Alive’, sy’n werth ei chlywed. Artist adnabyddus arall fydd i’w chlywed ar yr albwm fydd yr anhygoel Casi a’i llais nodweddiadol.
Artist: Los Blancos
Da oedd clywed bod y band slacker/garage rock o Gaerfyrddin, Los Blancos nôl yn y stiwdio ar ôl y sengl drom a gafwyd ganddyn nhw gychwyn yr haf ‘Mae’n Anodd Deffro Un’.
Mae’r aelodau’n cynnwys Gwyn Rosser, Emyr Sion, a Dewi Jones. Dywedodd Gwyn mewn sgwrs fer a’r Selar eu bod i ffwrdd i’r stiwdio’n fuan iawn, gan obeithio ryddhau sengl ddwbl yn fuan ar label Libertino o Gaerfyrddin.
Yng Nghaerdydd maent yn recordio’r tro yma, a hynny yn y Music Box efo Chris Jenkins yn cynhyrchu. Dywed Gwyn bod y sŵn ychydig yn wahanol erbyn hyn, “yn fwy mellow nag ‘Mae’n Anodd Deffro Un’ byse ni’n gweud, bach llai brwnt, os yw hwnna’n gwneud sens!”.
Roedd Gwyn a Emyr hefyd yn aelodau o Tymbal, ac erbyn hyn maent yn ran o Argrph hefyd.
Da ni’n edrych ymlaen i gael clywed mwy o stwff!
Un peth arall…: Cyffro Cymru
Cofio hon nôl yn 2016? Cafwyd chwyldro mewn cerddoriaeth thema pêl-droed ar gyfer ac ar ôl yr Ewro’s flwyddyn diwetha’. A’r penwythnos yma cawn wybod os di’r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd 2018 dal o fewn gafael, gyda dwy gêm bwysig yn erbyn Georgia heno, a Gweriniaeth Iwerddon nos Lun.
Bu’n rhaid i Super Furry Animals aros ddeuddeg mlynedd cyn rhyddhau hon!
C’mon Cymru!