Gig: Parti Ponty – Parc Ynysangharad, Pontypridd – Sadwrn 15 Gorffennaf
Os oedda chi lawr yn nyfnderoedd y De wythnos diwetha’, yn methu a gwneud ‘ti fyny i Ŵyl Arall dros y penwythnos, neu’n rhy brysur i fynd i Ŵyl Nol a Mlan – peidiwch a digalonni.
Mae un parti mawr yn dod i Bontypridd ddydd Sadwrn yma, gan gynnwys rhai o enwau mwya’ Cymru megis Geraint Jarman, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Gai Toms. Braf yw gweld enw Daniel Lloyd a Mr Pinc yn ail-ymddangos ar bosteri gigs ar ôl blynyddoedd o seibiant.
Hefyd yn swyno Ponty mi fydd Chroma, Eadyth, Amy Wadge, Ragsy, Cara Cullen, Jack Ellis a llawer mwy.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yno’n ddigon buan i weld y perfformiadau’n cychwyn am 11:00 Dydd Sadwrn ym mharc Ynysangharad.
Cân: ‘Aros o Gwmpas’ – Omaloma
Gobeithio eich bod chi mor ha-ha-hapus a ni penwythnos yma, oherwydd yn ôl y sôn, 14 Gorffennaf yw ‘Diwrnod Hapusa’r Flwyddyn’. Ac ydy wir mae hi gan fod Omaloma, un o fandiau mwyaf cwrtais y sîn, wedi rhyddhau eu sengl newydd penwythnos yma!
Mi wnaeth y sengl newydd, ‘Aros o Gwmpas’, ymddangos ar Soundcloud ddiwedd mis Mehefin gan Recordiau Cae Gwyn, a dyma’r sengl diwetha’ ganddynt ryddhau ers sengl gyntaf y grŵp o Ddyffryn Conwy llynedd sef ‘Ha Ha Haf’.
Prosiect diweddaraf George Amor yw Omaloma, a fe recordiwyd y sengl newydd yn stiwdio Glan Llyn ym Melyn y Coed, stiwdio y cynhyrchydd Llyr Pari, sydd hefyd yn aelod o’r band.
Mae hi’n benwythnos mawr i’r grŵp, rhwng rhyddhau tiwn newydd a chwarae’n un o Ŵyliau mwyaf Prydain nos Wener, sef Latitude Festival yn Suffolk. Cafodd eu sengl diwethaf lawer o sylw gan BBC 6 Music, a does dim dwywaith y bydd y sengl hon yr un mor boblogaidd.
Mae hi ar gael i’w lawr-lwytho’n ddigidol yr eiliad hon ar iTunes, â gwaith celf hyfryd wedi ei ddylunio gan Paula Castro o Buenos Aires yn wreiddiol. Ewch amdani!
Gigs Omaloma:
14 Gorffennaf – Gŵyl Latitude, Suffolk
21 Gorffennaf – Gŵyl Hen Linell Bell, Aberystwyth
9 Awst – Caffi Maes B, Eisteddfod Môn
10 Awst – Llwyfan Y Maes, Eisteddfod Môn
Artist: Y Cledrau
Anodd oedd peidio a chynnwys Y Cledrau fel un o’r Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon, ar ôl y perfformiad syfrdanol o dda ganddyn nhw nos Wener diwethaf yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon fel rhan o Ŵyl Arall.
Mae’r pedwarawd o ardal y Bala/Sir Fôn, sydd ar label I Ka Ching, wedi bod yn brysur yn ‘sgwennu, a recordio dipyn o stwff ers ‘Un ar ôl y llall’, eu EP cyntaf. Ers recordio eu EP yn stiwdio DRWM, maent wedi bod gweithio ar wasgar dros Gymru. Oni bai am ‘Cam Wrth Ddiflas Gam’ ganddynt ar gasgliad I Ka Ching n’ôl yn 2016, yr albwm fydd eu cynnyrch cyntaf ers yr EP nôl yn 2014.
Cawsom brawf o’u gwaith caled nos Wener, lle lloriwyd y gynulleidfa gan eu tiwns bachog, newydd.
Os oeddech chi’n ddigon anffodus i fethu’r noson honno, mae’r Cledrau wedi bod yn ddigon clên a gadael i ni gael rhagflas o’r albwm newydd, ar rhaglen Lisa Gwilym echnos. Cafodd ‘Cliria Dy Bethau’ ei chwarae am y tro cynta’ erioed yn ogystal â sengl newydd Griff Lynch, hefyd ar label I Ka Ching, sef ‘Tynnu Dant’.
Maent wedi penderfynu aros ‘fo Ifan Jones ac Osian Williams ar gyfer recordio’r Albwm unwaith yn rhagor, yn Llanllyfni. Er na fydd yr albwm ar gael tan ‘Dolig ffordd ‘na, mi fydd y Cledrau’n gadael i Radio Cymru chwarae cân newydd oddi ar yr Albwm bob mis! Sôn am gadw ni ar flaena’ ein traed hogia’.
Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw llygaid barcud allan am gyhoeddiadau slei ganddynt dros y misoedd nesa’.
Record: Calfari
Record yr wythnos hon yw’r albwm newydd y band o Fôn, Calfari ar y 5 Gorffennaf. Dyma eu halbwm cyntaf, ond nid eu cynnyrch cyntaf. Maent eisoes wedi rhyddhau dau EP sef Nôl ac Ymlaen nôl yn 2015 ac yna Tân yn 2016.
Rich Roberts yw’r un sydd ‘di bod yn cynhyrchu’r albwm, a mae’r hogia ‘di bod yn gweithio’n galed hefo fo ers fis Mehefin 2016, yn stiwdios Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae’r band wedi adeiladu tipyn o enw i’w hunain, ac fe enillon nhw’r ‘Record Fer Orau’ yng Ngobrau’r Selar 2015. Dyma un o enwau prysura’r sin ar y funud, ac maen nhw’n chwarae Llanbedr Pont Steffan penwythnos yma, gyda Sŵnami a’r Mellt.
Dim ond ar gopi digidol gellir brynu’r albwm ar y funud, ond mi fydd copïau caled o’r albwm yn cael ei ryddhau o fewn y misoedd nesa’.
Ry ‘ni’n edrych ymlaen i gael gweld yr hogia’n chwarae ar eu home turf fis Awst, yn ‘Steddfod Môn!
Gigs Calfari:
14 Gorffennaf: Gig Urdd Ceredigon, Llanbed
16 Gorffennaf: Electric Wave Festival, Conwy
23 Gorffenaf: Penmaenau Farm, Y Sioe Frenhinol
5 Awst (Dydd): Llwyfan Y Maes, Steddfod Genedlaethol
5 Awst (Nos): Gig Cymdeithas yr Iaith, Bodedern
7 Awst: Gig wythnos ‘Sdeddfod, Iorweth Arms, Bryngwran
8 Awst: Caffi Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol
10 Awst: Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol
Ac un peth arall…:Rhestr fer Albwm Cymraeg yr Flwyddyn
Mae cystadlaethau lu yn cael euu cynnal yn yr Eisteddfod bob blwyddyn, ond y wobr hon yw’r un mae pob band Cymraeg sydd wedi rhyddhau albwm rhwng fis Mawrth 2016 a Ebrill 2017 yn ei llygadu. Bu torf o garwyr cerddoriaeth yn ymgasglu yng Nghaffi Maes B yn flynyddol ers pedair mlynedd, er mwyn cael clywed y cyhoeddiad mawr. Ar y dydd Gwener, 11 Awst caiff y wobr chyhoeddi eleni.
Mae’r wobr yn dathlu’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth sydd ar gael yma yng Nghymru, a caiff y penderfyniad ei wneud gan rheithgor o bobl sydd yn gerddorol mewn ffyrdd gwahanol. Sŵnami aeth a hi llynedd, yn dilyn llwyddiannau mawr yng Ngwobrau’r Selar gan gipio teitl ‘Record Hir Orau’ yno, yn ogystal â chategorïau eraill.
Dyma’r rhestr eleni:
– Band Pres Llarregub – Kurn
– Bendith
– Calan – Solomon
– Castles – Fforesteering
– Gwilym Bowen Rhys – O Groth Y Ddaear
– Meinir Gwilym – Llwybrau
– Mr Huw – Gwna Dy Feddwl i Lawr
– Ryland Teifi – Man Rhydd
– The Gentle Good – Ruins/Adfeilion
– Yws Gwynedd – Anrheoli