Pump i’r Penwythnos 16 Mehefin 2017

Mae’n addo tywydd braf ar gyfer y penwythnos, ac mae gennym ddigon o ddanteithion cerddorol boed chi’n mynd i ŵyl neu’n ymlacio yn yr ardd.

Gig: Ffiliffest – Sadwrn 17 Mehefin

Mae’n benwythnos prysur o gigs, gydag ambell ŵyl yma ac acw’n awgrymu bod yr haf yn agosáu go iawn.

Mae Meinir Gwilym i’w gweld yn gigio’n fwy rheolaidd ar hyn o bryd, ac mae hi’n perfformio yn Saith Seren, Wrecsam heno (nos Wener).

Yng Ngheredigion heno, mae cyfle i weld Cowbois Rhos Botwnnog yn y Llew Du yn Nhalybont ger Aberystwyth, tra bod Sweet Baboo a CaStLeS yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Mae dydd Sadwrn yn cynnig digon o gigs hefyd gyda Meinir Gwilym wrthi eto yng Nghanolfan Pontio, Bangor fel rhan o Noson Lawen. Mae Adwaith yn perfformio fel rhan o arlwy ‘The Great Get Together’ ym Mharc Caerfyrddin, ac mae CaStLeS yn teithio nôl o Gaerdydd i berfformio ar eu patch lleol yng Ngwesty Padarn, Llanberis.

Dwy ŵyl a drefnir gan fentrau iaith yn y de ddwyrain wedyn – Gŵyl Fach y Fro gyntaf yn y Barri, sy’n cynnig amrywiaeth dda o artistiaid cerddorol gan gynnwys Bryn Fôn a’r Band, Candelas, HMS Morris, Eady Crawford, Band Nantgarw a Band Jazz Rhys Taylor.

Ond, fedrwch chi ddim curo gŵyl mewn castell na fedrwch, a dyna’n union sydd gan Ffiliffest i’w gynnig gyda Candelas, Hyll, Adwaith, Mobinagi, John Nicholas, Allan yn y Fan, Beth Celyn, Nantgarw i gyd yn perfformio yng Nghastell Caerffili. Bechod na fyddai CaStLeS yn perfformio hefyd!

Cân: ‘Cylchoedd yn y Pridd’ – Gwyllt

Ffrwydrodd Gwyllt i’r golwg rhyw bedair blynedd yn ôl wrth ryddhau’r trac ardderchog ‘Pwyso a Mesur’ oedd yn hit mawr gyda chynhyrchwyr Radio Cymru ar y pryd.

Dilynwyd hynny gyda chryno albwm yn 2013 yn rhannu enw’r grŵp, ac yna albwm llawn, Aflonydd, yn 2014. Mae cwpl o senglau wedi dilyn hynny, ond digon tawel fu Gwyllt ar y cyfan dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Prosiect Amlyn Parry o Landwrog yn wreiddiol ydy Gwyllt, ond mae ei grŵp hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd Meic Parry (Y Ffyrc, Winabego), Alun Gaffey (Pwsi Meri Mew, Radio Luxemburg, Alun Gaffey), Marc Real (Ashokan) ac Ifan Jones. Mae cyfweliad gydag Amlyn reit nôl yn rhifyn Awst 2013 o’r Selar.

Braf oedd gweld sengl newydd yn ymddangos gan Gwyllt yr wythnos yma felly. Mae dylanwadau reggae i’w clywed yn hon, ond hefyd chydig bach o hip-hop…sydd ddim yn beth hollol anghyfarwydd i Amlyn sy’n reit enwog am rapio ar drac ‘Foxtrot Osgar’ gan Fand Pres Llareggub.

Artist: Palenco

Bach o newyddion ar ffrwd trydar Palenco neithiwr, sef bod y grŵp wrthi’n recordio albwm yn y stiwdio.

NEWYDDION. Rydym ni yn y stiwdio yn recordio E.P newydd. GWELER ➡️ pic.twitter.com/XqNbQoepL5

— Palenco (@PALENCOband) June 15, 2017

Gan eu bod nhw’n weddol dawel ers cwpl o flynyddoedd, efallai na fydd rhai ohonoch yn gyfarwydd iawn â Palenco.

Maen nhw’n rywbeth o siwpyr grŵp gydag aelodaeth sy’n cynnwys Llŷr Pari (Jen Jeniro, Y Niwl), Dafydd Owain (Eitha Tal Ffranco, Jen Jeniro), Gruff ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Y Niwl), George Amor(Sen Segur, Omaloma) ac Osian Williams (Candelas, Siddi). Llyr a Dafydd sy’n bennaf gyfrifol am y gwaith cyfansoddi, gyda’r lleill yn ymuno ar gyfer perfformiadau byw.

Rhyddhaodd Palenco eu cynnyrch cyntaf ar ffurf sengl ddwbl ‘Bath’ a’r ardderchog ‘Saethu Cnau’ nôl yn Awst 2014. Dilynwyd hynny gan albwm cyntaf yn rhannu enw’r grŵp yn haf 2015, ond digon tawel maen nhw wedi bod ers hynny. Newyddion da eu bod nhw wrthi’n recordio stwff newydd felly.

Esgus da i wrando ar ‘Gofyn Cwestiwn’ gan Palenco felly, tiwn a gyhoeddwyd fel rhan o gasgliad Pump i nodi pen-blwydd label recordiau I Ka Ching yn bump oed…mwynhewch.

Record: Bethan Mai

Enw anghyfarwydd i rai efallai, ond wyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld Rogue Jones yn perfformio.

Bethan ydy ffrynwoman y grŵp gwallgof a gwych, ac mae ei chynnyrch unigol cyntaf allan heddiw.

Enw ei EP ydy Bach, ac fe’i ryddheir ar label Recordiau Blinc. Mae’r label yn disgrifio’r gerddoriaeth fel ‘pop electro Cymraeg arloesol’ gan addo cymysgedd o ‘guriadau cyntefig ac alawon cynnes a chofiadwy’.

O adnabod Bethan Mai, mae un peth yn sicr – bydd y gerddoriaeth yn drawiadol!

Bydd modd prynu’r EP yn ddigidol ar iTunes, Google Play, Amazon Music, Spotify, a.y.b., ac hefyd o siop Recordiau Blinc.

Dyma deitl gân yr Ep, ‘Bach’:

Ac un peth arall…: Hwyl fawr Henebion

Cyhoeddodd y grŵp roc o Fachynlleth, Henebion, yn swyddogol yr wythnos hon eu bod nhw’n chwalu.

Fel un o ddarganfyddiadau Clwb Senglau’r Selar, roedden ni’n hoff iawn o’r bois, a bob amser yn mwynhau eu hegni wrth berfformio’n fyw.

Mae sôn bod Jake wrthi’n datblygu prosiect newydd, a gobeithio byddwn ni’n gweld Dio yn gwneud rhywbeth tebyg yn fuan.

Yn y cyfamser, fel teyrnged, dyma eu Sengl Selar – ‘Mwg Bore Drwg’: