Pump i’r Penwythnos 28 Ebrill 2017

Mae’n benwythnos gŵyl y banc (arall) ac mae llwyth o bethau cerddorol ar y gweill – dyma’n crynodeb ac argymhellion i ni yr wythnos hon…

Gig: Rwbal Wicendar – CellB, Blaenau Ffestiniog – Sadwrn 29 Ebrill

Mae ‘na lwyth o gigs da ar hyd a lled y wlad y penwythnos yma, felly dim esgus i beidio mynd allan i fwynhau ‘chydig o gerddoriaeth fyw.

Mae’n benwythnos mawr ym Methesda, gan fod Pesda Roc yn digwydd nos Sadwrn a nos Sul yn Neuadd Ogwen. Bydd lansiad EP newydd Lastigband yno nos Sadwrn, pan fyddan nhw’n perfformio gyda Phalcons ac Argrph. Yna nos Sul, bydd gig prin gan Maffia Mr Huws, gyda chefnogaeth gan Brython Shag, Ffug a Radio Rhydd.

Draw yn Wrecsam nos Wener mae Patrobas yn chwarae gydag Alistair James yn Saith Seren, a hefyd yn y gogs mae Calan a Gwilym Bowen Rhys yn Pontio, Bangor.

Yn y de nos Wener, mae Elin Fflur a Cadno yn gigio yng Nghlwb Rhyddfrydol Pontcanna, tra bod Gai Toms yn perfformio mewn noson Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe, Abertawe.

Os nad ydach chi’n gallu dal Lastigband, Argrph a Phalcons yn gig Pesda Roc, yna mae cyfle arall i’w gweld nhw ym Mhenmachno nos Wener.

Ac i gloi penwythnos prysur, cwpl o bethau yng Nghaerdydd ddydd Sul, sef digwyddiad cyntaf Rough & Tumble yn The Flora a gig Twrw Trwy’r nos yng Nghlwb Ifor Bach gydag Alun Gaffey, Castles, Tusk a mwy.

Ond y gig na allwn ni anwybyddu y penwythnos hwn ydy Rwbal Wicendar ym Mlaenau Ffestiniog. Mae cerddoriaeth fyw trwy’r dydd yng NghellB ddydd Sadwrn, gan ddechrau am 15:00, gan gynnwys setiau gan Brython Shag, Ffug, Yr Oria, Castles, Calfari, Pyroclastigs a Ffracas.

Cân: ‘Arth’ – HMS Morris

Mae sengl ddwbl newydd HMS Morris allan penwythnos yma, gyda dyddiad lansio swyddogol heddiw, 28 Ebrill.

Mae un o’r traciau’n Saesneg, ‘Morbid Mind’, a’r llall yn Gymraeg, sêr ‘Arth’. Mae thema digon, wel, afiach i ‘Morbid Mind’ ond mae ‘Arth’ yn deyrnged i greadur rydan ni gyd yn ei barchu.

Bydd sŵn pop amgen ‘Arth’ yn gyfarwydd i ffans HMS Morris, a hefyd y defnydd ardderchog o lais falsetto gwefreiddiol Sam – ma hon yn diiiiwn bois bach.

A gan ein bod ni’n ffans mawr o HMS Morris yma yn Selar HQ, mae unrhyw esgus i gyflwyno cân gan y grŵp yn un i fanteisio arno. Dyma ‘Arth’:

Artist: Gai Toms

Mae ‘na sawl artist yn gwneud mwy nag un gig y dros ŵyl y banc, ond debyg mai Gai Toms ydy person prysura’ y penwythnos. Mae’n gigio yn Abertawe nos Wener, cyn gwneud set gyda Brython Shag yn Rwbal Wicendar ddydd Sadwrn, ac yna gig arall gyda’r Shag yn gig Pesda Roc nos Sul.

Rydan ni’n gwybod bod albwm newydd ar y gweill gan Gai, ac yr awgrym cry’ ydy bydd Gwalia allan yn fuan.

Dros y blynyddoedd, mae Gai wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sin gerddoriaeth Gymraeg – yn gyntaf gyda’i fand Anweledig a phrosiect unigol gwreiddiol, Mim Twm Llai, ac yna’n ddiweddarach jyst fel Gai Toms. Mae hefyd erbyn hyn yn cydweithio gyda’i gyfaill oes, Ceri Cunnington yn y grŵp Brython Shag.

Mae Gwalia yn brosiect sydd wedi cymryd sbelan i Gai, ond mae ei ôl gatalog albyms yn drawiadol. Tair record hir wych fel Mim Twm Llai – O’r Sbensh (2002), Straeon y Cymdogion (2005) ac Yr Eira Mawr (2006). Yna daeth ei record gyntaf dan yr enw Gai Toms, albwm gysyniadol Rhwng y Llygru a’r Glasu, sydd heb gael canmoliaeth teilwng yn ein barn ni – casgliad ardderchog. Roedd albwm ddwbl Bethel yn 2012 yn glamp o brosiect, ac yna cafwyd y casgliad Saesneg The Wild, the Tame and the Feral yn 2015.

Gall hyn fod yn ddadleuol, ond yn ein barn ni Straeon y Cymdogion ydy albwm gorau Gai hyd yma…ac mae ‘na sail cymharol wyddonol i hynny. Fel rhan o ddathliadau nodi pen-blwydd Y Selar yn 10 oed fe wnaethon ni gynnal pleidlais i ddewis 10 albwm gorau cyfnod Y Selar rhwng Tachwedd 2004 a 2014, ac roedd Straeon y Cymdogion yn y 10 ddaeth i’r brig (rhestr lawn ar dudalennau 16-17 o rifyn Tachwedd 2014).

Dyma’r anhygoel ‘Cwmorthin’ o’r albwm hwnnw:

Record: Torpido – Lastigband

Bydd EP cyntaf y grŵp sy’n gymysgedd o gyn-aelodau Sen Segur ac aelodau Memory Clinic yn cael ei ryddhau y penwythnos hwn.

Mae dau gyfle i’w gweld nhw’n perfformio (gweler uchod) dros y penwythnos, ac o’r hyn rydan ni wedi clywed o’r EP newydd mae’n werth trio gwneud hynny.

Os oeddech chi’n hoffi Sen Segur, yna byddwch chi’n hoffi Lastigband, er bod adlais o sŵn Palenco yma hefyd – mymryn o ddylanwad y cynhyrchydd, Llŷr Pari, efallai? Wedi dweud hynny, mae rhywun yn teimlo bod bach mwy aeddfedrwydd yn perthyn i Lastigband nad oedd cweit yna gyda Sen Segur.

‘Jelo’ ydy’r gân sydd allan yna i’w chlywed ar Soundcloud:

Ac un peth arall…: Fideo ‘Ta ta Tata’ – Geraint Rhys

Rhag ofn i chi golli hyn neithiwr, roedd Y Selar yn ddigon ffodus o gael cyfle arbennig i ddangos fideo sengl newydd Geraint Rhys, ‘Ta ta Tata’ yn ecsgliwsif ar y wefan.

Mae’r sengl newydd allan yn swyddogol heddiw (ddydd Gwener), ac mae’r neges yn glir yn y gân ac yn y fideo.

Mae’r fideo’n cael ei ryddhau’n ehangach heddiw, ond dyma gyfle bach arall i chi cael golwg arno cyn hynny: