Gig: Plant Duw, Lastig Band, Ffracas – Rascals, Bangor
Dyma’r amser yna o’r flwyddyn pan mae’r dadlau cychwyn ynglŷn â pha gig i’w fynychu gan bod cymaint ohonyn nhw. A dyma’ch dewis am yr wythnos yma.
Nos Wener 22 Rhagfyr mae Twmffat, Radio Rhydd, Lolfa Binc a Jamie Bevan yn chwarae yn Neuadd Ogwen, Bethesda am 19:30. Bydd Mellt, Rifleros a Velor yn chwarae yn The Moon, Caerdydd heno hefyd am 20:00.
Nos Sadwrn 23 Rhagfyr bydd Plant Duw yn cynnal parti Nadolig, a lansiad y gogledd o’u albwm newydd, Tangnefedd, yn y Rascals, Bangor am 20:00. Mae Lastig Band a Ffracas yn cefnogi.
Nos Fawrth 26 Rhagfyr bydd Patrobas yn chwarae’n Nhafarn y Fic, Llithfaen a hefyd yn Nhŷ Coch, Porthdinllaen yn gynharach yr un diwrnod.
Nos Fercher 27 Rhagfyr mae Band Pres Llareggub, Omaloma, Ffracas ac Alys Williams fel gwestai arbennig yn chwarae’n Neuadd Ogwen am 19:30.
Nos Iau 28 Rhagfyr, byddwch yn barod i fflipio ceiniog gan bod Gig ‘Dolig Gwydir yn Nghlwb Llanrwst gydag Omaloma, Phalcons, Lastig Band, Serol Serol a Bitw yn chwarae.
Bydd Maffia Mr Huws, Phil Gas a’r Band yn chwarae’n Copa, Caernarfon 21:00 yr un noson, a hefyd Y Reu, Alffa, Gwilym a DJ’s Sôn am Sîn yn Nghlwb Cymdeithasol Llanberis. Diwrnod prysur o gigs!
Cân: Lipstick Coch – Adwaith
Llongyfs i Adwaith am gyrraedd rhif 1 yn ‘Siart Amgen Rhys Mwyn 2017’ a gafodd ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru nos Lun 18 Rhagfyr.
Mae ‘leni ‘di bod yn flwyddyn anhygoel i’r dair o Gaerfyrddin. Ddiwedd mis Tachwedd, roedden nhw’n chwarae yng ngŵyl SUNS yn yr Eidal – gŵyl a oedd yn dathlu ieithoedd lleiafrifol, a da ni’n falch bod Adwaith wedi eu dewis i fynd yno i’n cynrychioli ni.
Artist: Dan Amor
Mae Dan Amor, y cerddor o Benmachno, wedi datgelu mewn sgwrs gydag Y Selar yr wythnos yma ei fod newydd orffen recordio ei albwm newydd “hollol Gymraeg” cyntaf ers 2005.
Ond yn gyntaf, bydd sengl yn cael ei rhyddhau’r mis nesa’ ganddo, a gallwn ddisgwyl gweld yr albwm allan yn y gwanwyn/dechrau’r yr haf yn 2018.
Eglurodd Dan mai Huw Owen (mr huw) sydd wedi bod yn gyfrifol am gwaith recordio a hynny yn nhŷ Dan, a’i fod hefyd yn ymddangos ar yr albwm. Dan sydd wrth gwrs yn gyfrifol am label Recordiau Cae Gwyn hefyd, a da ni’n gyffrous i weld a chlywed mwy am yr albwm dros y misoedd nesaf.
Record: Anrheoli – Yws Gwynedd
Nid yw’n gyfrinach bod Yws Gwynedd wedi cael clamp o flwyddyn lwyddiannus yn 2017. Mae wedi rhyddhau albwm gwych, Anrheoli, hed-leinio Maes B a Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017, gan hefyd lwyddo i dynnu’r dorf fwyaf sydd erioed ‘di mynychu Maes B ar nos Sadwrn olaf y Steddfod.
Ar ben hynny, cyhoeddodd Yws wythnos yma ar ei gyfryngau cymdeithasol bod ei gerddoriaeth wedi cael ei ffrydio am bron i filiwn o funudau ar Spotify.
Diolchodd Yws ar ei dudalen Facebook gyda’r geiriau canlynol:
“Dim ond un wefan ffrydio ydi Spotify, ond da ni’n hollol chyffd bo na bron i filiwn o funudau o’n cerddoriaeth wedi cyrraedd eich clustiau oddi arno’n 2017. Diolch i bawb sydd wedi gwrando ar eiliad o’r gerddoriaeth – boed o ar Spotify, iTunes, Google, ApTon, Youtube, Amazon, CD neu mewn gig byw. Caru chi gyd.”
Mae ‘na lot o bobl yn caru chdi hefyd Yws!
Un peth arall..: Caryl Parry Jones yn canu cân Whitney Houston
Uwch lwythwyd fideo hen arbennig gan Ffar Out Blog wythnos yma, ac er i ni eu plygio’r wythnos diwethaf – mae’n rhaid chi weld y fideo yma.
Mae pawb yn dod ar draws ‘I Wanna Dance With Somebody’ mewn tafarn yn achlysurol – ond go brin eich bod wedi clywed cyfieithiad Gymraeg o’r gân, efo Caryl Parry Jones yn ei chanu! Cliciwch isod er mwyn gweld Caryl yn nailio’r nodau uchel: