Pump i’r Penwythnos 22/09/17

Gig: Heather Jones – Marine, Criccieth

Er ei bod hi’n benwythnos tawel wythnos yma o ran gigs, Criccieth yw’r lle i fod nos Sadwrn gyda Heather Jones yn hudo’r Marine. Tydi Heather ddim yn gigio mor rheolaidd â hynny ar hyn o bryd felly mae’n werth bachu’r cyfle yma!

Mae posib prynu tocynnau o’r Deli Newydd am £10, neu os am archebu dros y ffôn cysylltwch â’r rhif 01766 524888.

Hefyd, nid nepell o Griccieth, mae ‘na gerddoriaeth byw yn Harlech ddydd Sadwrn yn Rock Ardudwy. Bydd Bryn Fôn a Gwibdaith Hên Fran yn chwarae’n Nghastell Harlech.

Mae’n gyfnod prysur i fyfyrwyr Cymru wrth iddyn nhw fod yng nghanol un o wythnosau mwyaf gwallgo eu bywydau – Wythnos y Glas! Ac mae’r Selar yn cyfrannu i’r miri wrth i ni gyd-drefnu gig â UMCA yn Aberystwyth ar gyfer nos Sul yma sef Gig y Glas. Bydd Y Cledrau, Mei Emrys (Vanta gynt) a Bwca yn perfformio, a dyma fydd y gig cyntaf i UMCA drefnu ym Mhantycelyn ers i’r adeilad gan fel neuadd breswyl. Byddwch yn cofio i ni gynnal gig Geraint Jarman yno ar nos Wener Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni, ac mae’n dda gweld y Neuadd werthfawr yn cael defnydd unwaith eto.

Cân: ‘Ar draws y gofod pell’ – Yucatan

Cân sydd wedi bod yn boblogaidd iawn dros y bythefnos ddiwetha’ ar y radio’n enwedig yw cyfyr Yucatan o’r gân enwog ‘Across The Universe’ gan The Beatles. Fe’i cyfieithwyd hi i’w pherfformioyng Ngŵyl Rhif 6 bythefnos yn ôl, ac fe’i recordiwyd i gyd-fynd â dathliadau The Beatles yn yr ŵyl.

Roedd carnifal â thema’r Beatles gan Ŵyl Rhif 6 ‘leni, gan ei bod hi’n 50 mlynedd ers rhyddhau un o albyms mwyaf dylanwadol y byd sef ‘Sgt. Peppers’s Lonely Hearts Club Band’ gan The Beatles nôl yn 1967.

Os fethodd chi Yucatan yn ei pherfformio gwrandewch arni isod, mae’n werth clywed Yucatan yn gadael eu marc breuddwydiol ar y gân.

Record: HMS Morris – Interior Design

Mae’n wythnos gyffrous i’r triawd lliwgar HMS Morris yr wythnos yma. Wrth iddyn nhw gael ei cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017 gyda’u halbwm cyntaf, Interior Design.

Daeth Interior Design allan tuag at ddiwedd y flwyddyn llynedd. Mae’n albwm sy’n gymysg o ganeuon Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys llawer o ganeuon poblogaidd fel ‘Nirfana’.

Yn ogystal â HMS, mae amryw o artistiaid eraill sy’n gyfarwydd i’r Selar wedi cyrraedd y rhestr fer am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, gan gynnwys Bendith, H. Hawkline, The Gentle Good, Georgia Ruth, Gruff Rhys a Sweet Baboo.

Pob lwc i HMS Morris a cadwch eich llygaid allan am yr enillydd ar 20 Hydref yng Ngŵyl Sŵn!

Artist: Serol Serol

Mae Serol Serol wedi cael tipyn o sylw gan Y Selar yn ddiweddar, wrth iddyn nhw wneud sawl cyhoeddiadau cyffrous dros y misoedd diwetha’. Wythnos yma, mae eu sengl diweddaraf (eu hail sengl) sef ‘Aelwyd’ yn drac yr wythnos ar Radio Cymru.

Hefyd, daw’r cyhoeddiad yn yr un wythnos am lein-yp eu gig cyntaf, fydd yn digwydd yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o gigs Twrw a Femme ar 13 Hydref, gydag Adwaith, Marged a DJ’s Gwenno & Patblygu yn perfformio hefyd.

Cafwyd tipyn o sylw iddynt ar Twitter hefyd, wrth i’r grŵp o Ddyffryn Conwy gyhoeddi eu bod wedi gwrthod cyfweliad ag Andrew ‘Tommo’ Thomas ar y radio, ar ôl y“sylwadau ffiaidd a wnaed ganddo ddechrau’r hâf”.

Un peth arall: W H Dyfodol yn rhyddháu cân a fideo..

Fe ryddhawyd fideo newydd gan W H Dyfodol, band Haydon Hughes(Y Pencadlys, Land of Bingo gynt), gychwyn mis Medi gan Ochr 1/Hansh.

W H Dyfodol yw’r prosiect diweddara ganddo, a cafwyd neb llai na Griff Lynch (Yr Ods) i ffilmio fideo’r gân fachog dros ben ‘Caru Gwaith (Dim y Life)’.

Mae’r geiriau’n rai anodd i’w gwthio o’ch pen ar ôl gwrando arni “Dwi’n deffro’n gynnar i fy ngwaith, gwaith, gwaith, llafur, gwaith, gwaith, gwaith”. Fydd hi’n cael ei rhyddhau fel sengl fis Hydref, ond yn y cyfamser cymrwch gip ar y fideo: