Gig: Gŵyl y Dyn Gwyrdd – Crughywel, Bannau Brycheiniog
Does dim amser i garedigion cerddoriaeth orffwys ar ôl wythnos brysur ym Môn, wrth i Ŵyl y Dyn Gwyrdd gael ei gynnal yn syth ar ôl yr Eisteddfod ‘leni. Mae artistiaid Cymraeg megis Alys Williams, Alun Gaffey, Palenco, Plu, Cowbois Rhos Botwnnog a llawer mwy eisoes wedi perfformio yno wythnos yma – ond mae dal llawer o artistiaid gwych i’w gweld dros y penwythnos.
Os ydach chi’n ddigon ffodus i gael tocyn, neu i gael un gan ffrind funud ola’ gwnewch yn siŵr na fethwch chi Omaloma, Aled Rheon a llawer mwy o enwau gwych. Green Man yw’r lle perffaith i ddarganfod cerddoriaeth newydd!
Hefyd y penwythnos yma mi fydd Gŵyl Bethel yn cael ei chynnal, efo nifer o fandiau lleol yn cael cyfle i berfformio – mi fydd Pyroclastig, Tegid Rhys, Einir Eins, Daf Jones, Megan Roberts a Harmoneli yno i ddiddanu. Mi fydd amryw o ddigwyddiadau eraill yno trwy gydol y penwythnos hefyd.
Cân: ‘Anghofia Dy Hun’ – Papur Wal
Mae ‘na fand newydd sbon wedi rhyddhau eu cân gyntaf, ‘Anghofia Dy Hun’ ar SoundCloud wythnos diwetha’, sef Papur Wal. Wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, tri o’r Gogledd yw Ianto Gruffudd (llais, gitâr neu gitâr fas), Guto Rhys Huws (dryms) a Gwion Ifor (llais, gitâr neu gitâr fas).
Gwion yw’r un ysgrifennodd y gân, a dywedodd Ianto mewn sgwrs fer â’r Selar “mae’n dibynnu pwy sy’n chwarae’r offerynnau a chanu o ran pwy bynnag sydd ‘di ‘sgwennu’r gân. Gwion sydd ‘di sgwennu hon.”
Mae’r tri ohonynt wedi bod yn chwarae cerddoriaeth â’i gilydd ers “pedwar i bump mis” ac maent wedi bod yn brysur yn recordio dau demo efo hogia Mellt ym Adamsdown, Caerdydd.
Bydd cân arall yn cael ei rhyddhau ganddynt wythnos nesa’ hefyd – sef ‘Brain Damage’ wedi ei sgwennu gan Ianto’r tro hwn. O ran sŵn, disgrifir Ianto gerddoriaeth y band fel “slacker rock, wedi’i ddylanwadu gan fandiau eiconig fel Pavement, Sonic Youth a The Velvet Undergroumd – a phetha mwy cyfoes fel Parquet Courts a Carseat Headrest”.
Mae sôn bod y band yn bwriadu gigio ar ôl i’r yr haf – a bod mwy o wybodaeth ar y ffordd. Yn sicr da ni’n edrych ‘mlaen i glywed mwy – cymrwch sbec o’r gân newydd isod!
Artist: Gwilym
Ychydig yn hwyrach na’r disgwyl, fe ryddhawyd cynnyrch cyntaf Gwilym echdoe (16 Awst) sef y sengl ‘Llyfr Gwag’. Bu’r band o Fôn ag Arfon â chynlluniau i ryddhau cynnyrch cyn gynted a phosib erbyn yr Eisteddfod oedd ar eu stepen drws eleni, ond fe gymerodd nes yr wythnos yma iddyn nhw allu ei rhyddhau hi’n iawn.
Aelodau’r band yw Ifan (llais a gitâr rhythm), Rhys (gitâr flaen), Llyr (drymiau) a Llew (gitâr fas). Disgrifir eu sŵn yn hafaidd ‘indie’, ysgafndrwm, gweithgar a jazzy. Rhestrir Ysgol Sul, Maffia Mr Huws a Ffa Coffi Pawb fel eu prif ddylanwadau.
Roedd y band yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau ar ddydd Mercher y ‘Steddfod, ac yn chwarae ar lwyfan y maes cyn hynny – ac fe dynnwyd torf fawr i’w gwylio yn eu slot ar y llwyfan cyn hyd yn oed cystadlu yn Mrwydr y Bandiau, gan ddangos pa mor boblogaidd ydynt o feddwl pa mor newydd ydyn nhw!
Recordiwyd y sengl gyda Callum Lloyd Williams yn stiwdio New Street, ac mae addewid o fwy o gynnyrch ar y ffordd, gydag EP erbyn cyfnod y Nadolig yn edrych yn obeithiol.
Fe lwyddon nhw i gipio’r ail safle ym Mrwydr y Bandiau, wrth i Alffa ddwyn y wobr gyntaf. Mae’r band yn sicr wedi ei dallt hi o ran hyrwyddo’i hunain – fe fombardion nhw’r maes â’u sticeri gwreiddiol, hefo wynebau’r aelodau wedi’u golygu arnynt.
Yn sicr mi fyddwn ni’n clywed yr enw yma’n amlach!
Gwilym yn tynnu torf ar lwyfan y Maes Ddydd Mercher 16:00 Eisteddfod Môn. Llun: Elin Siriol.
Record: ‘Mae’r Nos Yn Glos Ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni’ – Ffracas
Ffracas sy’n dwyn sylw’r wythnos yma â’u EP newydd hir ddisgwyliedig, Mae’r Nos yn Glos ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni, sydd wedi ei ryddhau’n swyddogol ar label I KA CHING echdoe (16 Awst).
Mae’r pedwar aelod o Ben Llŷn wedi bod yn jamio hefo’i gilydd ers yn ifanc iawn (yr ysgol gynradd) felly maent yn hen gyfarwydd â’i gilydd, ac eu sŵn. Dywedir bod ‘na “ddealltwriaeth gadarn rhwng y pedwar aelod” yn ôl I Ka Ching – hefo Sion Adams (gitâr), Jac Williams (gitâr fas a llais), Owain Lloyd (drymiau) a Ceiri Humphreys (gitâr) yn rhan o’r band.
Dyma ail EP y band o Ben Llŷn, efo’r cyntaf, Dacw Hi, wedi’i rhyddhau llynedd yn annibynnol gan y band. Yn wahanol i’r EP newydd, roedd yr EP cyntaf yn brosiect DIY go iawn gyda’r recordio, llosgi ac argraffu oll yn digwydd adre! I stiwdio Sain at Aled Wyn Hughes aeth y pedwar tro ‘ma, i recordio EP pedair cân y maen nhw wedi eu cyfansoddi tros y flwyddyn ddiwethaf.
Mewn sgwrs fer â’r Selar dywedon nhw eu bod wedi “practisio droeon cyn mynd i’r stiwdio tro ‘ma, yn wahanol i’r EP d’wetha. Lle nathon ni recordio stwff tra’n dal i sgwennu.”
Maent yn dwyn ysbrydoliaeth gan fandiau seicadelig mawr y byd megis Pink Floyd cynnar a Tame Impala, yn enwedig ar ‘Carots’. Mae ‘Pla’ eisioes ar SoundCloud i’w chlywed, ond ers Ddydd Mercher mae posib prynu’r EP yn ddigidol ar y we, ac yn eich siopau cerddoriaeth arferol.
Dyma flas ohoni i chi:
iframe width=”100%” height=”166″ scrolling=”no” frameborder=”no” src=”https://w.soundcloud.com/player/?url=https%3A//api.soundcloud.com/tracks/335623117&color=ff5500&auto_play=false&hide_related=false&show_comments=true&show_user=true&show_reposts=false”>
Ac un peth arall… Sengl newydd Serol Serol ar y ffordd
Mi fydd y grŵp ‘space pop’ o Ddyffryn Conwy yn rhyddhau cân ar ddydd Gwener y 25 Awst. Dyma fydd ail gân y band o Ddyffryn Conwy, sydd eisoes yn boblogaidd er mai ychydig o gynnyrch sydd ar gael i’w glywed ganddynt ar hyn o bryd.
Mewn sgwrs ag Y Selar cyn yr haf, fe ddatgelwyd mai prosiect dwy gyfnither yw Serol Serol sef Leusa Rhys a Mali Sion, gyda Llyr Pari a George Amor yn gweithio â nhw. Fe recordiwyd eu cân gyntaf, ‘Cadwyni’, yn stiwdio Glan Llyn, lle maent yn gobeithio recordio albwm hefyd.
Mae space pop yn genre eitha’ prin yn y Gymraeg ar y funud, ond mae i’w weld ar gynnydd gyda’r holl gynnyrch diweddar gan Omaloma, gan gynnwys y gân sy’n cael ei gweld gan lawer fel “cân yr haf”, sef ‘Aros o Gwmpas’.
Edrychwn ‘mlaen i gael clywed mwy o space pop gan Serol Serol yn fuan iawn!
Yn y cyfamser dyma Cadwyni…