Yr artist o Gaerdydd, The Gentle Good, ydy enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni gyda’i albwm Adfeilion/Ruins.
Record hir prosiect cerddorol Gareth Bonello ddaeth i’r brig o’r rhestr fer o 12 albwm a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Roedd y rhestr fer eleni’n cynnwys albwms gan nifer o artistiaid cyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar, gan gynnwys Bendith, Georgia Ruth Williams, Gruff Rhys a HMS Morris.
Panel o naw beirniad sy’n weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth Cymreig oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd sef Kelly Kiley (Rough Trade Records), Will Hodgkinson (The Times), Jude Rogers (gohebydd), Elan Evans (DJ), Gethin Griffiths (Sôn am y Sîn), Romesh Dodangoda (cynhyrchydd), Nici Beech – Gŵyl Arall / 4 a 6), Sam Lewis (blogiwr), Sophie Smith (Outpost Coffee + Vinyl).
Mae The Gentle Good wedi cyrraedd rhestr fer y wobr ddwywaith yn y gorffennol gyda’i recordiau Y Bardd Anfarwol (gwobr 2013-14) a Tethered for the Storm (gwobr 2010-11).
Enillodd Y Bardd Anfarwol wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Llanelli dair blynedd yn ôl, ac roedd Adfeilion/Ruins ar y rhestr hir ar gyfer y wobr honno eleni a enillwyd gan Bendith. Ond, yn rhyfeddol, ni lwyddodd y casgliad i gyrraedd rhestr 10 uchaf pleidleiswyr Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni.
Er hynny roedd yr albwm yn amlwg wedi creu argraff ar Elain Llwyd wrthi adolygu’r record ar gyfer rhifyn Y Selar mis Tachwedd 2016. Ac rydan ni’n sicr wrth ein bodd â’r record feinyl lliw hyyyyfryd.
Cyhoeddwyd enw’r enillydd mewn seremoni yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, heno (nos Wener 20 Hydref) fel rhan o Ŵyl Sŵn yn y brifddinas.
Dyma sgwrs Y Selar gyda Gareth yn gynharach eleni:
Rhestr Hir Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2016-2017
– Baby Queens – Baby Queens
– Bendith – Bendith
– Cotton Wolf – Life in Analogue
– The Gentle Good – Ruins/Adfeilion
– Georgia Ruth – Fossil Scale
– Gruff Rhys – Set Fire To The Stars
– H Hawkline – I Romanticize
– HMS Morris – Interior Design
– Kelly Lee Owens – Kelly Lee Owens
– Mammoth Weed Wizard Bastard – Y Proffwyd Dwyll
– Sweet Baboo – Wild Imagination
– Toby Hay – The Gathering