Mae ’na lwyth o bethau cerddorol difyr i gadw golwg amdanyn nhw yr wythnos yma, a dyma ddetholiad o’r rhain yn Pump i’r Penwythnos:
Gig: Meic Stevens, Elidyr Glyn a Tegid Williams – Caffi Blue Sky, Bangor – Sadwrn 13 Mai
Mae’n amhosib anwybyddu’r ffaith bod Gŵyl Focus Wales yn digwydd yn Wrecsam dros y penwythnos. Dyma ŵyl reit unigryw i Gymru sy’n cyfuno pob math o sgyrsiau diwydiant cerddoriaeth gyda llwyth o gigs gwych mewn lleoliadau amrywiol.
Bydd nifer o artistiaid Cymraeg yn perfformio, gyda Saith Seren yn ganolbwynt ar gyfer y setiau hynny. Roedd Danielle Lewis, Mr Huw a Calfari yn perfformio yn Saith Seren neithiwr (nos Iau) ac mae Brython Shag yn hedleinio’r gig yno heno (Gwener). Ond efallai mai nos Sadwrn ydy’r uchafbwynt gyda Hywel Pitts yn arwain noson sy’n cynnwys, Trŵbz, Aled Rheon a Breichiau Hir ymysg eraill.
Mae Gwilym Bowen Rhys yn cael penwythnos prysur arall gyda gig yn Neuadd Bentref Aberangell neithiwr, ac yna un arall yn y Foelas Arms, Pentrefoelas nos fory (Sadwrn).
Tu hwnt i Gymru mae Ani Glass yn chwarae yn Komedia, Bryste heno ac mae Kizzy Crawford yn cloi taith Welcome to My City yn 10 Feet Tall, Caerdydd cyn teithio i Cyclefest yn Ynys Manaw i berfformio fory.
Ond ein hoff gig ni o’r penwythnos ydy hwnnw mae Menter Iaith Bangor yn cynnal yng Nghaffi Blue Sky, Bangor nos Sadwrn gyda Tegid Rhys, Elidyr Glyn a’r anfarwol Meic Stevens. Dau artist gwerin hynod o addawol yn cefnogi y meistr mewn awyrgylch agos-atoch-chi.
Cân: ‘Cymorth’ – Argrph
Cyhoeddodd label recordiau Libertino (Decidedly gynt) ddydd Mawrth bod sengl newydd ar y ffordd yn fuan gan y grŵp gwych o’r Gorllewin, Argrph.
‘Cymorth’ ydy enw’r sengl newydd, ac fe fydd yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar 19 Mehefin. Ond, roedd cyfle cyntaf i glywed y trac newydd ar raglen Hwyrnos Georgia Ruth Williams ar Radio Cymru nos Fawrth.
Dyma drydedd sengl Argrph, gan ddilyn ‘Tywod’ a ryddhawyd ym mis Hydref 2016, a’r sengl gyntaf, ‘Neb yn Cofio’ a ryddhawyd fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ddechrau llynedd.
Emyr Sion ydy’r brêns sy’n gyfrifol am Argrph. Recordiwyd y sengl newydd dan arolygaeth y cynhyrchydd Llyr Parry (Y Niwl, Palenco, Jen Jeniro, Cowbois Rhos Botwnnog), ac mae Caradog Davies i’w glywed ar y drymiau, a Gwyn Rosser, sydd wedi partneru gydag Emyr yn y gorffennol fel y band Tymbal, ar y gitar ac ail lais.
Bydd y sŵn gitârs janglî a llais diog Emyr yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi clywed senglau blaenorol Argrph, ond mae islais tywyll i hon o’i chymharu â ‘Tywod’ yn enwedig.
Mae testun y gân yn un difrifol, a dewr i grŵp ifanc, fel yr eglura Emyr:
“mae’n delio â’r cyngor annigonol a dinistriol a roi’r i’r rhai hynny sy’n dioddef iechyd meddwl. Mae’n bwrw gwawd ar y brawddegau a glywais i dro ar ôl tro yn ystod cyfnodau tywyllaf fy mywyd.”
Yn sicr mae hon yn drac arall sy’n dal y llygad a’r glust gan Argrph, ac yn cadarnhau eu statws fel un o artistiaid newydd mwyaf cyffrous Cymru.
Artist: Patrobas
Newyddion cyffrous gan y grŵp gwerin o Ben Llŷn, Patrobas, dros y dyddiau diwethaf, sef bod eu halbwm newydd yn cael ei ryddhau ym mis Mehefin.
Os wnaethoch chi ddarllen rhifyn diweddaraf Y Selar, byddwch eisoes yn gwybod bod albwm ar y gweill gan Patrobas ac eu bod nhw wedi treulio cyfnod yn Stiwdio Sain gydag Aled Cowbois yn cynhyrchu ym mis Ionawr.
Ffurfiwyd y grŵp ychydig dros dair blynedd yn ôl, gan ryddhau eu sengl cyntaf ‘Meddwl ar Goll’ fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ym Mehefin 2015.
Fe wnaethon nhw ryddhau eu EP cyntaf, Dwyn y Dail, yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth diolch i’w brwdfrydedd a pharodrwydd i gigio’n rheolaidd.
Yn ogystal â chyhoeddi bod yr albwm allan fis nesaf, maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu rhestr gigs dros yr haf, sy’n gynhwysfawr i ddweud y lleiaf! Mae’r rhestr yn dechrau gyda dim llai na thri gig mewn diwrnod ddydd Sadwrn yma – y cyntaf yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon am hanner dydd, yna yng Ngŵyl 5 Rhanbarth ym Mangor am dri y prynhawn, a’r trydydd yn Nhŷ Newydd Sarn gyda’r hwyr. Fel dd’wedon ni, maen nhw’n barod iawn i gigio!
Dyma fersiwn demo o ‘Castell Aber’ gan Patrobas:
Record: Mae’r Angerdd Yma yn Troi yn Gas
Gig digon prin gan Breichiau Hir yn Focus Wales y penwythnos yma – byddan nhw’n chwarae yn Saith Seren Wrecsam nos Sadwrn gyda swp o fandiau Cymraeg eraill.
Cyfle perffaith felly i roi sylw i’r EP gwych, sydd heb gael digon o sylw hyd yma yn ein tyb ni.
Rhyddhawyd y casgliad yma o 6 trac yn wreiddiol ym mis Mawrth 2015, ar ôl recordio yn Stiwdio Seindon yng Nghaerdydd gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu.
Mae’n reit unigryw fel darn o gelf mewn gwirionedd gan bod clawr pob un o’r 169 copi yn unigryw, ond yn perthyn yn agos iawn i’r 168 arall hefyd. Mae’r cloriau wedi eu creu o un darn mawr o waith celf gan yr artist Elin Meredydd, darn o gelf a grëwyd mewn gig Breichiau Hir yng Nghrymych os ydan ni’n cofio’n iawn (cywirwch ni os ydan ni’n anghywir!)
Ymysg y 6 trac ar yr EP mae ‘na gwpl sy’n arbennig o dda, yn enwedig y gwefreiddiol, ias lawr eich cefn, ‘Ti a Dy Ffordd’:
Ac un peth arall…: Casét hir cyntaf Ffa Coffi Pawb
Trydariad difyr gan Glyn Llewelyn (@glyndeiniolen) wythnos yma gyda llun o gaset Ffa Coffi Pawb o’r enw Torrwyr Beddau Byd-Eang Cyf.
Arweiniodd y neges at dipyn o drafodaeth, oedd yn cynnwys aelod enwocaf Ffa Coffi Pawb, Gruff Rhys. Mae Gruff wedi cadarnhau mai’r casét yma ar Label Siwgwr oedd casét hir cyntaf y grŵp. Fe’i ryddhawyd ym 1986, a dim ond rhyw 50 copi sy’n bodoli…felly os oes copi o hwn rhywle yn yr atig, mae’n brin iawn!
Mae’n job ffeindio unrhyw un o’r caneuon yma ar-lein, ond dyma achub ar y cyfle i ddangos fideo’r gân a ysgogodd enw un o’r grwpiau eraill sy’n cael sylw Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon: