Pump i’r Penwythnos 21 Gorffennaf 2017

Gig: Sesiwn Fawr Dolgellau – 21-23 Gorffennaf

Nid Gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau gyffredin mohoni ‘leni, gan ei bod yn un arbennig i’r trefnwyr, â’i chynulleidfa flynyddol selog. Mae Sesiwn Fawr Dolgellau’n dathlu pen-blwydd sbesial iawn y penwythnos hwn, yn 25 mlwydd oed.

Sefydlwyd yr Ŵyl gan griw bach o wirfoddolwyr nôl yn 1992, criw a oedd â’r freuddwyd o sefydlu gŵyl fach werinol yn Nolgellau. Ar ôl ‘chydig o flynyddoedd fe chwyddwyd yr Ŵyl i fod yn un o’r rhai mwya’ yng Nghymru. Rhwng 2002 a 2008 bu’r gynulleidfa ar ei fwya’, gyda tua 5000 yn mynychu, ond mae’r Ŵyl erbyn hyn wedi dychwelyd i faint tebyg i’r blynyddoedd cynnar yn y 90au.

Bu’r Super Furry Animals yn un o’r bandiau mwya’ i erioed chwarae yno nôl yn 2005, lle llenwyd y Marian efo miloedd meddw yn dawnsio.

Ymysg y prif atyniadau eleni mae Bob Delyn a’r Ebillion, Calan, Yr Eira, Peatbog Faeris, Coco and the Buttefields, Tecwyn Ifan, Alys Williams a’r hogia lleol Sŵnami.

Er bod nos Wener a nos Sadwrn wedi gwerthu allan, mae ‘chydig o docynnau yn dal i fod ar ôl ar gyfer y dydd Sul, felly brysiwch ‘da chi i’w cipio cyn i rywun arall wneud!

Cân: Beth Celyn – Ti’n Fy Nhroi i Mlaen

Fe ryddhawyd cân wreiddiol ‘Ti’n Fy Nhroi i Mlaen’ gan Beth Celyn ar Soundcloud ar 13 Gorffennaf ar label Sbrigyn Ymborth. Wedi’i hysgrifennu a’i chyfansoddi gan Bethany ei hun, fe’i recordiwyd yn bennaf yn y stiwdio boblogaidd DRWM yn Llanllyfni, gydag Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog yn ei chynhyrchu. Ond yn stiwdio Sain recordiwyd y prif lais. Carwyn Williams o Fleur De Lys a Patrobas sydd ar y dryms, a Bethany sy’n chwarae’r Piano.

Dyma damed i aros pryd, oherwydd mae EP ar y gweill ganddi, sydd yn y camau olaf o gynhyrchu – y gobaith ydy rhyddhau’r casgliad byr erbyn diwedd yr haf. Gyda chwe chân wreiddiol arni, Aled sydd eto’n gyfrifol am gynhyrchu’r cyfan – ac eto mae’r gwaith wedi’i rannu rhwng dwy stiwdio yn Arfon, DRWM a Sain.

Nid yw Beth yn wyneb anghyfarwydd i’r Selar, gan ei bod hi ‘di bod yn brysur iawn yn barod rhwng gigio’n FOCUS Wales, Ffiliffest, Tafwyl a Gŵyl Arall a chystadlu a pherfformio’n yr Ŵyl Ban Geltaidd fis Ebrill. Bydd hi’n bendant ddim yn ddieithr gyda’r holl gigs sydd yn y calendr ganddi ‘rha ‘ma – yn enwedig yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Gwyliwch y gofod!

Artist: Gwyneth Glyn

Gwyneth Glyn yw’r un sy’n dwyn sylw’r wasg yr wythnos yma, wrth iddi hyrwyddo’i halbwm newydd, Tro, fydd allan ar y 29 Medi ar label Bendigedig. Dyma albwm diweddara’n artist gan ddilyn ei thrydydd casgliad ‘Cainc’.

Roedden ni’n ddigon ffodus i gael clywed un gân ganddi o’r albwm newydd ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher, sef ‘Cwlwm’. Mae’n bosib i wrando nôl ar y rhaglen os nad oeddech yn gwrando’n fyw, ac os nad ydach chi’n gallu aros nes mis Medi!

Ymddangosa’r chwaraewr kora adnabyddus o Senegal sef Seckou Keita ar yr albwm, a hefyd Rowan Rheinigans, sef enillydd Gwobr Werin Radio 2.

Mae’r amryddawn, Gwyneth Glyn yn un o’r artistiaid prysursa’ Cymru, a bu’n rhan o gynhyrchiad ‘Tŵr’ gyda Theatr Genedlaethol Cymru’n ddiweddar, lle cafwyd hi’r fraint i osod y liberto ar gyfer y gerddorfa.

Mae’n bosib rhag-archebu’r albwm ar-lein yr eiliad hon.

Pa esgus gwell i wrando ar ei chân enwocaf, ‘Adra’:

Record: Gwalia – Gai Toms

Mae bwrlwm mawr yn gerddorol ym Meirionnydd yr wythnos hon, rhwng Gwyneth Glyn, Gai Toms a Sesiwn Fawr Dolgellau mae digon o bethau i gyffroi’r galon wrth i’r penwythnos ein cyrraedd. Ac un o’r pethau mae’r Selar yn edrych ymlaen tuag ato fwyaf fel rhan o Ŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau, ydy lansiad albwm ddiweddaraf Gai Toms, Gwalia, yn yr ŵyl Ddydd Sul.

Mae’r albwm allan ar label Gai ei hun, sef Recordiau Sbensh. Dyma’i gynnyrch diweddara’ ers ei albwm arbrofol Saesneg ‘The Wild The Tame And The Feral’ yn 2015. Mewn cyfweliad yn rhifyn diweddaraf Y Selar, mae’n crynhoi’r profiad yma trwy ddyfyniad gan Tom Waites “’I never saw the East coast, ‘till I moved to the West’.. mae angen gwthio syniadau weithia’ er mwyn dod yn ôl i wneud be ti’n neud fel arfer yn well”. ‘Da ni’n edrych ymlaen i gael clywed sut fydd stwff Gai yn swnio ar ôl ei gyfnod o fyfyrio ac arbrofi!

Mae’r albwm yn dwyn dylanwadau gwleidyddol, yn ymateb yn greadigol i’r newidiadau mawr y gwelsom ar draws y byd yn 2016. Ysbrydoliaeth arall iddo wrth greu’r campwaith oedd y llyfr gan ŵr o Wrwgái, Eduardo Galeano Las Venas abiertas de Amėrica Latina (Gwythiennau Agored America Ladin). Os hoffech wybod mwy ar albwm, ewch da chi i brynu tocyn ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau Ddydd Sul, neu’n syml – prynwch hi!

Dyma fideo ‘Gwalia’, â gynhyrchwyd ar gyfer Ochr 1 flwyddyn yn ôl:

Ac un peth arall: Pys Melyn

Os ‘da chi’n hoffi Mac Demarco, Tame Impala, Homeshake a cherddoriaeth Seicadelig/Spacey, dyma’r band i chi. Fe ddaethom ar draws y band yma’n gollwng ‘chydig o stwff ar SoundCloud ‘chydig o fisoedd yn ôl.

O be wyddom ni – unigolyn ifanc sy’n creu’r gerddoriaeth yn ddigidol. Ac o be mae’r Selar yn d’alld – nid oes unrhyw sôn am gigio ar y funud ganddynt.

Roedd darganfod bod albwm gyfa’ wedi ymddangos ganddynt ar SoundCloud fis yn ôl, sef Congo, yn ddisgwyliedig ar ôl sgwrs sydyn â nhw n’ôl fis Ebrill.

Yn ogystal ag amryw o ganeuon gwreiddiol ganddynt ar eu tudalen SoundCloud, mae ‘chydig o covers arno hefyd. Yn wir, fe ymddangosodd cover o ‘Mr Lleuad’ gan Neu Unrhyw Declyn Arall neithiwr.

Er nad oes llawer o fanylion yn cael ei rannu ar hyn o bryd – da ni’n obeithiol iawn y cawn wybod mwy amdanynt dros y misoedd nesa’, mae’r band yma’n un i gadw llygaid arno!