Roughion yn ymuno â Libertino

Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i ddal fyny â bois Roughion yn Eisteddfod yr Urdd wythnos diwethaf, ac roedd Gwion a Steffan o’r grŵp yn ddigon caredig i rannu newyddion cyffrous gyda ni.

Yr ecsgliwsif mawr oedd bod y ddeuawd wedi ymuno â stabal label Recordiau Libertino, sef un o labeli mwyaf bywiog Cymru ar hyn o bryd.

Daw’r grŵp electroneg yn wreiddiol o Aberystwyth, ond maen nhw bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac yn weithgar iawn yn y Brifddinas. Yn ogystal â gigo a DJio yn rheolaidd, mae’r ddau wedi lansio digwyddiad rheolaidd ‘Rough and Tumble’ yn The Flora yn Cathays.

Datgelodd y ddau eu bod yn gweithio ar eu halbwm cyntaf, a hwnnw’n albwm cysyniadol, ers tua dwy flynedd ond yn dechrau gweld goleuni ym mhen draw’r twnnel. Y bwriad ydy rhyddhau’r albwm fel cyfres o dri EP, ond maent yn gobeithio rhyddhau’r sengl gyntaf ar Libertino dros yr haf.

“Ma gyda ni gwpl o ganeuon newydd i ddod allan, ‘Amrwd’ fydd y gyntaf i ddod allan ym mis Awst” meddai Gwion o’r grŵp wrth sgwrsio gyda’r Selar.

Label Libertino

Ffurfiwyd y label yn wreiddiol lai na blwyddyn yn ôl gan y rheolwr, Gruff Owen o Gaerfyrddin, dan yr enw Decidedly, ond penderfynodd i newid yr enw’n ddiweddar gan bod y prosiect yn tyfu’n llawer mwy na’r bwriad gwreiddiol.

Wrth ymuno â Libertino, mae Roughion mewn cwmni da gan bod rhai o brosiectau cerddorol newydd mwyaf cyffrous y wlad eisoes gyda’r label, gan gynnwys Adwaith, Argrph, Los Blancos a Hotel Del Salto.

Bydd y noson ‘Rough and Tumble’ nesaf sy’n cael ei drefnu gan y ddeuawd yn digwydd ar 30 Medi, yn The Flora.