Pump i’r penwythnos 10/11/17

Gig: Ffug – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Mae ‘na ambell gig yn digwydd penwythnos yma i roi yn eich dyddiaduron.

Ein prif ddewis ni ydy Ffug (yn cefnogi Syd Arthur) nos Wener 10 Tachwedd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd 19:00 – os ydach chi’n lwcus, efallai y cewch glywed chydig o’r stwff newydd mae Ffug yn gweithio arno’n ddiweddar!

Mae Welsh Whisperer wrthi’n gwneud ei stwff yr wythnos hon eto, y tro yma yn Neuadd Pantyfedwen, Pontrhydfendigiaid nos Wener Tachwedd 10 a Neuadd y Farchnad, Llanboidy nos Sadwrn 11 Tachwedd.

Mae Chroma’n cadw’n brysur ac yn chwarae gyda Salt Bath a Penny Rich yn Le Pub, Casnewydd am 19:00.

A bydd gig ‘Croeso i Ffoaduriaid’ yng Nghlwb Pêl-Droed Porthmadog nos Sadwrn hefo Bob Delyn a’r Ebillion, Celwyddau a Jamie Bevan yn chwarae, gan ddechrau am 20:00.

Cân: ‘Roger Rodger!’ – Y Cledrau

Does dim llawer nes y bydd albwm newydd y Cledrau ar gael i’r glust. Rhoddwyd dwy gân o’r albwm ar Soundcloud wythnos yma, gan gynnwys ‘Cliria Dy Bethau’ sydd ar dudalen Soundcloud y band, a ‘Roger Rodger!’ sydd ar dudalen eu label, Recordiau I KA CHING.

Hefyd yr wythnos yma, cafwyd cip o glawr yr albwm am y tro cyntaf – darn o gelf a ddyluniwyd gan Steffan Dafydd (Breichiau Hir).

Bu’r Cledrau’n gweithio a recordio’r albwm yn stiwdio Drwm, Llanllyfni gydag Osian Williams ac Ifan Jones dros yr haf.

Bydd yr albwm, Peiriant Ateb, allan ar 1 Rhagfyr 2017. Ond tan hynny gwrandewch ar y bangar yma:

Artist: Alffa yn y stiwdio

Bu Alffa yn y stiwdio dros y penwythnos diwetha’, yn gweithio ar eu “sengl gyntaf go iawn” yn eu geiriau nhw.

Bu’n flwyddyn lwyddiannus i Alffa, a byddwch chi ddarllenwyr Y Selar yn gwybod ers tro mai’r ddeuawd o Lanrug ddaeth i’r brig yn Mrwydr y Bandiau 2017 yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Bu Dion a Sion yn recordio eu sengl newydd gyda Robin Llwyd Jones (Bwncath, Y Bandana gynt) yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld cynnyrch gan Alffa cofiwch. Mae dwy sengl ganddynt ar albwm aml-gyfrannog Sain, Sesiynau Stiwdio, a gafodd ei ryddhau ‘leni, sef ‘Rhydd’ a ‘Mwgwd’. Ac fe ryddhawyd EP ganddynt hefyd yn 2016, casgliad chwe chân sy’n rhannu enw’r grŵp.

Mae disgwyl i ni glywed caneuon ‘chydig ysgafnach yn ogystal â’r sŵn sy’n cynnwys “riff fuzzy, bluesy”. Bydd y sengl newydd allan fis Ionawr – gyda’r union ddyddiad i’w gadarnhau yn fuan.

Yn y cyfamser, dyma hen ffefryn, ‘Tomos Rhys’ o’r EP cyntaf ganddyn nhw:

Record: Casset – Casset

Mae albwm Casset, sy’n rhannu enw’r grŵp, o’r diwedd yn cael ei ryddhau’r penwythnos yma.

Dyma fydd albwm cyntaf y grŵp o frodyr o Sir Drefaldwyn – sef Mabon Gwyn, Gwern Ap Gwyn a Llewelyn Ap Gwyn.

Mae enw cyfarwydd wedi bod yn cynhyrchu a mastro’r albwm, neb llai nag eu tad – Gwyn ‘Maffia’ o’r grŵp Maffia Mr Huws.

Mae sŵn yr albwm yn cael ei ddisgrifio ganddynt fel “blues rock”. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am yr albwm a fydd ar Sound Cloud ddydd Sadwrn 11 Tachwedd.

Un peth arall..: Blas o albwm newydd Band Pres Llareggub

Os na allwch aros tan 4 Rhagfyr, sef dyddiad rhyddhau albwm newydd Band Pres Llareggub, yna mae cyfle i gael blas o’r hyn sydd ar y gweill ganddynt ar eu tudalen Soundcloud. Mae dwy gân o’r albwm wedi dod yn boblogaidd iawn yn barod, heb i’r caneuon hyd yn oed gael eu rhyddhau eto.

Mae ‘Cyrn Yn Yr Awyr’ gydag Osian Huw Williams yn cyfrannu ei lais i’r trac, wedi dod yn adnabyddus iawn ers iddi gael ei chwarae am y tro cyntaf ddwy waith (yn syth ar ôl ei gilydd) gan Lisa Gwilym ar ei rhaglen ar 25 Hydref. Hefyd – mae ‘Cymylau’ gan Band Pres Llareggub ac Alys Williams eisoes ar Soundcloud ganddynt. Does dim dwywaith y bydd rhain yn diwns y byddwn yn clywed llawer mwy ohonynt ar ôl i’r albwm ei rhyddhau.

Bachwch y cyfle i gael clywed chydig mwy o’r albwm fan hyn: