Dyma’ch ffics cerddorol wythnos chi am yr wythnos.
Gig: Cpt Smith, Breichiau Hir – The Parrot, Caerfyrddin. Gwener 13 Ionawr
Dim llwyth o gigs yn digwydd penwythnos yma, ond yn ffodus iawn, mae ‘na glincar fach yng Nghaerfyrddin.
Er bod yr EP allan ers mis Tachwedd, bydd Cpt Smith yn cynnal gig lansio swyddogol Propeller yn y Parrot. Ac yn eu cefnogi ar y noson mae’r tangyflawnwyr bythol, Breichiau Hir (…rydan ni ond yn dweud hynny gan bod ni’n caru chi, ac isho gweld chi’n gwneud mwy bois!)
Mae’n werth tynnu sylw hefyd at gig bach da yn The Full Moon yng Nghaerdydd, ble bydd The Gentle Good, Adwaith ac eraill yn perfformio fel rhan o ŵyl ‘Free For All’.
Cân: ‘Byd DC’ – Dau Cefn
Tydi hi ddim yn gyfrinach, nac yn gywilydd i ni gyfaddef, ein bod ni’n hoff iawn o Dau Cefn yn nhyrrau’r Selar…efallai bach yn rhy hoff… ond ta waeth.
Pan fo Dau Cefn yn rhoi traciau newydd ar eu safle Soundcloud, mae’n anodd iawn i ni anwybyddu hynny felly. Mi wnaeth ‘na lond llaw o draciau ymddangos yno ganddyn nhw neithiwr, felly rhaid oedd dewis un fel ein ‘Cân’ yr wythnos yma.
Dyma un o’r caneuon hynny, sef ‘Byd DC’ sy’n cynnwys dirgryniadau dwfn llais Steffan Cravos (Crav Llibertat / Sleifar) yn rapio. Mae hi’n dechrau’n araf, ond sticiwch efo hi…
Artist: Geraint Jarman
Allai o ddim fod yn unrhyw un arall wythnos yma mewn gwirionedd, wrth i ni gyhoeddi ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym nos Fercher mai Geraint Jarman fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.
Roedd 2016 yn flwyddyn arwyddocaol i Geraint Jarman. Yn gyntaf, roedd yn nodi deugain mlynedd ers rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, a ryddhawyd adeg Eisteddfod Aberteifi ym 1976.
Ym mis Gorffennaf hefyd fe ryddhaodd ei drydydd albwm mewn pum mlynedd, i danlinellu rhyw ddeffroad o’r newydd yn y cerddor eiconig. Mae Tawel yw’r Tymor yn dilyn Brecwast Astronon (2011) a Dwyn yr Hogyn Nôl (2014), ond yn newid cyfeiriad amlwg o’i waith blaenorol gan mai albwm acwstig ydy hwn.
Yn ei gyfweliad â’r Selar yn rhifyn mis Awst mae Geraint yn awgrymu ei fod mewn lle da ar hyn o bryd “dwi’n teimlo mwy fel Ger ers talwm.”
Roedd yn amser priodol i nodi ei gyfraniad, a thalu teyrnged i Jarman felly, ac mae modd i chi wneud hynny trwy ddod i’r gig arbennig ar nos Wener penwythnos Gwobrau’r Selar
Record: Atgof Fel Angor – Geraint Jarman
Fe wnawn ni sticio efo thema Jarman am y tro…ac os ydach chi isho deall pam rydan ni’n cyflwyno’r wobr Cyfraniad Arbennig iddo, yna ewch i chwilio am gopi o’r bocs-set Atgof Fel Angor a ryddhawyd gan Sain sy’n cynnwys copïau CD o’i 15 albwm cyntaf.
Mae’n amser da i chi brynu copi o’r casgliad hefyd gan bod Sain yn cynnig gostyngiad o 25% ar y pris i nodi y wobr – dim ond £15 ydy’r bocs-set ar eu gwefan ar hyn o bryd!
Dyma fideo ohonon perfformio’r glasur reggae ‘Methu dal y Pwysau’ mewn ffilm ddogfen ‘Geraint yn Amsterdam’ o sawl blwyddyn yn ôl.
Ac un peth arall…: Welsh Whisperer – Loris Mansel Davies
Rhywbeth bach gwahanol, ac ysgafn i godi’ch calon chi ar benwythnos oer a gwyntog ym mis Ionawr.
Yr anfarwol Welsh Whisperer yn perfformio ‘Loris Mansel Davies’ ar raglen Heno. Bendigedig…