Pump i’r Penwythnos 10 Chwefror 2017

A hithau’n Ddydd Miwsig Cymru (#dyddmiwsigcymru) heddiw, yr her fwyaf yr wythnos yma ydy cyfyngu dewisiadau Pump i’r Penwythnos i ddim ond pump peth. Mae llwyth o gigs yn cael eu cynnal, caneuon yn cael eu rhyddhau a gweithgareddau cerddorol eraill ar y gweill nes ei bod bron yn amhosib dewis a dethol.

Efallai bod hyn yn codi cwestiwn -er bod gweld cerddoriaeth Gymraeg yn cael llwyth o sylw’n beth gwych, tybed ydy canoli popeth ar un diwrnod yn golygu llai o sylw a chynulleidfa i’r pethau unigol? #jystgofyn

Wrth gwrs, mae pob diwrnod yn ddydd miwsic i’r Selar a dyma’n ymdrech i gynnig detholiad o’r holl bethau sy’n digwydd penwythnos yma….

Gig:– Steve Eaves a Chris Jones – Llofft @ Tafarn y Fic – Gwener 10 Chwefror

Oes, mae ‘na lwyth o gerddoriaeth fyw ledled Cymru heddiw gyda gigs yn ystod y dydd a’r nos i nodi Dydd Miwsig Cymru.

Yn y gogledd, mae gan griw 4 a 6 opsiwn hyfryd iawn ar ffurf gig CaStLeS ac Ani Glass yng Nghlwb Canol Dre.

Yn y Castle Emporium yng Nghaerdydd mae ‘na setiau trwy gydol y prynhawn heddiw gan gynnwys perfformiadau gan Adwaith, Argrph, Chroma, The Gentle Good a Mellt.

I’r rhai sy’n Aberystwyth, gwerth i chi daro mewn i’r Hen Lew Du am 18:30 i weld set gan y grŵp ifanc (…iawn), Fflamau Gwyllt.

Ond ein prif ddewis ni yr wythnos hon ydy’r gig arbennig iawn sydd yn Llofft, Tafarn y Fic gyda’r anfarwol Steve Eaves, a’r canwr gwerin gyda llais anhygoel, Chris Jones yn cefnogi.

Cân: ‘Eniwe’ – Omaloma

Mae ‘na nifer fawr o ganeuon wedi’u rhyddhau heddiw i nodi Dydd Miwsig Cymru, gan gynnwys senglau gan Hyll a The Gentle Good ymysg nifer o artistiaid eraill.

Rydan ni’n hoff iawn o offrwm diweddaraf Omaloma, sef prosiect George Amor gynt o Sen Segur. ‘Eniwe’ ydy enw ei sengl diweddaraf freuddwydiol ….hyfryd iawn.

Artist: Uumar

Dyma i chi fand sydd wedi bod yn reit dawel ers yr haf, yn rhannol mi dybiwn gan bod Sion Owens o’r grŵp i ffwrdd yn teithio Asia ar hyn o bryd!

I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd ag Uumar, wel, maen nhw’n grŵp pop grynji sy’n gyfuniad o gyn-aelodau Y Bandana a Tom ap Dan.

Fe wnaethon nhw ryddhau eu EP, Briw, ym mis Mawrth 2016, ac maen nhw wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw am ryddhau mwy o gynnyrch ar ffurf tair sengl dros y tri mis nesaf.

Mae’r gyntaf o’r dair allan heddiw, dyma ‘Peth am Farw’:

Record: EP Bendith

Y dewis amlwg o record yr wythnos hon – casgliad newydd o ganeuon gan Bendith, sy’n dilyn yr albwm gwych a ryddhawyd ganddyn nhw yn yr hydref.

Mae’r EP allan yn ddigidol, ond hefyd ar fformat feinyl 12”, ac yn cael ei ryddhau gan label Aficionado.

Nifer cyfyngedig o gopïau o’r record feinyl sydd ar gael, felly bachwch un o siop ar-lein Piccadilly Records reit handi.

Dyma un o’r traciau, ‘Cân am Gariad’, sy’n fersiwn Gymraeg o Love Song gan Lesley Duncan:

Ac un peth arall…: Arddangosfa Y Blew

Yn ogystal â gigs a chynnyrch newydd mae ‘na dipyn o weithgareddau cerddorol amgen yn cael eu cynnal heddiw i nodi Dydd Miwsig Cymru.

Ymysg y pethau ryfeddaf, os nad ydach chi allan yn un o’r gigs niferus sy’n cael eu cynnal, mae’n werth cadw golwg am ymddangosiad Plu ar Pobol y Cwm am 20:00 ar S4C heno.

Ac os ydach chi’n crwydro strydoedd Caerdydd dros y dyddiau nesaf, cadwch olwg am y celf stryd arbennig sydd wedi’i gomisiynu gan Bradley R.mer i hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru – mae ‘na un del iawn o Gruff Rhys ar Stryd Womanby.

Ond i fod yn blwyfol, rydan ni am dynnu sylw at arddangosfa arbennig o femorabilia a deunydd aml-gyfrwng Y Blew a Geraint Jarman sydd wedi agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heddiw ac a fydd i’w gweld am yr wythnos nesaf nes Gwobrau’r Selar.