Serol Serol – sengl newydd a gig cyntaf

Mae’r grŵp newydd addawol o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, wedi rhyddhau eu hail sengl a chyhoeddi manylion eu gig cyntaf erioed.

Rhyddhawyd ‘Aelwyd’ ar ddydd Gwener 25 Awst, ac mae’n ddilyniant i’w sengl gyntaf, ‘Cadwyni’, a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni.

Fe ddatgelodd Y Selar yn gynharach yn y flwyddyn mai prosiect Leusa Rhys o Ysbyty Ifan a Mali Sion o Felin y Coed ydy Serol Serol, gyda Llyr Parri (Jen Jeniro, Palenco, Omaloma, Cowbois Rhos Botwnnog) a George Amor (Omaloma, Palenco, Sen Segur) yn aelodau o’r band hefyd.

Fe recordiwyd y gân newydd, fel y gyntaf, yn stiwdio Glan Llyn, sef stiwdio Llyr Pari ym Melin y Coed ger Llanrwst.

Gig cyntaf

Yn ogystal â rhyddhau’r sengl newydd, mae’r grŵp wedi cyhoeddi manylion eu gig cyntaf erioed fydd yn digwydd yn yr hydref.

Bydd Serol Serol yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach ar y 13 Hydref, gyda gwesteion arbennig yn ymuno â’r band ar y llwyfan.

Beth ydy Serol?

Mae’r grŵp hefyd wedi datgelu’r ysbrydoliaeth tu ôl i enwi’r grŵp. Mae’r cyfan yn deillio o’r ffaith eu bod wedi penderfynu mynd ati i greu cerddoriaeth ‘Space Pop’, ac felly roedden nhw’n meddwl bod yr enw’n “siwtio’r steil o gerddoriaeth”. Ystyr y gair Saesneg ‘Serol’ ydy ‘Starlike’.

Wrth drafod y genre ‘Space Pop’ mae Mali o’r grŵp yn dweud eu bod yn awyddus i gynnig amrywiaeth i’r sin Gymraeg.

“Roeddan ni’n cychwyn blino ar fandiau traddodiadol Cymraeg felly oeddan ni isho rhywbeth gwahanol i ychwanegu bach o amrywiaeth i’r sin Gymraeg, so pop seicaledig di’r genre.”

O ran y broses o ysgrifennu i’r grŵp, dywedant eu bod wedi ysgrifennu’r gân newydd “fel tîm, a deni’n cwrdd fyny efo pawb a rhannu syniadau lyrics, a ma’n ffordd wych o ‘sgwennu caneuon”.

Y bandiau Omaloma, Tame Impala a Tops yw’r rhai sy’n cael eu henwi gan y grŵp pan yn sôn am eu prif ddylanwadau wrth greu eu cerddoriaeth “felly ma’n swnio’n eitha seicadelig efo elfennau pop gwreiddiol ynddo”.

Mae’r gân newydd ar gael i’w phrynu ar iTunes, ac i’w chlywed ar Spotify a SoundCloud.

Yn ôl y grŵp mae bwriad i ryddhau rhagor o ganeuon yn y dyfodol hefyd, ac maent yn gobeithio creu albwm llawn Serol Serol.