Mae’n benwythnos prysur arall o safbwynt cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, felly dyma argymhellion Y Selar ar gyfer bwrw’r Sul…
Gig: Geraint Jarman, Maffia Mr Huws – Bar a Bwyty Copa, Caernarfon – Gwener 09 Mai
Mae ‘na sawl gig bach da dros y penwythnos.
Bydd yn benwythnos prysur i Al Lewis, gyda gig yng nghanolfan Pontio ym Mangor heno, ac yna bydd yn perfformio yn Theatr Felinfach yng Ngheredigion nos fory.
Mae ‘na ambell gig i gyd-fynd â sioeau amaethyddol nos Sadwrn. Bydd Alffa yn cefnogi Calfari yn Neuadd Ogwen ym Methesda heno – gig Sioe Ogwen. Ac yna yn y de, mae Welsh Whisperer a Newshan yn perfformio yn Sioe Pontargothi.
Er ei fod yn gigio’n ychydig yn fwy rheolaidd yn ddiweddar, mae unrhyw ymddangosiad byw gan Geraint Jarman yn rywbeth i’w drysori ac mae cyfle arbennig i unrhyw un yn ardal Caernarfon ei weld yn Copa heno.
Cân: ‘Cadwyni – Serol Serol
Dyma sengl newydd sbon danlli, y gyntaf gan y grŵp pop newydd sbon danlli o Ddyffryn Conwy, sef Serol Serol. ‘Cadwyni’ ydy enw’r trac, ac fe’i rhyddhawyd yn swyddogol ar 7 Mehefin.
Mae dirgelwch mawr o amgylch y grŵp ar hyn yn bryd, ond ry’n ni’n gobeithio y cawn ddarlun cyfa’ yn fuan iawn. Braf yw clywed mai dwy ferch ifanc sydd tu ôl i’r lleisiau swynol ar y trac, sef y cyfnitherod Leusa Rhys a Mali Sion. Er mai ond ers ychydig o ddiwrnodau y mae hi allan, mae llawer wedi eu denu tuag at y gerddoriaeth spacey tame-imapalaidd yma.
Mae hi i’w phrynu ar iTunes am 76 o geiniogau rhad, a hefyd i’w chlywed ar Apple Music a Soundcloud. Felly ewch da chi i gael gwrandawiad arni!
Artist: Griff Lynch
Mae Griff Lynch wedi mynd ar liwt creadigol ei hun yn gerddorol dros y flwyddyn dd’wetha. Mae Griff yn un sy’n gyfarwydd i lawer fel un allan o bump o’r band poblogaidd Yr Ods, neu fel cyflwynydd cyfres deledu Ochr 1. Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni radio o bryd i’w gilydd, ac mae’n amlwg ei fod yn gwybod ei bethe’ am gerddoriaeth a hanes cerddoriaeth yng Nghymru, o wrando ar ei sgyrsiau difyr.
Rhyddhawyd pedair sengl (dwy Saesneg a dwy Gymraeg) cwbl wahanol ganddo ar ei soundcloud, dros y misoedd dwetha’. Maent yn ddwys ond yn fachog iawn, ac fe ryddhawyd y dd’wetha’ sef ‘No One Cares’ ar ei Soundcloud ar 2 Mehefin. Mae modd prynu dwy ganddo ar iTunes, sef ei sengl gyntaf, ‘Hiroes dy Wen’ (isod), a ‘Don’t Count On Me’, a mi fydd ‘No One Cares’ ar gael ar iTunes ar y 16fed o Fehefin.
Cyffrous yw dod ar draws ei gerddoriaeth newydd ers i Yr Ods dawelu ers rhyddhau eu sengl dwbl ‘Ble’r Aeth Yr Haul / Hiroes i’r Drefn’ yn 2015 – gwyliwch y gofod am fwy o bethau ganddo!
Record: Hysbysebion – Maffia Mr Huws
Mae Maffia Mr Huws, un o fandiau mwyaf ardal Bethesda, wedi bod yn mynd a dod ers iddynt ail-ffurfio’r band nôl yn 2006 ar gyfer adfywiad Gŵyl Pesda Roc.
Yn y 1980au roeddent yn un o’r bandiau mwyaf yng Nghymru yn ystod un o gyfnodau mwyaf cyffrous y Sin Roc Gymraeg. Er mor boblogaidd oedd y band, roedd yn go llwm arnyn nhw’n ariannol fel y rhan fwyaf o bobl ar y pryd, diolch i’r amgylchiadau economaidd difrifol a achoswyd gan doriadau anferthol Thatcher. Felly nid oedd dewis arall gan y band ond mynd ar y dôl.
Am y rheswm hwnnw, doedd dim arian ganddyn nhw ar gyfer rhyddhau eu EP, Newyddion, ym 1983. Yr ateb athrylithgar gan y band oedd gwerthu gofod hysbysebu ar glawr y record 12” er mwyn talu am y costau rhyddhau. A dyma’n union y gwnaethant, gyda chymorth nifer o gwmnïau Cymraeg.
Daeth yr EP yn un o glasuron cerddoriaeth Gymraeg y cyfnod, a diolch i sianel YouTube Ffarout, mae modd i ni wrando ar y traciau, gan gynnwys ‘Newyddion’:
Ac un peth arall…: ‘Ymgyrch!’ – Welsh Whisperer a Hywel Pitts
Wrth i’r wlad drio ymdopi â chanlyniadau rhyfeddol yr etholiad cyffredinol dros nos, mae’n rhaid i ni gynnwys rhyw fath o gyfeiriad at wleidyddiaeth yn ein detholiad o bethau cerddorol yr wythnos hon.
A diolch i‘r ddau gerddor dychanol gwych sydd ganddom ni ar hyn o bryd, Welsh Whisperer a Hywel Pitts, mae ganddom ni jyst y peth. Dyma oedd eu maniffesto nhw ar gyfer yr etholiad eleni…