Pump i’r Penwythnos – 25/08/17

Mae bron yn benwythnos unwaith eto, felly dyma 5 peth cerddorol i’ch diddanu dros ŵyl y banc.

Gig: Hub Fest – Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd

Pob wythnos mae Cymru’n lwcus o gael dewisiadau o ddigwyddiadau cerddorol byw ledled y wlad – dyw’r wythnos yma ddim yn wahanol, wrth i un wyliau olaf yr haf ddigwydd yng Nghaerdydd. Bydd Hub Festival yn cychwyn nos Wener 25 Awst ac yn cario mlaen nes dydd Sul 27 Awst. Bydd dros ddau gant o berfformwyr trwy gydol y penwythnos gan gynnwys nifer o enwau cyfarwydd i ni – Ffug, Ani Glass, R.Seiliog, Chroma ag Argrph ond i enwi chydig ohonyn nhw!

Bydd hefyd cyfle prin i glywed Meic Stevens yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Wener (25 Awst) – efo’r gig yn cychwyn am 20:00.

Os yn y De Orllewin, cofiwch alw heibio’r Parrot yng Nghaerfyrddin ar gyfer clywed caneuon unigryw am Bryn Fôn gan Pasta Hull! Bydd Argrph, Los Blancos, Piwb a Tates yno hefyd – drysau’n agor am 20:00. Hefyd nid nepell o Gaerfyrddin nos Sadwrn bydd y Welsh Whisperer yn canu’n Nghynwyl Elfed.

Ochre’r Bala nos Wener bydd Osian Williams o Candelas yn gwneud set unigol yn Neuadd Buddug fel noson i ddathlu tîm pêl-droed lleol Llanuwchllyn. Bydd Osian arall – Osian Roberts, hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru – yn cynnal sgwrs yno.

Mae digon yn mynd ymlaen yr wythnos yma, a mae hithau’n ŵyl y banc ddydd Llun felly does dim esgus ganddo chi fethu allan!

Cân: ‘Aelwyd’ – Serol Serol

Daw’r diwrnod mawr i Serol Serol heddiw, wrth iddyn nhw ryddhau ei hail gân, sef ‘Aelwyd’.

Dyma’r cynnyrch diweddara’ ganddyn nhw ers rhyddhau eu cân gyntaf, ‘Cadwyni’, ‘chydig cyn yr haf. Leusa Rhys o Ysbyty Ifan a Mali Sion o Felin y Coed yw’r ddwy ferch ifanc sy’n gyfrifol am Serol Serol, gyda Llyr Pari a George Amor yn rhan o’r band hefyd. Fe recordiwyd y gân newydd eto’n Nglan Llyn, Melin y Coed gyda Llyr Pari.

Dywedant bod yr ysbrydoliaeth i enwi’r grŵp yn Serol Serol yn deillio o’r penderfyniad i greu cerddoriaeth ‘Space Pop’, ac roedden nhw’n meddwl bod yr enw’n “siwtio’r steil o gerddoriaeth – yn Saesneg mae Serol yn golygu Starlike”.

Mae’r genre ‘Space Pop’ a ‘Pop Seicadelig’ yn eitha’ prin yn y Gymraeg, fel yr eglura Mali o’r grŵp…

“Oedda ni’n cychwyn blino ar fatha bandia traddodiadol Cymraeg felly oedda ni isio rhywbeth gwahanol i ychwanegu bach o amrywaieth i’r sin Gymraeg, so pop seicaledig di’r genre.”

Ynglŷn â’r broses o ysgrifennu, dywedant eu bod wedi ysgrifennu’r gân newydd “fel tîm, a dani’n cwrdd fyny efo pawb a rhannu syniadau lyrics a ma’n ffordd wych o ‘sgwennu caneuon”.

Y bandiau Omaloma, Tame Impala a Tops maen nhw’n rhestru wrth sôn am eu prif ddylanwadu cerddorol

“…felly ma’n swnio’n eitha seicadelig efo elfennau pop gwreiddiol ynddo.

“Bydd gig cyntaf Serol Serol yng Nghlwb Ifor Bach ar y 13 Hydref, hefo gwesteion yn ymuno â’r band ar y llwyfan – da ni methu aros!”

Mae’r gan newydd ar gael i’w phrynu ar iTunes, ac i’w chlywed ar Spotify a SoundCloud. Mae bwriad i ryddhau mwy o ganeuon yn y dyfodol hefyd, ac maent yn gobeithio creu albwm llawn Serol Serol. Yn eu geiriau addas iawn nhw – “gwyliwch y gofod!”

Artist: Celwyddau

Mae Celwyddau yn ail-ryddhau ‘Dawel y Dydd’ wythnos nesaf yn annibynnol …. a na, nid wedi dwyn y gân gan Panda Fight maen nhw, ond Panda Fight sydd wedi ail-enwi eu hunain fel Celwyddau.

Felly, heddwch i lwch Panda Fight. Cafodd Y Selar sgwrs fer â Alun Reynolds, sef un hanner o’r band, am eu rhesymeg dros y dewis.

“Roedd pobl yn meddwl mai ‘mond fi oedd Panda Fight” meddai Alun, a dyma oedd un o’r prif resymau. Aelod arall y band yw Sara Davies, ac maent yn dod at ei gilydd i ‘sgwennu a recordio caneuon yn aml.

Mae manteision o newid enw’r band i weld yn barod yn ôl Alun,

“Ni wedi cael llawer o gynigion yn barod, i fynd ar daith fis Hydref gyda tua chwech dyddiad”.

Cyffrous oedd clywed mai gyda Ffenestri, y band o’r 80au, y maen nhw am deithio.

Caiff holl gynnyrch Celwyddau ei recordio yng ngarej Alun, efo Alun yn taflu syniadau at Sara a hithau wedyn yn dod yn ôl efo geiriau ac awgrymiadau ar gyfer y caneuon. Mae sôn hyd yn oed am fynd ar daith i Wlad Belg, Ffrainc, a efallai Japan (fis Ebrill).

Cadwch eich llygid allan am gyhoeddiadau slei yn yr wythnose’ nesa gan Celwyddau!

Record: Albwm OSHH ar y ffordd

Mae albwm cyntaf y “Dewin Electro” OSHH ar gael i’w rhag-archebu ar y we rŵan, cyhoeddodd yr wythnos hon.

Dyma record hir gyntaf unigol yr artist o Fôn, Osian Howells, a fydd yn cael ei ryddhau ar 6 Hydref ar label Recordiau Blinc. Disgrifia’r label yr albwm newydd mewn manylder:

“Mae’r lleisiau crynedig a’r platiau tectonig ymgripiol o ddatseinedd a synth, yn creu darn annisgwyl o bop ewfforig o albwm gyntaf OSHH…mae OSHH wedi adeiladu albwm o alawon dyfodolaidd a threfniadau uchelgeisiol sy’n cynyddu yn eich dychymyg”.

Nid yw Osian yn enw anghyfarwydd yn y sin, gan eu fod yn aelod o Yr Ods, ac hefyd yn aelod o Yucatan. Fe ddechreuodd ryddhau cynnyrch ei hun nôl yn 2014 trwy recordiau Blinc – rhyddhawyd ‘All Mistakes’, ‘Lleisiau’n Galw’ a ‘Dal i Frwydro’ ganddo a hefyd ‘Rhywbeth Gwell’ gafodd ei chynnwys ar albwm aml-gyfrannog O’r Nyth.

Yn y gorffennol mae ei ganeuon wedi bod yn boblogaidd ar y tonfeddi radio gan gyflwynwyr ar BBC Radio Cymru. BBC Radio Wales ac Amazing Radio, yn enwedig ymysg cyflwynwyr fel Huw Stephens, Bethan Elfyn ac Adam Walton.

Fe recordiwyd yr albwm newydd mewn stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni, gyda’r cynhyrchydd Kevin Jones. Mae ei fand byw hefyd yn cynnwys ‘chydig o enwau mawr y sdin gyda Gwion Llywelyn (Villagers, Race Horses, Yr Ods) yn drymio iddo, Griff Lynch (Yr Ods), Ioan Llywelyn (Carlotta), ac ei frawd Guto Howells (Yr Eira).

Mae rhagflas o’r albwm ar gael ar SoundCloud ers mis, sef trac o’r enw ‘Alive’. Artist arall fydd i’w chlywed ar yr albwm ydy yr anhygoel Casi a’i llais nodweddiadol.

Mae modd ei rhag-archebu’r albwm o Itunes ac Apple Music rŵan.

Un Peth arall… Sôn am y Sîn yn lansio podlediad

Mae blog cerddoriaeth Sôn am y Sîn wedi lansio eu podlediad cyntaf ddydd Llun 21 Awst sef ‘Y Sôn’ – podlediad sy’n trin a thrafod cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ac y cyntaf o lawer medden nhw.

Cychwynnodd Sôn am y Sîn fel erthyglau am y sin gerddorol Gymraeg – efo’r cyntaf yn mynd yn ôl i fis Ionawr 2016, felly mae’r blog yn weithredol ers blwyddyn a hanner erbyn hyn, eglurodd Gethin Griffiths o’r blog wrthom. Mae Gethin yn un o’r ddau sy’n rhedeg Sôn am y Sîn gyda Chris Roberts ac erbyn hyn mae bron i 70 o erthyglau wedi eu cyhoeddi – y rhan fwyaf gan Geth a Chris, ond ambell un gan awdur gwadd hefyd.

Ar ôl trafod tipyn am gychwyn podlediad, o ganlyniad i gymryd diddordeb mewn podlediadau’n gyffredinol megis Songexploder, Sodajerker, The Anfield Wrap, fe benderfynon nhw gychwyn un. Nid yw’r cyfrwng yn un anghyfarwydd i Chris, gan iddo fod “yn hen law ar greu sioeau radio yn ei amser sbâr” sef Junction 11 Radio yn ystod ei gyfnod ym mhrifysgol Reading, a Môn FM bob nos Fercher.

Esbonir bod y profiad o lansio’r cyntaf yn un “eithaf od, gan nad oeddan ni’n gwybod sut ymateb oedd am fod, ond gan ein bod ni wedi derbyn ychydig o sylw ar ôl cyhoeddi ambell i erthygl yn ddiweddar, mi oeddan ni’n gwybod y buasai ‘na griw yn gwrando”

Bwriad y ddau yw i geisio annog trafodaeth,

“Nid ein barn ni sydd yn derfynol” dywedant “ac felly mi rydan ni’n edrych ymlaen i gael trafodaethau iach â’r gwrandawyr yn y dyfodol.”

Podlediad misol fydd ‘Y Sôn’, a bydd yn trafod digwyddiadau a materion y sin yn gyffredinol. Bydd cyfresi eraill yn cael eu cyhoeddi hefyd, efo’r bwriad o ddechrau creu cyfresi mwy manwl am dechnegau ysgrifennu caneuon, gan gynnal cyfweliadau â’r artistiaid ei hunain. Maen nhw hefyd hyd yn oed sôn am greu rhaglenni dogfen one off nawr ac yn y man.

Mae amrywiaeth barn yn “bwysig iawn” iddynt – os hoffech gyfrannu tuag at y podlediadau neu ‘Son am y Sîn’ yn gyffredinol – cysylltwch â blog.sonamsin@gmail.com

Mae’n gyfnod cyffrous lle mae llawer yn cymryd diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg – os hoffech wrando are u podlediad diwetha’ mae modd gwrando’n ôl ar SoundCloud a thanysgrifio i’w sianel.

Gwrandewch a mwynhewch!