Pump i’r Penwythnos 27/10/17

Gig: Steve Eaves a Rhai Pobl – Gigs Bach y Fro, Penarth

Mae’n benwythnos gweddol dawel o ran gigs y penwythnos yma am unwaith, ond dyma chi lond llaw o bethau sy’n digwydd…

Bydd H a’r Band, â’r Welsh Whisperer yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach nos Wener am 19:30.

Hefyd nos Wener, bydd Steve Eaves a Rhai Pobl yn ymweld â’r Fro, gan chwarae’n Clwb Coronation Cogan, Penarth am 20:00.

Mae’n benwythnos prysur i’r Welsh Whisperer wrth iddo chwarae eto nos Sadwrn, yng Nghanolfan Hermon yn Sir Benfro gydag Ail Symudiad am 19:30.

Gwerth nodi ei bod yn noson drist yn Aberystwyth nos Sadwrn 28 Hydref, wrth i un o leoliadau gigs Cymraeg amlycaf y wlad dros y degawdau gau (dros dro gobeithio). Bydd ‘Parti cau Y Cwps’ yn barti gwisg ffansi gyda thema Calan Gaeaf am 19:00.

Cân: ‘Perlau’ – Crawia

Mae’r band Crawia wedi rhyddhau eu sengl cyntaf yr wythnos yma sef ‘Perlau’. Band Sion Richards o Ddyffryn Ogwen ydy Crawia, un a fu’n gigio o dan ei enw ei hun ers sawl blwyddyn cyn gwneud y dewis o newid yr enw ar y band i Crawia. Roedd Sion hefyd yn aelod o’r Wyrligigs, Y Promatics a Jen Jeniro hefyd.

“Roeddwn yn meddwl fod y gerddoriaeth wedi ei gyfoethogi gan gerddorion ac unigolion eraill yn ystod y broses recordio, felly’n meddwl fod angen enw i’r prosiect” meddai Sion wrth drafod yr enw newydd.

Rhyddhawyd y gân ar label Sbrigyn Ymborth, ac mae Sion wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn recordio caneuon, rhai sy’n ymestyn nôl i 2005/06.

Mae modd prynu’r sengl newydd ar iTunes nawr.

Dyma gân y gwnaeth Sion ar gyfer y sioe ‘Chwalfa’ nôl yn 2014:

Record: Adfeilion/Ruins – The Gentle Good

Anodd dadlau dros unrhyw record sy’n haeddu’r teitl ‘record yr wythnos’ yn fwy nag enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017 – Adfeilion/Ruins gan The Gentle Good.

Mae ennill y wobr yma’n un o’r campau mwyaf i artist/band Cymraeg, a phrosiect cerddorol Gareth Bonello ddaeth i’r brig ‘leni a’i record wefreiddiol Adfeilion/Ruins.

Darllenwch yr hanes fan hyn!

Dyma sesiwn Ochr 1 gan The Gentle Good a recordiwyd nôl yn 2014…

Artist: Gwenno Saunders

Cyhoeddodd Heavenly Records wythnos diwetha’ bod gan Gwenno Saunders albwm newydd sbon danlli’n barod i’w rhyddhau. Bydd y record hir yn cael ei rhyddhau’n yng ngwanwyn yn 2018, a’r enw fydd ‘Le Kov’.

A ffaith arall i chi – mae’r albwm oll wedi’i hysgrifennu’n un o fam-ieithoedd Gwenno, sef Cernyweg. Nid dyma’r tro cyntaf i Gwenno ryddhau cân Gernyweg, gan gofio’r trac ‘Amser’ ganddi ar ei halbwm diwetha’, Y Dydd Olaf.

Os na allwch aros i glywed y casgliad newydd, cymerwch gip ar y ‘trailer’ ar gyfer yr albwm fan hyn.

Dyma’r gân diwetha’ i Gwenno gyhoeddi yn y Gernyweg:

Un peth arall..: Lliwiau llachar i benwythnos tywyll

Fysa hi’n rhy hawdd i fynd am ddewis amlwg ar gyfer penwythnos Calan Gaeaf (Ysbryd y Nos neu Ddawns yr Ysbrydion rhywun?).

Yn hytrach na hynny, wrth iddi dywyllu a dechrau oeri, rydan ni wedi benderfynu rhoi cynnig ychydig o liw i’ch penwythnos trwy atgyfodi’r gân hapus yma gan y Super Furry Animals – mwynhewch eich pen8nos!