Penwythnos Gŵyl y Banc…arall! Sy’n golygu llwyth o gigs, a danteithion cerddorol eraill. Dyma’n detholiad wythnosol…
Gig: Twrw Trwy’r Dydd – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – Sul 28 Mai
Mae’n benwythnos gŵyl y banc, ac mae hynny’n golygu un peth – llwyth o gigs!
Mae taith Khamira yn parhau, gyda gigs yn Aberystwyth heno, a Chaernarfon nos fory. Hefyd yn y Galeri heno mae noson Tapas a Tiwns yn cael ei arwain gan y cerddor Elidyr Glyn.
Credwch neu beidio, mae Ani Glass yn perfformio yn Llanbedr Pont Steffan, a hynny mewn noson ddifyr iawn yr olwg, Cabarave!, yn Neuadd Fictoria.
Dafydd Iwan ydy prif atyniad Gŵyl Madam Wen ym Mryngwran, Ynys Môn nos fory, ac mae Patrobas ac Y Chwedlau yn chwarae yn Nawns Ffermwyr Ifanc Eryri yn Efailnewydd yr un noson. Hefyd nos Sadwrn mae gig bach da yn y Cŵps yn Aberystwyth gyda Gai Toms a Gildas – rhan o Ŵyl Gerallt yn y dref.
Dydd Sul ydy’r diwrnod prysuraf cofiwch, ac un o’r uchafbwyntiau ydy Gŵyl Noddfa ym Mangor gyda Yucatan, Pasta Hyll, Piwb ac eraill yn perfformio.
Yn Aberystwyth ddydd Sul mae’r anfarwol Meic Stevens, a Band 6 yn perfformio fel rhan o Ddiwrnod Eifion yn y Clwb Rygbi, ac ychydig ymhellach i’r de ym Mhentregat gallwch ddal Ryland Teifi yn y Clwb Golff.
Ond amhosib ydy anwybyddu Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sul gyda lein-yp gwych sy’n cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Los Blancos, Adwaith, Glain Rhys, DJ Elan Evans, DJ Andrew Rhys Lewis. Stoncar o gig.
Cân: ‘Cinema’ – Uumar
Hon ydy sengl ddiweddaraf Uumar, sydd allan ers ddechrau’r mis. Fel rydan ni wedi dod i ddisgwyl gan rhain erbyn hyn mae’n diwn grynjî ond hynod o fachog. Da ni’n hoffi.
Cofiwch bod cyfle i chi weld Uumar yn perfformio’n fyw ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ddydd Sadwrn nesaf, 3 Mehefin. Perfformiad cyntaf y grŵp ers i Sion Owens ddychwelyd o’i deithiau diweddar yn Asia…da ni’n meddwl! Byddan nhw’n perfformio ar y prif lwyfan perfformio am 15:00, a hefyd ar lwyfan y Coleg Cymraeg am 13:00.
Artist: H. Hawkline
H. Hawkline ydy prosiect Huw Evans, fydd yn gyfarwydd i nifer fel cyflwynydd Bandit ar S4C ‘slawer dydd a chyflwynydd achlysurol ar Radio Cymru.
Mae hefyd wedi bod yn aelod o grwpiau fel Mwsog yn y gorffennol, ond H. Hawkline ydy ei lwyddiant mwyaf hyd yma heb os. Roedd ei albwm diwethaf, In the Pink of Condition, ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwy flynedd yn ôl ac fe gafodd adolygiadau ffafriol iawn mewn cyhoeddiadau uchel eu parch fel NME, The Guardian, Record Collector ac Uncut.
Bydd yn rhyddhau ei albwm newydd, I Romanticize, ddydd Gwener nesaf, ac i gydfynd â’r albwm newydd mae nifer cyfyngedig o gopiau feinyl 12” o’r sengl ‘Last Thing on My Mind’ ar gael i’w rhag-archebu.
Esgus da iawn y nein barn ni i’ch hatgoffa o’r ardderchog ‘Llenwi’ a ryddhawyd ar Y Record Las rai blynyddoedd yn ôl:
Record: Dawns y Trychfilod – Cowbois Rhos Botwnnog
Un o brif atyniadau Twrw Trwy’r dydd Ddydd Sul ydy Cowbois Rhos Botwnnog…a gredwch chi fod y triawd talentog wrthi ers dros ddegawd bellach.
Bron union ddegawd yn ôl (ddiwedd mis Ebrill 2007 i fod yn fanwl gywir), rhyddhawyd albwm cyntaf y Cowbois, Dawns y Trychfilod. Mae eu sŵn erbyn hyn yn reit wahanol i’r ‘hillbilly roc’ Pen Llŷn style oedd i’w glywed ar y record gyntaf yna, ond mae ambell ffefryn o’r albwm yn dal i wneud ymddangosiad yn eu setiau byw.
Mae’n siŵr mai un o’r amlycaf o’r caneuon hynny ydy Musus Glaw, sy’n dal i fod yn boblogaidd, ac fe ffilmiwyd fideo bach da ar gyfer rhaglen Bandit ar S4C ar y pryd hefyd. Sbiwch ifanc ma’r hogia’n edrych yn hwn…
Ac un peth arall…: Arwerthiant CD Gwil Bow Rhys
Rhywbeth bach yn wahanol fan hyn. Mae Gwilym Bowen Rhys wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar rhwng teithio gyda Calan a chwarae mewn nifer o gigs eraill. Un o’i gigs niferus wythnos diwethaf oedd yn y prynhawn yn Tregaroc, yn Nhregaron. Dyma ddigwyddodd rhywdro’n ystod y set…