Pump i’r Penwythnos 10 Mawrth 2017

Mae’r amser yna o’r wythnos wedi cyrraedd unwaith eto gyfeillion, dyma’ch pump argymhelliad cerddorol ar gyfer y penwythnos…

Gig: Gildas – Tŷ’r Gwryd, Pontardawe – Gwener 10 Mawrth

Mae ‘na glamp o gig da yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn gyda Candelas, Chroma a Cpt Smith – fel ddudon ni, clamp o gig!

Ond, gig Candelas ym Mangor oedd ein dewis wythnos diwethaf a cystal ag ydy’r hogia o’r Bala, fedrwn ni ddim dewis un o’i gigs nhw bythefnos yn olynol.

Rhywbeth bach yn wahanol felly, gig bach acwstig neis i gynhesu ar gyfer y gêm rygbi heno yng nghwmni’r ardderchog Gildas. Mae’r gig yn Nhy’r Gwryd ym Mhontardawe ac mae cyfle am bach o sgram hefyd gyda swper sglodion ar gael – be well na bach o fiwsig o safon a phryd o fwyd blasus cyn gwylio Cymru’n rhoi cweir i’r Gwyddelod…hmmm.

Cân: ‘Nos Da Myfanwy’ – Aled Hughes

Fersiwn Aled Cowbois Rhos Botwnnog o’r hen glasur Gymraeg ‘Myfanwy’ sydd wedi dal ein clustiau yr wythnos hon.

Ma hon bach yn wahanol i’r hyn fyddech chi’n disgwyl clywed gan y Cowbois, ac yn sicr yn wahanol iawn i’r hyn roedd Aled yn gwneud gyda’i fand roc blaenorol, Eryr!

Ffaith bach diddorol i chi am hon…mae Al wedi defnyddio gitâr resonator Alun ‘Sbardun’ Huws ar y trac yma. Bydd rhai yn gwybod i Sbardun adael ei offerynnau i nifer o gerddorion gwahanol pan fu farw yn 2014, gan gynnwys rhoi’r gitâr arbennig yma i Euron ‘Jos’ sy’n chwarae i Cowbois Rhos Botwnnog ymysg eraill.

Un fach neis i chi gynnwys ar y rhestr chwarae penwythnos yma’n sicr.

Artist: Twinfield

Ers ei ddarganfod rai misoedd yn ôl, a dewis ei gân wych ‘I Afael yn Nwylo Duw’ fel cân yr wythnos Pump i’r Penwythnos, rydan ni’n ffans o Twinfield.

Rydan ni hefyd wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed cerddoriaeth newydd ganddo, a do, fe ddaeth y dydd gan bod sengl newydd y cerddor electroneg amgen allan heddiw.

Mae ‘Taxol’ wedi ei thorri o’r un brethyn ag ‘I Afael yn Nwylo Duw’ gyda’r sŵn electroneg cynnil, pheiriant drymiau’n gyrru’r trac, a’r llais yn poeri’r geiriau chwerw yn nhraddodiad Dave Datblygu. Tiiiiwn arall gan Twinfield.

Mae hon allan ar label Neb heddiw, yn ddigidol ar hyn o bryd ond gydag addewid o gopïau casét erbyn wythnos nesaf.

Record: Goleuadau Llundain – Daniel Lloyd a Mr Pinc

Record fach o’r archif wythnos yma, ac albwm a ryddhawyd nôl yn 2005.

Mae ‘na reswm da dros ddewis y record yma, sef bod y grŵp newydd ail-ffurfio, gan chwarae gig yn Saith Seren, Wrecsam wythnos diwethaf – gig oedd wedi gwerthu allan wythnosau ymlaen llaw dylid nodi. Hwn oedd eu gig cyntaf ers 2011, ac yn ôl pob sôn roedd yr ymateb yn arbennig o dda.

Fe fydd y grŵp yn chwarae nesaf yn noson Pedwar a Chwech yng Nghaernarfon ar 13 Ebrill, gyda chefnogaeth gan Ffracas a’r hynod addawol Gwilym.

Ffurfiodd y grŵp pan oedd yr aelodau’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor ar ddechrau’r 00s a Goleuadau Llundain ydy eu hunig albwm hyd yma…er bod un o’r aelodau wedi datgelu wrth Y Selar eu bod yn cynllunio ymweliad â’r stiwdio’n fuan.

Roedd y prif ganwr, Dan Lloyd, ar raglen Heno yr wythnos hon yn perfformio fersiwn acwstig o deitl drac yr albwm…

Ac un peth arall…: Brwydr y Bandiau

Ydy, mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol a Mentrau Iaith Cymru…a chwpl o bartneriaid eraill masiwr… yn ôl! Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd manylion y rowndiau rhagbrofol, a dyma nhw i chi:

17 Mawrth – Aberystwyth

Mosco, Steff Marc, Mari Mathias, Carma gydag Yr Eira yn perfformio hefyd

24 Mawrth – Caernarfon

Alffa, Gwilym, Madarch gyda FFUG yn perfformio hefyd

30 Mawrth – Caerdydd # 1

New Revival, Eadyth, Manji a Cadno yn perfformio hefyd

31 Mawrth – Caerdydd # 2

Mabli Tudur, Jac Ellis a Chroma yn perfformio hefyd