Bydd Omaloma yn rhyddhau eu sengl newydd, ‘Aros o gwmpas’ ar ddydd Gwener 14 Gorffennaf.
Grŵp o Ddyffryn Conwy ydy Omaloma – prosiect diweddaraf basydd Sen Segur gynt, ac aelod Palenco, George Amor.
Rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp, ‘Ha Ha Haf’ ym mis Ebrill llynedd gan dderbyn canmoliaeth eang, gan gynnwys cael ei chwarae’n rheolaidd ar BBC 6 Music.
Recordiwyd y sengl newydd yn stiwdio Glan Llyn ym Melyn y Coed, ac fe’i cynhyrchwyd gan Llŷr Pari, sydd hefyd yn aelod o Omaloma. Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau Cae Gwyn, sef label brawd mawr George, y cerddor Dan Amor.
Mae gwaith celf y sengl wedi greu gan yr arlunydd o Buenos Aires yn wreiddiol, Paula Castro. Bydd y sengl ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf y bydd Omaloma, ynghyd ag Adwaith, yn perfformio ar lwyfan BBC Music Introducing yng ngŵyl fawr Latitude yn Suffolk ar 14 Gorffennaf, sef diwrnod rhyddhau’r sengl.
Gigs Omaloma:
2 Gorffennaf – Tafwyl, Caerdydd
14 Gorffennaf – Gŵyl Latitude, Suffolk
21 Gorffennaf – Gŵyl Hen Linell Bell, Aberystwyth
9 Awst – Caffi Maes B, Eisteddfod Môn
10 Awst – Llwyfan Y Maes, Eisteddfod Môn