Mae’r grŵp o Ddyffryn Nantlle, Y Reu, wedi datgelu i’r Selar eu bod yn bwriadu rhyddhau dwy sengl dros yr wythnosau nesaf.
Bu i’r grŵp ddechrau rhannu fideo ar gyfer trac newydd, ‘Beef’, ar eu cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, ac maent wedi cadarnhau eu bod yn bwriadu rhyddhau’r trac yn ffurfiol fel sengl yn fuan iawn.
Er nad oes dyddiad rhyddhau pendant, yn ôl Math Llwyd o’r grŵp y bwriad ydy rhyddhau “dros yr wythnosau nesaf.”
Yn ôl Math, bydd ail drac arall ar y ffordd yn fuan iawn ar ôl rhyddhau hon, ac mae’r band yn bwriadu dychwelyd i’r stiwdio’n fuan i recordio mwy o ganeuon newydd.
Recordiwyd y caneuon newydd yn Stiwdio Drwm, sef y stiwdio sy’n cael ei rhedeg gan Ifan Emlyn ac Osian Williams o Candelas.
Does dim amheuaeth fod Y Reu yn un o grwpiau mwyaf cyffrous Cymru, ond maent wedi bod yn gymharol dawel dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf yn dilyn rhyddhau eu EP ‘Hedyn’ ar label I Ka Ching yng Ngorffennaf 2015.