Yn y stiwdio: Mei Emrys

Vanta, cofio nhw?

Mae tua thri mis a deg mlynedd wedi bod ers i ni glywed ganddyn nhw ddiwethaf ond mae’r prif leisydd, Mei Emrys, yn ôl gyda deunydd unigol.

Mae o wedi bod yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, yn recordio fesul tipyn gyda Rich Roberts ers tua blwyddyn bellach.

“Dwi’n ’nabod Rich ers blynyddoedd, ac oeddan ni wedi sôn am recordio yn Ferlas ers tro, felly dwi’n falch iawn fy mod i’n cael y cyfle o’r diwedd” meddai Mei wrth Y Selar.

“Ochr yn ochr â’i ddawn amlwg o fel cynhyrchydd, mae o’n gerddor anhygoel, ac mae’n grêt gallu rhannu syniadau a datblygu caneuon efo fo. Mae Yws Gwynedd wedi bod yn galw i mewn i’r stiwdio i weld be sy’n mynd ymlaen hefyd ac mae o wedi cyfrannu cwpwl o syniadau a chwarae gitâr ar un o’r traciau.”

Dim ond tair neu bedair cân sydd ar ôl i’w recordio felly mae Mei yn anelu at ryddhau’r albwm ar Recordiau Côsh yn ystod yr haf.

Does dim bwriad ar hyn o bryd i ryddhau senglau yn y cyfamser ond mae dau drac gorffenedig eisoes ar gael ar soundcloud.com/meiemrys