Sianel Ffarout yn ffynnu

Bydd y rhai craff yn eich mysg wedi sylwi ar lwyth o ganeuon Cymraeg o’r archif yn ymddangos ar YouTube dros yr wythnosau diwethaf – rhai caneuon sy’n gyfarwydd gan grwpiau fel Ffa Coffi Pawb a Jess, ac eraill sydd heb weld golau dydd ers blynyddoedd.

Sianel YouTube Ffarout sy’n gyfrifol am y don enfawr o ganeuon Cymraeg o’r gorffennol sy’n cael bywyd o’r newydd ar-lein yn ddiweddar, a ffrwyth llafur blynyddoedd o gasglu gan y person anhysbys sy’n gyfrifol am y cyfrif Twitter a’r sianel YouTube Ffarout.

Mae cyfrif Twitter Ffarout mewn bodolaeth ers 2012 ac mae wedi bod yn rhannu sylwadau, lluniau a ffeiliau sain o’r archif gerddoriaeth Gymraeg ers hynny, ond ers rhai wythnosau mae’r sianel YouTube wedi codi gêr ac rydym wedi gweld llwyth o ganeuon yn ymddangos.

Daliwyd llygad Y Selar yn arbennig ar un diwrnod ddechrau’r mis pan drydarodd cyfrif Ffarout bod 73 o ganeuon wedi eu llwytho i’r sianel ar y diwrnod hwnnw, sef 3 Ebrill – diwrnod prysur o wylio cylch bach yn troi yng nghanol y sgrin glei!

Roedd Y Selar yn awyddus i wybod beth ydy’r ysgogiad dros sefydlu’r sianel, a gweithio mor ddiwyd i lwytho cynnwys rheolaidd, a rhaid oedd holi Ffarout.

“Lot o’r mp3s sydd gen i dwi wedi casglu oddi-ar y we dros y blynyddoedd, oni bai am ambell gasét a record dwi wedi trosglwyddo i mp3 fy hun” meddai Ffarout wrth Y Selar wrth drafod y caneuon mae wedi bod yn eu llwytho i YouTube.

Creu archif cyflawn

“Yn amlwg, bwriad y sianel ydi rhoi yr holl recordiau a chaneuon coll i fyny fel eu bod ar gael yn hawdd i’w ffeindio os ydy rhywun eisiau gwrando arnynt, boed yn genhedlaeth newydd neu hen.”

“Ro’n i eisiau gosod hwn yn ei le gan fy mod i wedi treulio oriau ac oriau yn ceisio dod o hyd i wahanol ganeuon neu fandiau, ac eisiau ei gwneud hi’n haws i bobl eraill ei ffeindio.”

“Y nod, a gobaith, yn y pendraw ydy cael rhyw archif eithaf cyflawn o recordiau Cymraeg o’r 1980au hyd at ddechrau’r ganrif newydd…er, bydd hynny’n cymryd rhai blynyddoedd o leiaf dwi’n tybio.”

Heb os, mae’n ymdrech clodwiw gan unigolyn penderfynol iawn yr olwg sydd eisiau gwneud cerddoriaeth Gymraeg o’r gorffennol yn fwy hygyrch i bobl yn y dyfodol, ac mae hynny i’w glodfori.

Yr wythnos hon mae Ffarout wedi lansio tudalen Facebook newydd sy’n haeddu ei ‘hoffi’ yn ein barn ni.

Mae’n werth i chi dreulio peth amser yn pori trwy sianel Ffarout i weld pa berlau gallwch ddarganfod. Dyma un argymhelliad gan Y Selar isod, sef ‘Wncwl Dan’ gan Bili Dowcar a’r Gwylanod – un o’r caneuon oedd ar y casgliad aml-gyfrannog gwych, Lleisiau, a ryddhawyd gan fudiad Adfer nôl ym 1975. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys caneuon gan Cleif Prendelyn (Cleif Harpood, canwr Edward H Dafis), Dewi (Pws) Morris a Meic Stevens.