Uchafbwyntiau Cerddorol ‘Sdeddfod Môn

Yn hytrach na’ch bod chi’n gorfod fflicio trwy rhaglen y dydd wythnos nesa’, mae’r Selar wedi dewis ‘chydig o uchafbwyntiau cerddorol gŵyl fwyaf Cymru ar eich rhan. Ew, tydan ni’n dda efo chi!

Gyda chymaint yn digwydd, anodd yw cynnwys yr holl amrywiaeth godidog o gerddoriaeth mewn darn byr, o gerddoriaeth gwerin i rap, pop, roc, pync a mwy – bydd rhywbeth yn siŵr o apelio atoch chi.

Felly, dyma ddetholiad Y Selar o’n top tips cerddorol ni ar gyfer yr wythnos i nodi’n eich dyddiaduron…

Sadwrn 5 Awst

– Bydd beic Disgo #MaesB20 yn teithio o gwmpas y maes i ddathlu pen-blwydd Maes B yn ugain oed ‘leni, gan gychwyn yn y Theatr Stryd am 11:00 ar Sadwrn 5 Awst. Bydd recordiau Cymraeg yn cael eu chwarae fel rhan o’r dathliad.

Sul 6 Awst

– Magi Tudur a Gwilym Bowen Rhys yn Nghaffi Maes B – Magi 13:30 a Gwilym 17:30 (ymysg llawer o artistiaid gwych eraill fydd yno pob diwrnod)

– Ogof 360 Maes B yn cael ei gynnal am tro cyntaf – cyfle i gael profiad cwbl newydd o’r digwyddiadau byw mewn ogof ar y maes, lle bydd sesiynau cerddorol Cymraeg yn cael eu arddangos, gan gynnwys gigs Maes B, gig y Pafiliwn a sesiynau caffi Maes B a llawer mwy.

Llun 7 Awst

– Un o’r unig gyfleon i gael clywed caneuon newydd Y Cledrau fydd dydd Llun am 16:30 yng Nghaffi Maes B.

– Daniel Lloyd a Mr Pinc yn ail-ymddangos ‘Sdeddfod yma ar ôl blynyddoedd o seibiant, ar y llwyfan perfformio 17:00 ddydd Llun 7 Awst.

– Bydd label Ikaching yn cynnal noson gyda’u hartistiaid ar y nos Lun yn gig Cymdeithas yr Iaith ar fferm Penrhos – Candelas, Ysgol Sul, Cpt Smith a DJ Branwen yn chwarae. Drysau’n agor 19:30.

Mawrth 8 Awst

– Bydd Gai Toms yn chwarae tiwns o’i albwm newydd, Gwalia, ar lwyfan y maes am 17:00 ddydd Mawrth, hefo Cowbois Rhos Botwnnog yn dilyn.

– Digonedd o gerddoriaeth gan Mr Phormula, Hyll a Los Blancos yng Nghaffi Maes B ar y dydd Mawrth hefyd.

Mercher 9 Awst

– Perfformiadau gan wynebau newydd ‘sêr y sîn’ yn y Tŷ Gwerin am 16:30, sef Glain Rhys, Bethany Celyn, Emyr Lloyd Jones a Cadi Mars Jones.

– Mae Maes B yn agor ar y nos Fercher, gyda Candelas, Ffug, Cpt Smith a Chroma’n perfformio – rrrrrrrooooc

Iau 10 Awst

– Mae’r grŵp o Fôn, Mojo, yn dathlu tri deg mlynedd ers ffurfio ar y llwyfan perfformio ‘leni am 15:00 ddydd Iau

– Yn hwyrach ar y llwyfan perfformio bydd yr unig gyfle i gael clywed Yucatan yn ‘Sdeddfod yma am 19:30

– I gloi’r diwrnod wrth gwrs bydd gig mawreddog y Pafiliwn gyda Alys Williams, Yr Eira, Yws Gwynedd ac Ed Holden yn chwarae gyda cherddorfa fyw.

Gwener 11 Awst

– Heidiwch draw i Gaffi Maes B am 15:00 i gael gweld pwy sydd wedi ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.

– Cyfle i ail-fyw’r noson chwedlonol yn Eisteddfod Aberystwyth 1992 lle llwyfannwyd parti anferth ‘Noson Claddu Reu’ yn Mhafiliwn Ponrhydfendigaid. Bydd Twinfield a Gareth Potter yn cynnal sesiwn ‘Noson Atgyfodi Reu’ yng Nghaffi Maes B am 18:30.

– Lleden yn perfformio casgliad o anthemau Maes B, o Yws Gwynedd i Genod Droog er mwyn dathlu ugain mlynedd o gerddoriaeth gwych ar lwyfan y maes am 19:30 nos Wener, bydd gwesteion arbennig hefyd yn ymuno cyn i Eden orffen pethe.

Sadwrn 12 Awst

– Uchafbwynt mwyaf yr wythnos heb os, cynhelir cwis chwedlonol y Selar yn yng Nghaffi Maes B am 12:30 ddydd Sadwrn.

– Yn hwyrach yn y dydd bydd Ani Glass yn cau’r caffi gyda set am 18:30.

Dim ond ychydig o’r amrywiaeth cyffrous sydd ar gael trwy gydol yr wythnos sydd ar y rhestr yma wrth gwrs – mwynhewch ac fe welwn i chi yno!

Geiriau: Elin Siriol