Sengl Yr Eira allan ddydd Gwener

Bydd Yr Eira yn rhyddhau sengl gyntaf ei halbwm newydd ddydd Gwener yma, 28 Ebrill.

Mae record hir gyntaf y grŵp a ffurfiodd yn wreiddiol ym Mangor yn cael ei rhyddhau ar label Recordiau I Ka Ching ym mis Gorffennaf. Ond fel tamaid bach i aros pryd, mae’r grŵp wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl cyn diwedd y mis.

Enw’r sengl newydd ydy ‘Dros y Bont’, a bydd yn gyfle cyntaf i glywed sŵn yr albwm sydd ychydig bach yn wahanol i waith blaenorol y band yn ôl yr aelodau, fu’n sgwrsio â’r Selar ar ôl eu gig yn hedleinio rownd ragbrofol Brwydr y Bandiau yn Aberystwyth yn ddiweddar.

Recordiwyd y trac yn Stiwdio Drwm yn Llanllyfni gyda Steffan Pringle, sydd hefyd yn chwarae gitâr fas i Estrons, yn cynhyrchu, gyda pheth mân waith recordio’n digwydd yn nhŷ Steffan hefyd.

Yn ôl Yr Eira, y cynllun ydy rhyddhau un sengl arall ac efallai cwpl o fideos cyn i’r albwm ddod allan ym mis Gorffennaf.

Mae Lewys Wyn yn trafod albwm Yr Eira ym mhodlediad diweddaraf I Ka Ching (y cyntaf ers dwy flynedd!), er bod y sgwrs yn amlwg wedi’i recordio cyn iddyn nhw benderfynu ar drefniadau rhyddhau’r sengl.