Tocynnau Tregaroc yn gwerthu allan

Mae’n amlwg mai hon ydy’r wythnos ar gyfer gwerthu tocynnau gigs Cymraeg – unrhyw beth gall yr Eisteddfod Genedlaethol wneud, gall criw Tregaroc ei efelychu!

Echddoe roedd cyffro mawr ynglŷn â’r ffaith bod gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Môn fis Awst wedi gwerthu allan ar y diwrnod y rhyddhawyd y tocynnau.

Heddiw, gall Y Selar gadarnhau bod tocynnau gig diwedd nos Tregaroc yn Nhregaron wedi gwerthu allan, dim ond rai dyddiau ar ôl iddynt fynd ar werth.

Ydy, mae sgêl y digwyddiadau ychydig bach yn wahanol – bydd yn agos at 1,500 yn y Pafiliwn i weld Yws Gwynedd, Mr Phormula, Yr Eira ac Alys Williams yn perfformio gyda cherddorfa’r Welsh Pops, ond traean hynny fydd yn y babell fawr ger Clwb Rygbi Tregaron ar 20 Mai.

Ond mae mantais amlwg o ran denu cynulleidfa i gig unigryw iawn fel rhan o arlwy gŵyl gelfyddydol fwyaf Cymru dros ddenu torf i weld cerddoriaeth fyw yn nhref leiaf Ceredigion, ac mae camp trefnwyr y ddau ddigwyddiad i’w canmol.

Gwerthu’n gloi

Cwta bedwar diwrnod gymerodd hi i werthu pob un o’r 499 o docynnau ar gyfer Tregaroc eleni, ac mae hyn yn record i’r ŵyl yn ôl y trefnwyr.

“Fe aeth y tocynnau’n gloi llynedd, ond eleni yw’r flwyddyn maen nhw wedi mynd gloia’” meddai un o’r criw wrth Y Selar.

“Ma’n grêt i ni fel pwyllgor a’r dref. Croesi bysedd am dywydd sych nawr!”

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r ŵyl gael ei chynnal gan griw bach o wirfoddolwyr lleol, ac yn ogystal â’r perfformiadau yn y brif babell gyda’r hwyr, mae setiau byw gan gerddorion amrywiol yn nhafarndai’r dref yn ystod y prynhawn.

Prif atyniadau Pabell Fawr Tregaroc eleni ydy Ryland Teifi, Huw Stephens a Baldande.

Er bod tocynnau’r nos wedi eu bachu i gyd, mae dal cyfle i bobl fynd i Dregaron i fwynhau arlwy’r prynhawn yn y Talbot, y Sunnyhill a’r Clwb Bowlio yn rhad ac am ddim.

Mae perfformiadau yn y Talbot yn dechrau am 13:00 gydag Y PicTôns, Gwilym Bowen Rhys, Bois y Rhedyn a Baldande.

Bydd Elin Fflur yn perfformio yn y Sunnyhill am 16:00, ac yna Dafydd Pantod a’i fand yn y Clwb Bowlio.

Does dim amheuaeth fod yr ŵyl fach yma yng nghanolbarth Ceredigion yn mynd o nerth i nerth ac yn hwb i gerddoriaeth ac i’r ardal.