Rhyddhau sengl gyntaf Los Blancos

Bydd y grŵp o Gaerfyddin, Los Blancos, yn rhyddhau sengl gyntaf, ‘Mae’n anodd deffro un’, ar label Libertino wythnos nesaf.

Dyddiad rhyddhau swyddogol y sengl newydd ydy 17 Gorffennaf, ond mae modd gwrando arni ar safle Soundcloud Recordiau Libertino nawr. Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau’n ddigidol yn unig ar hyn o bryd.

Mae’r sengl newydd wedi’i chynhyrchu gan y chwedlonol Kris Jenkins, cynhyrchydd sydd wedi gweithio gyda thoreth o artistiaid poblogaidd iawn gan gynnwys Cate Le Bon, Super Furry Animals, Flaming Lips a Zabrinski.

Fe gafodd y gân ei chwarae am y tro cyntaf ar rhaglen Lisa Gwilym rhyw bythefnos yn ôl.

Tyfodd Los Blancos o lwch y ddeuawd blŵs, Tymbal, ac mae Gwyn Rosser (gitâr a llais) ac Emyr Taylor (drymiau) o’r grŵp hwnnw ill dau’n aelodau o Los Blancos. Y ddau aelod arall ydy Osian Owens (gitâr) a Dewi Jones (bas a llais).

Dechreuodd Y Selar gymryd diddordeb yn Los Blancos ar ôl clywed y demo ar gyfer y gân ‘Clarach’ ar eu safle Soundcloud, gan ei dewis fel cân yr wythnos Pump i’r Penwythnos ym mis Medi llynedd.

Emyr wrth gwrs ydy’r prif egni tu ôl i’r grŵp arall cyffrous o Gaerfyrddin, Argrph, ac mae Gwyn yn chwarae i’r band hwnnw hefyd. Mae’r bartneriaeth yma’n adlewyrchiad o’r ysbryd cydweithredol amlwg sy’n bodoli rhwng grwpiau ardal Caerfyrddin ar hyn o bryd ble mae Adwaith, Names a Cpt Smith yn cyfrannu at symudiad cyffrous o grwpiau ifanc yn yr ardal.

Comisiynwyd yr artist Pulco i greu’r y clawr ar gyfer y sengl, ac mae’r canlyniad yn ddarn o gelf lliwgar a thrawiadol.

Yn ôl y grŵp, maen nhw’n gobeithio rhyddhau sengl arall tuag at ddiwedd yr haf.

Bu’r Selar yn sgwrs â Gwyn a Dewi o Los Blancos am eu cynlluniau yn Eisteddfod yr Urdd fis diwethaf.

Gigs Los Blancos

Gwener 14 Gorffennaf – Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Mawrth 8 Awst – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Môn