Y Blew, Jarman a Wicipop

Prif nod Gwobrau’r Selar ydy dathlu’r gorau o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ond bydd cyfle eleni i dalu teyrnged a dysgu mwy am hanes y sin roc a phop Gymraeg ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror.

Bydd cyfle o weithgareddau’n ymwneud â threftadaeth y sin yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod y dydd cyn prif ddigwyddiad Gwobrau’r Selar.

Rydym eisoes wedi cyhoeddi mai Geraint Jarman fydd yn derbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar, a bydd Geraint yn perfformio mewn gig arbennig iawn ym Mhantycelyn ar nos Wener penwythnos y Gwobrau. Yn ogystal â hynny, bydd Geraint Jarman yn cymryd rhan mewn sgwrs gydag Emyr Glyn Williams o Recordiau Anks Musik ar y prynhawn Sadwrn – cyfle prin i glywed Geraint yn trafod ei yrfa dros y pedwar degawd diwethaf.

Bydd ail sgwrs yn cael ei chynnal yn Y Drwm yn y Llyfrgell hefyd, gyda Rhys Gwynfor yn holi Dafydd Evans, basydd y grŵp arloesol Y Blew.

Y Blew oedd y grŵp roc trydanol Cymraeg cyntaf, ac fe’i ffurfiwyd pan oedd yr aelodau yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth union hanner can mlynedd yn ôl. Dyma gyfle prin i ddysgu mwy am hanes y grŵp a gafodd ddylanwad aruthrol, a gosod y seiliau ar gyfer y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes sydd gennym heddiw.

Yn ogystal â chynnig cartref ar gyfer y sgyrsiau, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn mynd i hwyl gan baratoi arddangosfa aml-gyfrwng o eitemau Geraint Jarman ac Y Blew sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Bydd cyfle arbennig hefyd i fynd ar daith tywys o archifau cerddorol y Llyfrgell a gweld tu ôl i lenni’r sefydliad eiconig yn Aberystwyth. Bydd dwy daith dywys, y gyntaf am 11:30 a’r ail am 15:30, ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd felly cysylltwch â ni i fynegi eich diddordeb (yselar@live.co.uk).

Ac os nad ydy hyn oll yn ddigon, bydd golygathon Wicipop yn cael ei gynnal yn hen gaffi bach y Llyfrgell Gen rhwng 10:00 a 13:00 ar y diwrnod – cyfle i ddysgu sut mae mynd ati i lwytho gwybodaeth a chynnwys pop Cymraeg i’r gwyddionadur arlein…a chyfle i gael cinio am ddim yn y fargen!!

Dyma amserlen lawn y gweithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror:

10:00 – 13:00 – Golygathon Wicipop (Hen Gaffi Bach)

11:30 – 12:00 – Taith Dywys o gasgliadau cerddoriaeth y Llyfrgell (gyda Dan Bach)

13:00 – 13:45 – Sgwrs Geraint Jarman gydag Emyr Glyn Williams

14:00 – 14:45 – Sgwrs Dafydd Evans Y Blew gyda Rhys Gwynfor

15:30 – 16:00 – Taith Dywys o gasgliadau cerddoriaeth y Llyfrgell (gyda Dan Bach)

Bydd cyfle i weld arddangosfa aml-gyfrwng Y Blew a Geraint Jarman yn y Llyfrgell rhwng 10 Chwefror, sef Dydd Miwsig Cymru, a 18 Chwefror.

Os am sicrhau lle ar un o’r teithiau tywys gyda Dan Bach, cysylltwch trwy ebost gan nodi ‘Teithiau Archif Sgrin a Sain 18/02/17 yn y blwch testun – dan.griffiths@llgc.org.uk