Taith atgyfodi Ffenesti

Bydd rhai o ddarllenwyr Y Selar yn cofio bod y grŵp electroneg o’r 1980au, Ffenestri, wedi ail-ffurfio dros yr haf ar gyfer gig yng Ngŵyl Arall.

Nawr, maent wedi cyhoeddi manylion taith ‘Electro Cymru’ fydd yn cynnwys y grŵp Celwyddau (Panda Fight gynt) fel cefnogaeth iddynt.

Fel yr awgryma’r enw, taith o gerddoriaeth electronig fydd hon, ac fe fydd yn cychwyn gyda thri dyddiad fis Hydref, sef:

20 Hydref – Y Ci a’r Piano, Caerfyrddin

21 Hydref – Tŷ Tawe, Abertawe

27 Hydref – Noson Pedwar a Chwech, Clwb Canol Dre, Caernarfon

Y daith fydd cymal diweddaraf atgyfodiad y grŵp electroneg o’r 1980au, Ffenestri, sef grŵp Martyn Geraint (Llais, allweddellau) o Bontypridd, a Geraint James (llais, allweddellau, peiriant drymiau) o Abertawe. Mae’r prosiect ar ei newydd wedd hefyd yn cynnwys Sion Owens (gitâr fas) sy’n gyfarwydd fel aelod o Y Bandana ac Uumar, Bryn James (gitâr) o Abertawe, ac Ifan James (gitâr) fydd yn ymuno pan na fydd Bryn ar gael.

Fe ail-ffurfiwyd Ffenestri ar ôl iddynt gael gwahoddiad gan Nici Beech, sef “un o’n ffans gorau ni o’r holl flynyddoedd yn ôl” yn ôl Ffenestri., i berfformio yng Ngŵyl Arall.

Bydd DJ Gareth Potter hefyd yn ymuno â’r ddau grŵp ar y daith – mae Gareth yn actor a DJ preswyl yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ac yn gyn-aelod o’r grwpiau Tŷ Gwydr a Thraddodiad Ofnus. Roedd Martyn, Geraint a Gareth Potter oll yn Ysgol Gyfun Rhydfelen gyda’i gilydd.

Cysylltiad Rhydfelen

Bu i Ffenestri a Celwyddau gwrdd yn ystod y gig yng Ngŵyl Arall, ac fel cyd-ddigwyddiad mae Alun Reynolds hefyd yn gyn-ddisgybl Rhydfelen.

Dewiswyd Tŷ Tawe fel un o leoliadau’r daith gan eu bod yn dathlu 30 mlynedd o fodolaeth fis Hydref yma. Dywed Ffenestri “mae’n arwyddocaol iawn fod Ffenestri yn canu eto fel rhan o’r dathliadau gan mai ni oedd y grŵp wnaeth ganu yn y noson agoriadol nôl ym mis Hydref 1987”.

Daw’r cyhoeddiad bod cynlluniau pellach i gigio gan Ffenestri hefyd “rydym yn canu yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd ac mewn trafodaethau ar gyfer gigs yng Nghaerdydd a Gwent. Mae croeso i bobl gysylltu â ni trwy Facebook os oes awydd gan rywun i drefnu gig i ni.”

Ac mae’n debyg bod y grŵp yn bwriadu rhyddhau cynnyrch newydd yn fuan hefyd:

“Rydym yn ystyried caneuon newydd ar gyfer 2018 ond ar hyn o bryd mae’r set yn cynnwys yr hen ffefrynnau, megis ‘Oes y Cyfrifiaduron’, ‘Cymru’ a ‘Dawns yr Ysgyfarnog’”.