Rwbal Wicendar penwythnos yma

Mae manylion digwyddiad newydd ‘Rwbal Wicendar’ wedi’u cyhoeddi wythnos diwethaf.

Canolfan aml-bwrpas CellB ym Mlaenau Ffestiniog ydy lleoliad y digwyddiad â gynhelir ar benwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd mis Ebrill.

Mae’r lein-yp ar gyfer y gig ar nos Sadwrn 29 Ebrill yn dal y llygad, gyda Brython Shag, Ffug, CaStLeS, Yr Oria, Calfari, Pyroclastigs a Ffracas i gyd yn perfformio.

Rhys Roberts o Anweledig, a Gerwyn Murray o Sŵnami sy’n trefnu’r digwyddiad a’r bwriad ydy bod yn ‘showcase’ i gerddoriaeth Cymraeg gan ysbrydoli pobl ifanc yr ardal a’u hannog i ymddiddori mewn cerddoriaeth Gymraeg heddiw ac o’r gorffennol.

Mae’r ŵyl yn dechrau gyda ‘Fideo Hud’ ar nos Wener 28 Ebrill yn Sinema CellB. Dechreuodd Fideo Hud o syniad i helpu gwneuthurwyr ffilm sglefyrddio ifanc a cherddorion ifanc o Flaenau Ffestiniog i ddatblygu eu miwsig cartref a fideos sglefyrddio. Gyda chynnydd anferth mewn fideos cartref oherwydd i-phones ac apiau golygu mae’n ymddangos bod chwyldro fideos cartref y 80au a 90au yn ei ôl (fel MTV a Fideo 9). Mae Fideo Hud yn bwriadu dangos fideos miwsig Cymraeg o’r archif – rhaglenni fel Fideo 9, i-dot a Garej.

Bydd setiau acwstig ar brynhawn Sul 30 Ebrill i gloi y penwythnos hefyd.