Elin Siriol sy’n trafod albwm newydd Mr Phormula, a ryddheir yr wythnos hon…
Fe fydd Mr Phormula yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Llais, ddydd Gwener yma…a gwnewch yn siŵr eich bod adre’ ac ar-lein am 19:00 gan bod y cerddor arloesol am ffrydio perfformiad byw o’r albwm gyfan ar Facebook!
Rhyddhaodd flas o’r albwm newydd, sef y trac cyntaf o’r casgliad, ‘Cwestiynau’, ar y 5 Mehefin ac mae hon ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol ar ei safle bandcamp.
Mae Mr Phormula, sef enw llwyfan y rapiwr a bîtbocsiwr Ed Holden, yn enwog am ei allu rhyfeddol i greu synau amrywiol gyda’i lais yn unig, a syniad yr albwm newydd ydy amlygu hynny. Does dim offerynnau allanol na samplau’n cael eu defnyddio ar yr albwm, yn hytrach mae Ed wedi creu pob cân, sŵn a rythm gan ddefnyddio’i lais ac effeithiau’n unig.
Enghraifft wych o’i allu rhyfeddol ar yr albwm yw’r drydedd trac ‘Curiadau Trwm’, lle mae’n anhygoel meddwl mai nid offerynnau sydd i’w clywed, ond yn hytrach mae ei lais sy’n creu’r synau gwallgo’ yma.
Profiadau bywyd yn ysbrydoli
Mae ‘Cwestiynau’, yn canolbwyntio ar lawer o ddigwyddiadau bywyd sydd wedi effeithio ac ysbrydoli Ed fel artist. Roedd yn teimlo ei bod yn bwysig i drafod y digwyddiadau hyn trwy gerddoriaeth gan fod hyn yn aml yn cael effaith therapiwtig arno.
Mae synau cefndirol, ysbrydol y trac yn plethu â’r geiriau dwys yn berffaith. Yn ôl Ed mae ‘Cwestiynau’ yn gynrychiolaeth dda o’r albwm fel cyfanwaith, a hefyd ohono ef fel person.
Wrth ysgrifennu’r trac penodol yma roedd Ed yn profi llawer o wahanol ddigwyddiadau yn y ei fywyd nad oedd wedi eu profi o’r blaen, ac mae wedi ceisio dal yr emosiynau hynny cyn eu cyfieithu’n gerddorol i’r trac. Canlyniad hyn ydy Llais, sy’n daith ddramatig, electroneg a hip-hop sy’n canolbwyntio ar rapio a chanu.
Yn ôl y cerddor, mae ysgrifennu Llais wedi bod yn daith anhygoel iddo wrth ganfod ei hun yn aml yn ymddwyn fel samplwr ac yn dynwared hen ganeuon yn lleisiol, cyn eu cofnodi ac adeiladu haenau i mewn i ganeuon llawn.
Cydweithio ag artistiaid eraill
Mae’r trac ‘Lle ma dy galon’ yn sefyll allan ar yr albwm wrth i Alys Williams ychwanegu sŵn popaidd, gan ddangos bod Ed Holden yn gallu cyflwyno mwy nag un genre ar y casgliad yma. Roedd hon yn un o’m ffefrynnau ar yr albwm, gan ei bod hi’n eithriadol o fachog ac yn ychwanegiad annisgwyl.
Geshi’n synnu’n fawr wrth wrando ar y gân ‘Don’t Fall Off Now’, lle mae ochr wahanol i Ed yn cael ei ddatgelu. Roeddwn wrth fy modd yn cael fy nghyflwyno i lais canu swynol Mr Phormula.
“Wnes i erioed feddwl y gallwn i ganu” meddai Ed, sy’n hytrach yn adnabyddus fel rapiwr gorau Cymru, ond mae wedi rhoi cynnig arni ar ychydig ganeuon a sylweddoli ei fod o leiaf yn gallu dal nodyn, ac yna mynd ati i ddatblygu sgiliau canu newydd.
Caiff rapiwr talentog arall ei gynnwys ar yr Albwm sef ‘Scorayzee’, lle mae’r ddau rapiwr yn atebol i’w gilydd ar eu cyfanwaith ‘Belly Of The Beast’.
O ran geiriau, y gân ‘Meicraffon’ ydy fy ffefryn, wrth i Ed ysgrifennu am ei brofiad fel cerddor/awdur llenyddol, a’r ffaith fod ei dalent yn unigryw iawn yma yng Nghymru fach
“…dwi’n unigryw hefo cerddoriaeth, checkia’r mamiaith”.
Un-ar-ddeg trac sydd ar yr Albwm, a mae pob un wahanol ond wrth ddadansoddi gellir weld y thema o gwestiynu ystyr bywyd fel asgwrn cefn i lawer o’r caneuon. Caiff Mr Phormula ei weld mewn golau newydd ar y record hir yma – jyst pan oedden yn meddwl na allai’r dyn ein synnu ymhellach, dyma fo’n dangos hyd yn oed mwy o haenau gwahanol.