‘Pam Fod y Môr Dal Yna’ ydy enw ail sengl y cerddor gwerinol ei naws, Tegid Rhys, a ryddhawyd wythnos diwethaf.
Mae’r trac newydd yn dilyn ei sengl gyntaf, ‘Terfysg Haf’ a ryddhawyd rhyw fis yn ôl, ac unwaith eto mae Tegid wedi gweithio’n agos gydag Aled Hughes a gynhyrchodd y gân.
Daw Tegid Rhys yn wreiddiol o Nefyn, ond mae bellach yn byw yn Rhosmeirch yn Ynys Môn. Recordiodd y sengl yn y canol rhwng y ddau le, sef yn Llanllyfni, ac yn benodol yn Stiwdio Drwm sy’n cael eu redeg bellach gan Osian Huw ac Ifan Emlyn o Candelas. Dyma chi stiwdio eithriadol o brysur ar hyn o bryd – yno recordiwyd EP Lastigband a sengl Yr Eira sydd allan cyn diwedd Ebrill hefyd.
Mae perthynas Tegid ac Aled, sydd wrth gwrs yn aelod o Cowbois Rhos Botwnnog ac yn rhedeg label Sbrigyn Ymborth, yn mynd yn ôl sawl blwyddyn, fel yr eglura Tegid…
“Dwi’n dod o Nefyn yn wreiddiol, ac es i i’r ysgol efo Aled felly dwi’n ei nabod o ers tua 20 mlynedd rŵan.”
Mae brawd Aled, Dafydd Hughes, sef drymiwr Cowbois Rhos Botwnnog, hefyd wedi cyfrannu’n helaeth i’r ddwy sengl gan mai ef sy’n drymio ar y caneuon.
Er bod modd clywed dylanwadau gwerinol Tegid ar y trac newydd, byddai’n annheg ei labelu fel cân werin – mae mwy i’r sŵn na hynny.
Dwy sengl mewn cyfnod byr…oes mwy i ddod neu allwn ni ddisgwyl EP neu albwm yn fuan?
“Y cynllun sydd gen i ydy recordio mwy, a mynd ati wedyn i ryddhau EP” meddai Tegid wrth Y Selar.
“Ond does dim dyddiad pendant pryd eto.”
Yn ôl Tegid mae ganddo gigs ar y gweill ym mis Mai, ond nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi eto – cadwch olwg ar ei ffrwd Twitter a thudalen Facebook am fwy o wybodaeth.