Pump i’r Penwythnos 7 Gorffennaf 2017

Mae’n benwythnos hynod o brysur unwaith eto, a dyma grynodeb o rai o’r pethau cerddorol gwych sydd ar y gweill…

Gig: Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Mosco, Rifleros, Glyn Preston – Clwb Monty, Y Drenewydd – Sadwrn 8 Gorffennaf

Llwwwwwyth o gigs penwythnos yma, gormod o ddewis bron â bod!

Mae ‘na ddwy ŵyl wych yn digwydd i ddechrau arni – Gŵyl Arall yng Nghaernarfon a Gŵyl Nôl a Mlan yn Llangrannog. Mae uchafbwyntiau Gŵyl Arall yn cynnwys y prynhawn electro ddydd Sul, sy’n cynnwys aduniad un o’r grwpiau electroneg Cymraeg cynharaf, sef Ffenestri, oedd yn ‘fawr yn yr 80au’. Mae arlwy gerddorol wych yn Llangrannog hefyd, gydag Yws Gwynedd, Yr Eira a Tecwyn Ifan yn uchafbwyntiau’r dydd Sadwrn.

Heno, mae Meinir Gwilym yng Nghlwb Cymdeithasol Llanberis, ac mae’n noson y merched yn Y Parrot yng Nghaerfyrddin gydag Adwaith, Ani Glass a Chroma yn noson ‘Femme’. Mae’n noson lansio albwm newydd Yr Eira yn Neuadd y Farchnad Caernarfon fel rhan o Ŵyl Arall hefyd.

Prynhawn Gwerin sydd gan Ŵyl Arall i’w gynnig brynhawn Sadwrn, a Candelas sy’n hedleinio gig y nos. Mae’r Welsh Whisperer wrthi eto hefyd yn perfformio yn Noson y Llywydd, Sioe Llandelio.

Byddai’n rhy hawdd i ni ddewis un o’r gwyliau ardderchog uchod fel ein gig yr wythnos yma, felly dyma fynd am rywbeth bach llai amlwg yn lle! Gig fel rhan o ŵyl Dewch i Ddathlu yn Y Drenewydd – mae Geraint Lovgreen yn dychwelyd i Faldwyn i hedleinio gig sy’n cynnwys grwpiau eraill sydd â chysylltiadau â’r ardal – Mosco, Rifleros a Glyn Preston.

Cân: ‘_Vitamin’ – Tusk

Mae Pump i’r Penwythnos a Tusk yn hen ffrindiau. Rydan ni wrth ein bodd â’r prosiect bach yma a o Fethel ers dod ar draws y trac ‘Permission’ nôl ym mis Medi.

Yna, rhyddhawyd EP cyntaf Tusk ym mis Tachwedd llynedd, gan ddatgelu rhagor o draciau oedd yn arbrofi â chyfuniadau o synau pop ac electroneg.

Yr awgrym ar gyfrif Twitter Tusk yr wythnos hon ydy bod EP arall ar y ffordd. Ond mae ‘na un trac bach sydd heb gyrraedd yr EP, felly mae ‘_Vitamin’ ar gael i chi wrando arni am ddim ar Soundcloud nawr.

Artist: Colorama

Bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gyfarwydd â’r grŵp Colorama – prosiect y cerddor gwych Carwyn Ellis, sy’n gyfrifol am y tiwns cyfarwydd ‘Dere Mewn’ a ‘Fi Moyn Ti’.

Wel, mae Colorama wedi bod yn ddigon tawel ers cwpl o flynyddoedd wrth i Carwyn ganolbwyntio ar brosiectau eraill – Bendith a Zarelli, yn ogystal â’i yrfa fel cerddor sesiwn yn chwarae i enwogion fel Edwyn Collins.

Newyddion da dros y dyddiau diwethaf felly bod Colorama wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf ers tair blynedd ar ffurf y sengl ‘Some Things Just Take Time’ – enw addas iawn o ystyried yr amgylchiadau. Law yn llaw a’r trac Saesneg, mae’r fersiwn ddigidol o’r sengl yn cynnwys fersiwn Gymraeg o’r gân, sef ‘Gal Pethau Gymryd Sbel.

Mae’r sengl ar gael nawr, ac mae’n damaid i aros pryd nes fydd albwm Colorama, Wonderful Sound, yn cael ei ryddhau ar 1 Medi.

Allwn ni ddim dadlau gyda’r ffaith bod sŵn Colorama yn wondyrffŵl.

Record: Toddi – Yr Eira

O’r diwedd, mae lansiad albwm cyntaf Yr Eira wedi cyrraedd – byddan nhw’n rhyddhau Toddi yn swyddogol yn eu gig yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon nos Wener fel rhan o Ŵyl Arall.

Dyma chi fand sydd wedi bod yn bygwth lle bandiau mawr y sin – Candelas, Sŵnami, Yws Gwynedd – ers cwpl o flynyddoedd gyda senglau gwych, ac EP ardderchog Colli Cwsg a ryddhawyd yn 2014.

Roedd angen albwm arnyn nhw, a rŵan byddwn ni wir yn gweld potensial Yr Eira i wir sefydlu eu hunain fel un o enwau mawr y sin.

Rydan ni eisoes wedi cael tamaid i aros pryd ar ffurf sengl gyntaf yr albwm, ‘Dros y Bont’, a ryddhawyd ddechrau Mai. Os ydy’r gweddill yn debyg i hon, mae ‘na glamp o albwm dda allan penwythnos yma.

Ac un peth arall…: Setlist Ffa Coffi Pawb

Darn bach difyr o femorabilia yn ymddangos gan Gruff Rhys (@gruffingtonpost) ar Twitter yr wythnos yma.

Mae Gruff yn enwog fel canwr y Super Furry Animals, ac wedi cerfio gyrfa unigol digon llwyddiannus i’w hun ers hynny hefyd wrth gwrs. Ond cyn ffurfio SFA roedd Gruff yn aelod o fand o Fethesda, Ffa Coffi Pawb…yn ogystal â chwpl o grwpiau llai amlwg cyn hynny – pwy sydd wedi clywed am y grŵp Machlud? Gruff oedd y drymiwr credwch neu beidio!

Mae’n amlwg bod Gruff wedi bod yn clirio’r atig, achos rhyw wythnos yn ôl fe rannodd lun o ddarn o bapur gyda rhestr o eiriau arno – setlist gig olaf Ffa Coffi Pawb. Roedd hwn wedi’i sgriblo ar gyfer eu gig yn Steddfod Genedlaethol Llanfair-ym-muallt yn Awst 2013, ac yn ôl Gruff, Gorkys Zygotic Mynci oedd yn perfformio gyntaf y noson honno. Fe welwch o’r rhestr bod sawl clasur o gatalog Ffa Coffi ar y set y noson honno gan gynnwys ‘Breichiau Hir’, ‘ Sega Segur’ ac ‘Allan o’i Phen’. Da rŵan.

'Setlist' gig ola Ffa Coffi Pawb, Llanfair ym Muallt, Awst 1993 – Gorky's mlaen gynta pic.twitter.com/a8LBP0GmHd

— Gruff Rhys (@gruffingtonpost) June 29, 2017