Taith fer ac albwm newydd Lleuwen

Mae asiantaeth Turnstile wedi cyhoedd bod Lleuwen yn dychwelyd o Lydaw ar gyfer taith fer yng Nghymru ym mis Mawrth 2018.

Bydd y gig cyntaf o’r daith yn Galeri Caernarfon ar 1 Mawrth, gyda Gwilym Bowen Rhys yn cefnogi, a bydd y gantores hefyd yn ymweld â Chaerdydd, Llanymddyfri ac Aberystwyth.

Daeth hefyd y newyddion gan Recordiau Sain bod Lleuwen ar fin recordio albwm newydd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

Dyma ddyddiadau llawn taith fer Lleuwen:

– 1 Mawrth – Galeri, Caernarfon (gyda Gwilym Bowen Rhys)

– 2 Mawrth – Acapela, Pentyrch, Caerdydd (gyda Blodau Gwylltion)

– 3 Mawrth – Neuadd Pantycelyn, Llanymddyfri (Cyngerdd Dathlu Cân Pantycelyn)

– 4 Mawrth – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth (gyda Blodau Gwylltion)

Dyma fideo o ddeuawd hyfryd Lleuwen gyda Gwilym Morus ar Bandit rai blynyddoedd nôl: