Fe ymddangosodd sengl gyntaf Serol Serol ar label I Ka Ching wythnos diwethaf, ond ers hynny mae cryn ddirgelwch ynglŷn a phwy yn union ydy’r grŵp newydd yma o’r Gogledd.
Wel, bu’r Y Selar yn ddigon lwcus i allu darganfod ychydig mwy o wybodaeth am y band dirgel sydd â’u sengl gyntaf, ‘Cadwyni’, bellach ar iTunes am 76c!
Prosiect dwy gyfnither yw’r band, sef Mali Sion a Leusa Rhys o Ddyffryn Conwy. Pan ofynnwyd iddynt pa fath o gerddoriaeth oedd cerddoriaeth Serol Serol, ‘Space Pop’ oedd yr ateb â gafwyd.
Mae’r genre yma’n un digon prin ar hyn o bryd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, felly mae’n wych cael gweld dwy ferch yn mynd ati’n greadigol i lenwi’r bwlch yn y farchnad. Ond eto, gellir dadlau bod cân newydd Griff Lynch sef ‘No One Cares’, sydd hefyd newydd ei rhyddhau gan I Ka Ching, yn space popaidd iawn hefyd, yn ogystal â’r band cymreig Gulp, sef prosiect Guto Pryce o’r Super Furry Animals.
Braf oedd cael clywed hefyd bod mwy o gynnyrch ar y ffordd gan Serol Serol,
“’Da ni’n recordio yn stiwdio Glan Llyn ar y funud, ac yn gweithio hefo Llŷr Pari a George Amor ar gyfer gwneud ein halbwm cyntaf” meddai’r merched wrth Y Selar.
Pryd allwn ni ddisgwyl clywed yr albwm yma felly? Wel, mae o ar y ffordd yn fuan mae’n debyg ac roedd Y Selar hefyd wrth ein bodd i glywed y gallwn ni ddisgwyl gweld Serol Serol ar lwyfan yn fuan…
“Rydan ni’n bwriadu dechrau gigio mor fuan a phosib” oedd eu haddewid.
Yn y cyfamser, gwrandewch a mwynhewch eu sengl gyntaf, ‘Cadwyni’: