Pump i’r Penwythnos 06 Ionawr 2017

Wel, mae hi’n flwyddyn newydd a’r wythnos yma mae Pump i’r Penwythnos yn croesawu 2017 gyda detholiad o ddanteithion cerddorol i chi ar gyfer penwythnos oer a diflas cyntaf y flwyddyn.

Gig: Candelas, Cpt Smith, Argrph – Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan. Sadwrn 7 Ionawr

Ar ddechrau’r flwyddyn, a phawb wedi ei gorwneud hi dros y Nadolig, mae gigs yn tueddu i fod yn bethau prin.

Er hynny, os ydach chi yng Nghaerdydd, mae’r bytholwyrdd The Gentle Good yn perfformio mewn digwyddiad bach diddorol, ‘Silhouettes and Shadows’, sef noson o gerddoriaeth a barddoniaeth yng nghanolfan Chapter nos Sadwrn.

Ond gig y penwythnos heb os ydy hwnnw yn Llanbedr Pont Steffan nos Sadwrn gyda lein-yp sbondigeddus – yr anhygoel Candelas a’r ddau grŵp cyffrous o Gaerfyrddin, Cpt Smith ac Argrph. Mae tocynnau wedi gwerthu cystal nes bod y gig wedi gorfod symud o Undeb y Myfyrwyr i leoliad mwy Neuadd Fictoria. Da.

Cân: ‘Achub’ – Eädyth

Dewis bach gwahanol, ond eithaf cyffrous fel ein cân yr wythnos yma.

Fe ddaethon ni ar draws Eädyth yn reit ddiweddar ar Soundcloud, ac mae ei sŵn pop-dawns â photensial i gynnig amrywiaeth ddifyr iawn i’r sin, a gobeithio y byddwn ni’n gweld llawer mwy ganddi yn ystod 2017.

Mae Eädyth yn gantores ifanc, 18 oed, sy’n hanu o Aberaeron yng Ngheredigion. Mae ‘na diwns Saesneg ganddi ar-lein ers peth amser, ond mae hi wedi llwytho cwpl o draciau Cymraeg i’w safle Soundcloud dros y mis diwethaf. Rydan ni’n edrych mlaen i ddysgu mwy amdani.

Artist: Ani Glass

Y newyddion sy’n torri wrth i ni baratoi Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon ydy bod Ani Glass wedi ymuno a stabal Recordiau Neb.

Mae Recordiau Neb yn label newydd o Gaerdydd, a bydd rhai darllenwyr yn gyfarwydd â hwy fel label yr ardderchog Twinfield sydd wedi rhyddhau cwpl o gasetiau gyda Neb ar ddiwedd 2016.

Yn ôl datganiad y label heddiw (Gwener 6 Ionawr), bydd Ani’n rhyddhau cynnyrch gyda Recordiau Neb yn ystod 2017, ac mae addewid o fwy o newyddion ar 17 Chwefor.

Mae Ani Glass yn gyn-aelod o’r grŵp The Pipettes, ac wrth gwrs yn chwaer i Gwenno. Mi wnaeth hi ryddhau sengl ‘Y Ddawns’ yn 2016, a dyma gyfle perffaith i rannu honno gyda chi…

Record: 5 – I Ka Ching

Record aml-gyfrannog sy’n cael ein sylw yr wythnos hon. Rhyddhawyd ‘5’ ym mis Gorffennaf 2016 i nodi pen-blwydd label Recordiau I Ka Ching yn bump oed.

Mae’r albwm dwbl yn cynnwys 16 o draciau – un gan bob un o’r artistiaid sydd wedi rhyddhau cynnyrch gyda’r label yn ystod pum mlynedd eu bodolaeth.

Mae’n gasgliad gwerth chweil, sy’n cynnwys ambell glasur go iawn, ac mae gwaith celf y record feinyl yn hyfryd iawn. Mae rheswm da dros roi sylw i’r albwm rŵan, gan bod modd gwrando ar y traciau i gyd ar safle Soundcloud I Ka Ching ers dechrau’r wythnos.

Dyma un o’n ffefrynnau ni, sef ail-gymysgiad Switch Fusion o ‘Paid â Meddwl’ gan Y Reu:

Ac un peth arall…: Cau pleidlais Gwobrau’r Selar

Os ydach chi’n dilyn Y Selar ar Twitter, neu’n hoffi ein tudalen ar Facebook, byddwch chi siŵr o fod wedi cael llond bol arnom ni’n eich hatgoffa i bleidleisio ym mhleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar eleni.

Wel, dyma un nodyn olaf gan bod y bleidlais yn cau am hanner nos ddydd Sul yma – felly dyma’r cyfle olaf go iawn i chi fwrw pleidlais dros eich ffefrynnau. Mae bron iawn i 1000 o bobl wedi pleidleisio bellach, ond rydan ni isho clirio’r ffigwr hwnnw’n gyfforddus.

Dyma’r ddolen ar gyfer gyfer y bleidlais – http://gwobrau.selar.cymru/

Gwerth nodi bod tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth hefyd, ac yn gwerthu’n gyflym felly peidiwch oedi cyn bachu un. Ar hyn o bryd, maen nhw ar gael am y pris cynnar o ddim ond £12 – bargen am noson fawreddog sy’n cynnwys 10 o artistiaid gorau Cymru.

Mae’r tocynnau bellach ar werth o siopau Inc yn Aberystwyth, Palas Print yng Nghaernarfon ac Awen Meirion yn Y Bala, neu mae modd i chi archebu ar-lein wrth gwrs.