Gig: Y ddawns Ryng-gol – Yr Eira, Y Reu, The Barry Horns, Y Cledrau, Serol Serol, Mosco – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
Mae gig â lein-yp y byddwch chi’n wirion i’w golli’r penwythnos yma’n Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y Ddawns Ryng-gol ar nos Sadwrn 18 Tachwedd.
Bydd cyfle i glywed caneuon newydd o albwm Yr Eira, stwff newydd Y Reu, albwm Y Cledrau sydd ar fin ei ryddhau, The Barry Horns, Serol Serol – sydd hefyd efo albwm ar y gweill (hwn fydd eu hail gig) a Mosco, a greodd argraff ym Mrwydr y Bandiau ‘leni.
Os na fydd hynny’n ddigon i chi, yna mae ‘chydig o betha’ eraill ‘mlaen hefyd…
Nos Wener bydd Chroma yng Nghlwb Ceidwadwyr Cathays, Caerdydd fel rhan o sioe gydag arddangosfa ‘Rat Trap’.
Nos Sadwrn 18 Tachwedd, bydd Patrobas yn chwarae’n Ffair Nadolig Llandudno, a Gai Toms yn chwarae yn Nhŷ Siamas gyda’r hwyr.
Hefyd, yn Pontio Bangor nos Sadwrn bydd un o aelodau gwreiddiol Gorky’s Zygotic Mynci, Richard James yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Bydd Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio set unigol â deunydd o’i albwm cyntaf unigol, ‘Mis Mêl’ fel rhan o’r noson hefyd.
Amrywiaeth eang o gerddoriaeth eto wythnos yma.
Cân: ‘Gad o lifo trwy’r dŵr’ – Yr Oria
Mae Sengl newydd Yr Oria bellach i’w chlywed ar Soundcloud ers 10 Tachwedd. Dyma fand sydd wedi bod o gwmpas ers dros flwyddyn erbyn hyn, ac wedi gwneud degau o gigs ers cychwyn.
Ffurfiodd y pedwarawd o Flaenau Ffestiniog yn ystod ail hanner 2016, ac mae Garry o Jambyls a Gerwyn Murray, basydd Sŵnami ymysg yr aelodau.
O fewn blwyddyn, maent wedi rhyddhau pedair sengl ar Soundcloud yn ogystal a chyhoeddi EP yn swyddogol, gyda phum cân. Daeth eu sengl gyntaf allan ddiwedd 2016 sef ‘Gelynion’, wedyn ‘Cyfoeth Budr’, yna ‘Cyffur’ fis Mehefin diwetha’. Dyma’r ddiweddara’:
Record: House Arrest – Euros Childs
Mae deuddegfed albwm unigol cyn ganwr Gorky’s Zygotic Mynci, Euros Childs, allan yn swyddogol heddiw yn swyddogol ‘House Arrest’, a hynny ar ei label unigol, National Elf.
Mae ei daith hyrwyddo ar gyfer hyrwyddo’r albwm wedi dechrau hefyd, a bydd yn teithio ledled Prydain. Hon fydd ei daith gyntaf ers dwy flynedd.
Agorodd Euros ei daith yn y Transport Club yng Nghaerdydd neithiwr 16 Tachwedd, a rhwng heddiw a 9 Rhagfyr bydd cyfleoedd i’w weld yn Aberystwyth, Bangor, Caerfyrddin, Abertawe a Sir Benfro ynghyd â nifer o drefi a dinasoedd eraill Prydain.
Yn y gorffennol mae Euros wedi teithio gyda band llawn, ond bydd ei daith ddiweddaraf ychydig yn wahanol, fel yr eglura Euros….
“Allweddellau a pheiriant drymiau fydd y setup. Bydd hyn yn rhoi cyfle i mi chwarae caneuon fi heb allu chwarae’n fyw o’r blaen – mwy o stwff sydd wedi’i seilio ar y synth. Bydd dau ohonom ar y llwyfan. Fi’n edrych ‘mlan yn fawr.”
Gwnewch yn siŵr i’i ddal ar y ddyddiadau yma –
17 Tachwedd: The Folkhouse, Bryste
18 Tachwedd: Railway Club, Southend-on-Sea
19 Tachwedd: Seabright, Llundain
20 Tachwedd: Ivy House, Llundain
22 Tachwedd: Centrala, Birmingham
23 Tachwedd: Whiskey Jar, Manceinion
24 Tachwedd: Glad Cafe, Glasgow
25 Tachwedd: Mining Institute, Newcastle
26 Tachwedd: Yorkshire House, Lancaster
28 Tachwedd: Wharf Chambers, Leeds
29 Tachwedd: The Adelphi, Hull
30 Tachwedd: – Buyers Club, Lerpwl
1 Rhagfyr: Rascals, Bangor
2 Rhagfyr: Arad Goch, Aberystwyth
5 Rhagfyr: Prince Albert, Stroud
6 Rhagfyr: Transport Club, Caerdydd
7 Rhagfyr: The Druidstone, Druidstone, Sir Benfro
8 Rhagfyr: Y Parrot, Caerfyrddin
9 Rhagfyr: Cinema & Co, Abertawe
Artist: Plant Duw
Diolch i Dduw – mae Plant Duw yn ôl i’n difyrru. Yn ogystal a’r newyddion am albwm newydd a dyddiad lansio – fe gyhoeddon nhw fideo ddoe (16 Tachwedd) i gyd-fynd â’r trac ‘Trempyn’ oddi ar eu halbwm newydd sef ‘Tangnefedd’.
Gan ddisgrifio’r cymbac cerddorol – dywedon nhw “mae meddyliau Plant Duw o hyd ar y caneuon sy’n ffurfio’n araf rhyngom – brith syniadau yn trosi a throi yn yr awel cyn plannu gwreiddiau a thyfu’n fwy cadarn, o fewn waliau gardd flêr ond ffrwythlon y band”.
Mi fydd yr albwm newydd allan ddechre’ fis Rhagfyr ar label Sbrigyn Ymborth, ac mi fyddan nhw’n ei lansio hi’n y Big Top, Ten Feet Tall, Caerdydd ar 10 Rhagfyr efo’r artistiaid dawnus ARGRPH, HYLL a Y GWYDDEL yn cefnogi, yn ogystal a DJ Hefin Jones yno hefyd.
Un peth arall..: Sôn am y Sîn yn rhyddhau podlediad newydd
Mae’r blog cerddoriaeth misol Sôn am y Sîn wedi rhyddhau eu trydydd podlediad ddydd Llun 13 Tachwedd.
Rhyddhawyd y podlediad cyntaf ganddynt ym mis Awst, ac rydan ni’n ffans mawr yma yn Y Selar.
Enw’r podlediad newydd sy’n trin a thrafod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ydy ‘Y Sôn’, efo’r un diweddara’ yn “garreg filltir personol” iddynt yn ôl y ddeuawd.
Cychwynnodd Sôn am y Sin fel blog erthyglau am y sin gerddorol Gymraeg – gyda’r erthygl gyntaf yn cael ei chyhoeddi nôl ym mis Ionawr 2016.
Gethin Griffiths a Chris Roberts ydy’r ddau sy’n gyfrifol am y blog, ac erbyn hyn mae bron i 70 o erthyglau wedi eu cyhoeddi – y rhan fwyaf gan Geth a Chris, ond ambell un gan awduron gwadd hefyd.
Bwriad y ddau yw ceisio annog trafodaeth – “rydan ni’n edrych ymlaen i gael trafodaethau iach â’r gwrandawyr yn y dyfodol” meddai’r ddau.
Mae nhw’n bodlediadau difyr sy’n taflu golau ar bob math o gerddoriaeth sydd ar gael i’n clustiau yma yng Nghymru. Ewch amdani!