Mae dwy restr fer olaf Gwobrau’r Selar eleni wedi eu cyhoeddi, yn ogystal â chyflwynydd y digwyddiad yn Aberystwyth nos Sadwrn.
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi mai Elan Evans fydd yn cyflwyno’r Gwobrau eleni.
Bydd Elan yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Daeth i’r amlwg yn gyntaf fel un o’r ddeuawd DJs Elan a Mari sy’n gigio’n rheolaidd yn nosweithiau Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.
Dros yr hydref bu Elan yn un o gyflwynwyr rheolaidd gwasanaeth Radio Cymru Mwy, fu’n darlledu ar-lein, ac mae hefyd wedi bod yn cyflwyno nosweithiau Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Rhestrau Byr
Dros y chwe wythnos diwethaf mae rhestrau byr Gwobrau’r Selar wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar nosweithiau Mercher, a hynny ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru, ac ar dudalen Facebook Ochr 1.
Y ddau gategori olaf i’w cyhoeddi oedd ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’, a cafodd y rhestrau byr eu rhyddhau heno.
Y tri sydd wedi dod i frig pleidlais ‘Artist Unigol’ y tro hwn ydy Gwilym Bowen Rhys, Alys Williams ac enillydd y wobr y ddwy flynedd ddiwethaf, Yws Gwynedd.
Mae categori ‘Gwaith Celf Gorau’ yn un cynyddol ddiddorol wrth i artistiaid roi mwy a mwy o bwyslais ar gloriau eu recordiau er mwyn ychwanegu gwerth i gerddoriaeth sydd ar gael yn ddigidol hefyd.
Y tri clawr sydd wedi creu’r mwyaf o argraff ar bleidleiswyr Gwobrau’r Selar yn 2016 ydy albwm aml-gyfrannog 5 i ddathlu pum mlwyddiant label I Ka Ching; albwm diweddaraf Cowbois Rhos Botwnnog, IV; a record olaf Y Bandana am byth bythoedd amen, Fel Tôn Gron.
Bydd enillwyr y categorïau yma, a’r gweddill yn cael eu datgelu yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma – mae rhai tocynnau ar ôl ar hyn o bryd, ond yn mynd yn brin!
Dyma’r rhestrau byr llawn:
Cân Orau
Gweld y Byd Mewn Lliw – Band Pres Llareggub
Cyn i’r Lle Ma Gau – Y Bandana
Canfed Rhan – Candelas
Gwaith Celf Gorau
Fel Tôn Gron – Y Bandana
5 – I Ka Ching
IV – Cowbois Rhos Botwnnog
Hyrwyddwyr Gorau
Clwb Ifor Bach
Maes B
4 a 6
Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau
Tudur Owen
Huw Stephens
Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau
Yws Gwynedd
Gwilym Bowen Rhys
Alys Williams
Digwyddiad Byw Gorau
Maes B – Eisteddfod Y Fenni
Gig Olaf Y Bandana
Gig y Pafiliwn – Eisteddfod Y Fenni
Band neu Artist Newydd Gorau
Chroma
Ffracas
Magi Tudur
Band Gorau
Candelas
Sŵnami
Y Bandana
Offerynnwr Gorau
Merin Lleu
Osian Williams
Gwilym Bowen Rhys
Fideo Cerddoriaeth Gorau
Sgrin – Yws Gwynedd
Bing Bong – Super Furry Animals
Suddo – Yr Eira
Record Hir Orau
IV – Cowbois Rhos Botwnnog
Fel Tôn Gron – Y Bandana
Kurn – Band Pres Llareggub
Record Fer Orau
Tân – Calfari
Niwl – Ffracas
Propeller – Cpt Smith